Main content

Geirfa Podlediad Pgion i Ddysgwyr - Mehefin 17, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dylan Jones - C诺n Pesda

...y 'Pesda Pooches'. Be goblyn ydy rheina meddech chi? Wel 'Pesda' ydy be mae'r bobl leol yn galw tref Bethesda yng Ngwynedd, ac mae Sian Lloyd Ellis newydd dechrau busnes yna o'r enw 'Pesda Pooches'. Dyma Si芒n yn dweud wrth Dylan Jones fore llun diwetha am y gwasaneth arbennig iawn mae hi'n ei gynnig i g诺n Dyffryn Ogwen...

c诺n - dogs

chydig o ddamwain - a bit of an accident

nyrs arbenigol - specialist nurse

lleihau fy oriau - reduce my hours

be sy'n talu orau - what pays best

trin - to treat

blew c诺n - dogs' hair

perchennog - owner

torri gwinedd (ewinedd) - to cut nails

y rhan fwya ohonyn nhw - most of them

Dan yr Wyneb - Sgw芒r Tiananmen

Dylan Jones yn fan'na yn siarad efo Sian Lloyd Ellis am y Pesda Pooches, ac mi roedd y rhaglen honno'n dod yn fyw o gaffi Coed y Brenin ym Methesda. Dan ni'n mynd yn bell iawn o Wynedd rwan - yr holl fordd i Tsiena. Mae hi'n bum mlynedd ar hugain ers i lygad y byd fod ar yr hyn oedd yn digwydd yn Sgw芒r Tiananmen, yn Bejing. Roedd Lucy Hughes yn Bejing yn ystod y trafferthion ac yn cofio'r digwyddiadau'n glir iawn. Nos Lun diwetha mi fuodd hi'n s么n wrth Dylan Iorwerth am ei hatgofion. Dyma i chi flas ar y sgwrs..

chwyldro diwyllianol - cultural revolution

rhyddid - freedom

awyrgylch - atmosphere

y fyddin - the army

dychwelyd - dod yn 么l

alla i dystio - I can testify

y werin - the ordinary people

tyngedfennol - decisive

wedi ei clwyfo - injured

ffrwydriadau - explosions

Bore Cothi - Ian Baar

Lucy Hughes yn fan'na yn dod 芒 digwyddiadau Sgw芒r Tiananmen yn fyw iawn i wrandawyr rhaglen Dan yr Wyneb nos Lun diwetha. Sgwrs ychydig yn wahanol sydd ganddon ni rwan, Shan Cothi yn siarad efo鈥檙 hyfforddwr llais Ian Baar. Mae Ian o'r farn bod yna rhyw dalent canu arbennig iawn gan bobl Cymru. Doedd hynny fawr o help iddo fo fodd bynnag pan oedd rhaid iddo fo ganu'r hen g芒n Gymraeg 'Arafa Don' mewn cystadleuaeth yn y coleg. Roedd clywed Shan yn s么n am y 'don' yn ddigon i ddod ag atgofion hunllefus yn 么l iddo fo...

atgofion hunllefus - dreadful memories

o'r crud - from the cradle

fel rheol - fel arfer

cantorion ifanc - young singers

y ddawn naturiol - the natural talent

mantais - advantage

tonnau - waves

ysgoloriaeth - scholarship

Ystyr success

ffwndro - to be confused

Rhaglen Dylan Jones - Brasil

Dw i'n siwr ein bod ni gyd yn difaru rhywbeth o'r gorffennol, fel Ian Baar yn fan'na yn siarad ar Bore Cothi ac yn difaru peidio 芒 pharatoi ar gyfer y gystadleuaeth. Tybed ydy Dyfan Owen yn difaru gadael Brasil rwan bod Cwpan y Byd ymlaen? Mi fuodd Dyfan yn byw yn Brasil tan ddwy flynedd yn 么l, ac mae o wedi priodi merch o Brasil. Pa d卯m felly bydd o'n ei gefnogi yn y twrnament? Dylan Jones ofynnodd hynny iddo fo ddydd Iau - cyn y g锚m agoriadol. Cwestiwn gwirion ynde?

y cynnwrf - the excitement

difaru - to regret

ymdopi - to cope

trafnidiaeth - transport

tlodi - poverty

ddim mwyach - no longer

celfyddyd - art

dagrau mawr - huge tears

disgwyliadau - expectations

gwledd - a feast

Mwy o negeseuon