Main content

Tlws Cymdeithas Peldroed Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Siom i'r Bala a Threffynnon yn rowndiau gyn derfynol Cwpan Cymru, ond llongyfarchiadau i Aberystwyth a’r Seintiau Newydd a fydd yn cyfarfod yn y ffeinal ar Fai y 3ydd ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam.Ìý

Ni welwyd y dorf fwyaf erioed ar faes Airbus ym Mrychdyn lle enillodd y Seintiau, ond roedd Parc Latham yn y Drenewydd yn llawn cyffro a chynnwrf gyda bron fil o gefnogwyr yn llawnÌý balchder dros eu timoedd wrth gadw sŵn, a chodi'r canu yn llawn brwdfrydedd.

Os oedd unrhywbeth neu rywun yn enillwyr ar y dydd,Ìý yna cefnogwyr balch Treffynnon ac Aberystwyth oedd y rheini. Dyma be oedd cefnogaeth go iawn.

Cefnogaeth lafar yn llawn awch, yn barchus ac uchel eu llais. Roedd côr cymanfa ffyddloniaid Treffynnon yn ei morio ac wedi codi yn gytgan o anghrediniaeth gerddorol wrth weld e'u tîm yn achub y blaen yn fuan yn y gêm. Ffynniant i Dreffynnon, balihw ar Barc Latham, Ewrop ar y gorwel a breuddwyd amhosibl arall o Dreffynnon ar fin gael ei chanu!

Parhaodd y gymanfa yn llawn clochdar, balchder a gorfoledd. Doedd dim casineb at unrhyw un, dim sarhad, a chefnogwyr Aber hefyd yn ymateb yn llawn mor gefnogol, yn obeithiol ar y cychwyn cyn gorfoleddu wrth weld eu tîm yn distewi'r gymanfa a dod yn gyfartal ar drothwy’ hanner amser.

Roedd llond pedwar bws wedi teithio i ganolbarth Cymru ynghyd a thorf arall o gefnogwyr a wnaeth ''away day ar y trên ohoni. Yn ogystal, roedd ceir di-ri yn llifo ar hyd y brif ffordd rhwng gogledd ddwyrain Cymru a Pharc Latham a llawer gyda’i sgarffiau coch a gwyn yn amlygu'u hunain.

Pnawn hefyd i gyfarfod hen gyfeilion o Aberystwyth, o'n ddyddiau dedwydd ynÌý Uwch gynghrair Cymru .

Ie prynhawn cofiadwy o ran ymdrech lew Treffynnon, o ran dycnwch Aberystwyth ac yn bennaf wrth weld dau set o gefnogwyr yn gosod yr esiampl orau bosibl ar sut i ddilyn a chefnogiÌý tîm eu tref. Llongyfarchiadau iddynt i gyd, a mawr obeithiaf y bydd cefnogaeth Aberystwyth yn cael ei efelychu eto yn y ffeinal wrth wynebu’r Seintiau Newydd.

Tybed a all Aberystwyth gyflawni’r gamp nas efelychwyd ers 1900, gyda'r chwedlonol Leigh Richmond Roose yn y gôl, a chipio Cwpan Cymru am y tri cyntaf ers dros gan mlynedd?

Dydd Sadwrn yma yn y Rhyl, bydd ffeinal arall, sef ffeinal Tlws Cymdeithas bel droed Cymru yn cael ei chynnal rhwng Llanrug a’r Waun.

Os ydi fy niddordeb yn hanes pêl droed wedi fy nghyfeirio at Leigh Richmond Roose ac Aberystwyth, yna bydd rhaid hefyd gyfeirio at y Waun fel tîm lleol, a thîm cyntaf y seren hanesyddol o Gymro, sef Billy Meredith.

Yn nyddiau cynnar pêl droed Cymru llwyddodd y Waun i gipio Cwpan Cymru pum gwaith, yn 1887, 1888, 1890, 1892, a 1894 a hefyd colli yn ffeinal 1892-93. Roedd Meredith yn aelod o'r tîm a gollodd yn y ffeinal yma, o ddwy gol i un yn erbyn Wrecsam.

Mae hanes y Waun yn amlwg yn y blynyddoedd cynnar oherwydd dylanwad prifathro ysgol y pentrefÌý T.E. Thomas a oedd a dylanwad mawr ar y gêm fel llywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru. Arweiniodd hyn at weld pedwar deg naw o chwaraewyr o'r ardal yn cynrychioli eu gwlad yn y cyfnodau cynnar yna, a llawer o rai eraill yn cael achubiaeth o’r pyllau glo lleol drwy droi yn chwaraewyr pêl droed proffesiynol.

Cymaint oedd dylanwad y Cymry o'r gogledd ddwyrain ac ardal lofaol Wrecsam ar y pryd nes i dîm hynod o alluog, sef y Manchester Welsh gael ei ffurfio gan y rhai a gafodd waith yn ardal Manceinion.

Roedd y tîm yma yn un o'r gorau cyn sefydlu'r Gynghrair Bel Droed yn Lloegr. Ond roedd poblogrwydd cynyddol y timoedd a ddaeth i gael eu hadnabod felÌý Manchester City a Manchester United wedi sicrhau fod ganddynt afael gwell ar y chwaraewyr gorau a oedd ar gael. Oherwydd hyn, daeth llwyddiant a chynaladwyedd y Cymry drwy eu tîm arfaethedig i ben.

Ychydig yw'r dystiolaeth am dîm y Manchester Welsh a byddai ymchwil i'w dylanwad a'u bodolaeth yn un gwerth ei ystyried.

Y Waun a'r ardal leol oedd canolfan pêl droed Cymru yn oes Fictoria, gyda'r Derwyddon o Gefn Mawr cyfagos hefyd yn gosod safon uchel.

Ond yn ôl y nes at y presennol, ac mae’r Waun hefyd wedi cipio’r ’ Dlws presennol, o dan yr hen enw o Gwpan Amatur Cymru, yn 1958-58, 1959-60, a 1962-63.

Ar y llaw arall, bydd ymddangosiad mewn unrhyw ffeinal cenedlaethol yn brofiad newydd i Lanrug. Yn ail yng nghynghrair Lock Stock Gogledd Cymru, wedi colli ond dwywaith drwy’r tymor maent yn prysur ddatblygu eu hanes cyfoes fel tîm lleol addawol o dan eu rheolwr Aled Owen.

Da gweld Aled yn datblygu ei allu fel rheolwr, chwaraewr galluog iawn ynghanol cae a oedd yn aelod o dîm Porthmadog i mi fel rheolwr yna ers llawer dydd.Ìý

Mae’n argoeli am gêm arall gyfforddus ddydd Sadwrn gyda'r gic gyntaf yn Stadiwm Corbett Sports y Rhyl am hanner awr wedi dau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dewis Hoff Fardd Cymru