Main content

Torfeydd yn gwylio gemau Cynhgrair Undebol Huws Gray

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roeddwn i’n gwylio Treffynnon brynhawn dydd Mawrth diwethaf, yn eu gem darbi yn erbyn y Fflint.

Gobeithiwyd am dyrfa go lew, ond daeth llawer mwy na’r disgwyl wrth i dros 800 o gefnogwyr wneud eu ffordd i gae Ffordd Helygain. Ond, nid dyna’r dorf arau yn y gemau yng nghynghrair Huws Gray a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw.

Dan wal yr Ofal yng Nghaernarfon, gwelwyd torf o dros 1200 yn gwylio tîm y Cofis yn trechu Porthmadog. Mae yna lawer o son wedi bod am newid gemau i'r haf, a hyn yn bennaf er mwyn helpu timau Cymru i berfformio’n well wrth gystadlu ar lwyfan Ewrop.

Fodd bynnag, mae canlyniadau timau ar lefel Ewropeaidd wedi gwella’n fawr dros y blynyddoedd diweddar, ond hefyd fe fyddai rhaid ystyried i ba raddau a fyddai newid trefn pêl droed yn gyfan gwbl ar draws Cymru ac ar draws y gwahanol gynghreiriau'n bennaf er mwyn sicrhau parhau a dilyniant o fewn dyrchafiad a gostyngiad ar ddiwedd tymor o un cynghrair i'r llall.

Mae son hefyd am y posibilrwydd o well torfeydd yn yr haf, ond ar y dystiolaeth yma yng Nghaernarfon a Threffynnon, gwael iawn ydi sail y ddadl yna.

Rwy’n fodlon cyfaddef fodd bynnag , mai hwyrach nid cynghrair Huws Gray fel y cyfryw sydd yn gyfrifol am y torfeydd, ond gemau lleol fel gwelwyd, a phe byddai'r timau yma wedi cyfarfod yn Uwch gynghrair Cymru , mae’n debyg y byddwn yn gweld torfeydd tebyg (os nad rhai mwy efallai!)

Yn hytrach na newid gemau i'r haf, os am newid trefn er mwyn gwella safonau, neu gyrraedd yr un safonau a safonau’r Seintiau Newydd hwyrach?

A fyddai cael dwy gynghrair rhanbarthol, gogledd a de, yn atyniadol drwy'r tymor, gyda phob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith, yn well, ac yn gweld y pedwar neu ddau uchaf yn y naill gynghrair a'r llall yn wynebu ei gilydd mewn gemau ail gyfle ar y diwedd er mwyn penderfynu pa dim a fyddai'n bencampwyr cynghrair cenedlaethol Cymru.

Neu - os am ddilyn camp y Seintiau a gwella safonau ydi’r nod, a’i cael timau llawn amser, rhywsut neu'i gilydd, a fydda’i ateb?

Rywbeth i feddwl amdano dros y flwyddyn newydd efallai?

Mwy o negeseuon

Nesaf

Penblwydd Hapus Ar y Marc yn 25 oed