Main content

Yr ŵyl yn dod i derfyn

Owain Gruffudd

Gohebydd WOMEX

Roedd hi’n anodd credu neithiwr fod WOMEX ar fin dod i ben. Ar ôl wythnos llawn o gerddoriaeth a rhwydweithio, roedd amser i un noson olaf o Showcases.

Y band cyntaf nes i lwyddo i wylio oedd We Banjo 3. Roedd ambell i fand gwerin Gwyddeleg roeddwn i wedi gweld dros y penwythnos wedi bod yn eithaf safonol – dim byd rhy gyffrous nac annisgwyl – ond roeddwn i wedi mwynhau perfformiad y band yma o Galway.

Roedd hi’n set egnïol wnaeth greu awyrgylch dda a gwneud i’r dorf ymateb i’r gerddoriaeth. Roedd hi’n amlwg fod yr hogia’ yma yn mwynhau ar y llwyfan a fe wnaeth y teimlad yna drosglwyddo i’r gynulleidfa. Roedd ambell elfen ohonynt yn denu cymhariaeth naturiol â Mumford and Sons...ond fe wnes i fwynhau rhain tipyn mwy!

9Bach

Y band oedd yn cynrychioli Cymru ar y noson Showcase olaf oedd 9Bach – sydd newydd arwyddo i label recordio Peter Gabriel, Real World. Roeddwn yn teimlo fod 9Bach wedi llwyddo i gyflwyno rhywbeth gwahanol i’r hyn roeddem ni wedi glywed gan y Showcases o Gymru yn ystod yr wythnos.

Roedd yn sicr yn dod ag elfennau cyfoes iawn i’r set, ac yn dro annisgwyl, ond effeithiol, ar yr elfennau gwerin yn eu cerddoriaeth. A’r newydd da ydi fod albym hir ddisgwyliedig ar ei ffordd blwyddyn nesaf.

Mae’n rhaid bod yn onest, cyn WOMEX doeddwn i ddim yn ffan mawr o gerddoriaeth byd a ddim yn siwr iawn beth i ddisgwyl. Ond mae’r ŵyl ei hun a safon y gerddoriaeth oedd yn cael ei gynnig wedi fy siomi ar yr ochr orau a fe wnes i wir mwynhau cael y cyfle i fod yn rhan o WOMEX.

Dwi’n edrych ymlaen i weld sut effaith gaiff yr ŵyl ar gerddoriaeth gwerin yma yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sesiwn Fach: Dydd Sadwrn yn Womex

Nesaf

Cyfres deledu "Thank God For Football"