Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 13/01/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Rhaglen Dylan Jones - Catrin Hardy

adduned blwyddyn newydd - new year's resolution
cyfryngau cymdeithasol - social media
cymryd fy sylw - drawing my attention
ar gyfer pa ddiben - for what purpose
cymdeithasu - to socialise
llwyth o bethau - loads of things
oherwydd - because
ymdrech - an attempt
llwyddo yn dy her - suceeding in your challenge
ail-gydio - take up again

"Blwyddyn Newydd Dda! Dach chi wedi gwneud adduned blwyddyn newydd bellach? Adduned Catrin Hardy, sydd yn athrawes addysg gorfforol yn Lerpwl, ydy peidio â defnyddio gwefannau cymdeithasol am fis cyfan. Yn ôl Catrin roedd pethau fel Facebook ac Instagram yn dechrau cymryd ei bywyd drosodd ac mi fuodd hi'n dweud mwy am ei phenderfyniad wrth Dylan Jones ..."

 

Straeon Bob Lliw - Fabio Lewis

antur - adventure
tad-cu - taid
mab cyntaf anedig - first born son
disgynnydd - descendant
ymfalchïo - to be proud of
diwylliant Cymreig - Welsh culture
y ddelfryd - the ideal
ar y gweill - in the pipeline
Archentwyr - Argentinians
braint ac anrhydedd - an honour and a privilege

Catrin Hardy yn fan'na yn sôn am ei adduned blwyddyn newydd wrth Dylan Jones. Wel mi roedd 2015 yn dipyn o flwyddyn i Batagonia, wrth iddyn nhw ddathlu cant pumdeg o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf fynd draw i'r wlad. Ond roedd hi'n dipyn o flwyddyn hefyd i Fabio Lewis, ei wraig Ann Marie a'u plant. Mae Fabio yn dod o Batagonia'n wreiddiol ond mae o wedi byw yng Nghymru ers blynyddoedd ac wedi priodi Cymraes. Y llynedd aeth y teulu i Batagonia er mwyn i Fabio ac i Ann Marie ddechrau gweithio fel Swyddogion Datblygu’r Gymraeg yno. Ar Straeon Bob Lliw mi glywon ni recordiad o Fabio ac Ann Marie yn siarad am eu hantur mawr cyn iddyn fynd draw fis Chwefror diwetha...

 

Bore Cothi - Keith Williams

mabwysiadu - to adopt
teulu brenhinol - royal family
cwrdd â - cyfarfod efo
cydfynd â fe - cytuno efo fo
codi lan - magu
ymateb - to respond
croten - merch
hales i neges - I sent a message
mor rhwydd - mor hawdd
cwpla - gorffen

"Mae Fabio a'i deulu ar y ffordd nôl i Gymru rwan ar ôl treulio y rhan fwyaf o'r llynedd ym Mhatagonia. Dw i'n siwr cawn ni glywed dipyn o'u hanes nhw ar Radio Cymru ar ôl iddyn nhw gyrraedd adra. O Batagonia draw i Malaysia rwan. Mi gafodd Keith Williams dipyn o sioc ar ôl iddo fo chwilio mewn i hanes ei deulu. Roedd Keith wedi cael ei fabwysiadu pan oedd yn ddwy oed, ac yn y rhaglen deledu ‘Fy Nhad y Swltan’ oedd ar S4C yr wythnos diwetha, wnaethon ni glywed sut daeth Keith i wybod fod ei dad genedigol yn aelod o deulu brenhinol Malaysia. Dyma Keith yn dweud yr hanes wrth Heledd Cynwal ar Bore Cothi..."

 

Rhaglen John Walter - Pam dysgu Cymraeg?

newyddiaduriaeth - journalism
Prif Weithredwr - Chief Executive
Cyfarwyddwr Dysgu - Director of Studies
y grêd oedd - the belief was
buddiol - beneficial
gweithred cenedlaetholgar - a nationalistic act
denu - to attract
ysgoloriaeth - scholarship
cymhelliad - motivation
cyflogaeth - employment

"Keith Williams o Benygroes yn Sir Gaerfyrddin yn dweud wrth Heledd Cynwal sut daeth o i wybod bod ei dad genedigol yn Swltan! Pwnc Rhaglen John Walter ddydd Mercher oedd faint o arian sydd yn cael ei wario ar y Gymraeg. Roedd tri o westai'r rhaglen wedi dysgu Cymraeg. Mae Sian Morgan Lloyd yn darlithio mewn newyddiaduriaeth, Liz McLean ydy Prif Weithredwr Menter Iaith Merthyr Tudful a Dr Adrian Price ydy Cyfarwyddwr Dysgu, Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd. Buodd y tri'n dweud wrth John Walter pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Adroddiad gem Man Utd v Abertawe

Nesaf

Perfformiadau Wrecsam