Main content

Cofio Bradley Lowery.

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Heddiw mae angladd Bradley Lowery.

Hwyrach i chi gofio’r bachgen bach chwech oed, a fu’n fascot i dîm pêl droed Sunderland ac a ddylanwadodd cymaint, yn ei oes fer, ar gymaint o bobol gyda’i wen barhaus er waethaf ei salwch o gancr .

Mae dros filiwn o bunnau wedi ei gasglu i gronfa elusennol er mwyn cefnogi teuluoedd sydd â phlant a chancr, ac sydd yn wynebu' un frwydr a wynebodd Gemma a Carl Lowery, tad a mam Bradley.

Bydd miloedd yn ymgynnull ar stydoedd pentref Blackhall Colliery yn swydd Durham heddiw ac mae’r teulu wedi gofyn iddynt wisgo crysau pêl droed, er cof am Bradley, gyda’r neges ‘ cancer has no colours’ ar y crysau.

Ond, ‘dyw’r gefnogaeth ddim yn stopio yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Y bore 'ma, a minnau’n byw gyferbyn ac ysgol gynradd Bro Carmel, ger Treffynnon, roedd bron pob un disgybl, mawr a bach, yn cyrraedd yr ysgol yn gwisgo crysau neu sgarffiau pêl droed, a hynny ar gais gan dri o’r disgyblion, os gallant hwythau, yma yn sir y Fflint, dalu eu teyrnged i Bradley Lowery.

‘Rwyn deall hefyd fod nifer o ysgolion eraill o gwmpas Cymru a thu hwnt yn gweld eu disgyblion yn gwisgo crysau pêl droed heddiw.

Wedi iddo farw ym mreichiau ei rieni, dwedodd Gemma a Carl fod Bradley wedi mynd i ‘hedfan gyda'r angylion’

Anghofiwn fyth mo Bradley, ac yn y byd hunanol, materyddol a welwn heddiw, yna roedd bywyd Bradley fel pelydryn o ysbrydoliaeth am yr hyn a ddylwn i gyd wneud fel pobol - cyd fyw mewn heddwch a brawdgarwch.

Diolch i ddisgyblon ysgol Bro Carmel a disgyblion yr holl ysgolion eraill sydd wedi penderfynu talu eu teyrngedau i fywyd ac ysbrydoliaeth Bradley Lowery.

Boed i Bradley bach gysgu (a hedfan) mewn hedd gyda’r angylion.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

#40Mawr: 10 Uchaf Kate Crockett

Nesaf