Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 3

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Rownd 1, rhaglen 3,Ìý5ÌýMai 2013:ÌýMaes-y-waun ger y Bala

Roedd adnoddau daearyddol y We yn amau bodolaeth Neuadd Maes-y-waun, lleoliad ricordio’r Talwrn heno. Felly dyma fi’n ffonio fy nghyfaill tra gwybodus, y Prifardd Tudur Dylan Jones, am gyfarwyddiadau. Roedd hwnnw ar y ffordd i Old Trafford, ond fe addawodd ffonio’n ôl – a hynny ar ôl iddo gysylltu â’r Prifardd Elwyn Edwards (neu Swêl ar lafar gwlad), yr hwn sydd ganddo wybodaeth gyfrin (a lleol!).Ìý

A, do wir (a diolch i’r ddau brifardd), cafwyd cyfarwyddiadau i’r dim. Ac mae’n amlwg bod criw go lew o’r bobol leol hwythau wedi cael cyfarwyddiadau tebyg, yn ôl y dorf frwd a diwylliedig a ddaeth ynghyd i wrando ar gampau’r beirdd ac i yfed te.

Siom fawr y noswaith oedd fod tîm Ysgol Dyffryn Conwy wedi gorfod tynnu allan o’r ornest, a hynny oherwydd cyfuniad o anawsterau.

O wybod am y pwysau sydd ar athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd, mae’n gamp eu bod nhw, fel tîm Ysgol y Berwyn yn wir, yn llwyddo i gefnogi’r gyfres gystal o flwyddyn i flwyddyn.

Edrychwn ymlaen at gael cwmni Andrea Parry a’i chriw yn ystod y gyfres nesaf, ac, o bosib hefyd, os yw’r sïon i’w coelio, gael cwmni tîm ysgol arall.

Cafwyd gornest dda rhwng y ddau oedd yn weddill, sef Criw’r Ship a’r Manion o’r Mynydd, ac er cystal oedd yr englyn ar y pryd a gawsom gan y ManionÌý ar ddiwedd yr ornest, roedd ffraethinebÌý beiddgar tasgau ysgafn Criw’r Ship wedi sicrhau y byddai hanner marc o fwlch rhyngddyn’ nhw â’u gwrthwynebwyr. Na ddiystyrrwch yr awen lawen.

Yr oedd aelod newydd ifanc yn rhengoedd y Manion, sef Ioan Gwilym, un a fu yn astudio Ysgrifennu Creadigol yn Lerpwl hyd at yn ddiweddar, ac roedd yn braf cael ei gwmni.

Ychydig ar ôl y darllediad, dyma ddod i ddeall taw mab y diweddar Phyllis Evans ydoedd, a hithau wedi bod tan llynedd yn un o aelodau’r Manion. Yn wir, rhaglen er cof am Phyllis oedd y darllediad hwn.

Cymharol ychydig o gynigion ychwanegol a gafwyd gan y timau ar bob tasg yr wythnos hon, ond, yn eu plith, roedd sawl un gogleisiol.

Dewisodd Gari Wyn ein hatgoffa o’r rheswm y bu gohirio ar y gyfres bresennol o’r Talwrn o gwbwl:

Ie'n ddi os, Eos ddaeth
a'iÌý'Na'n herio Corfforaeth.

Criw’r Ship

Ìý(Faint ohono’ chi, anoraciaid yr acen, sy’n derbyn yr ail linell fel un gywir? A oes hawl cynnwys dwy ‘n’ wreiddgoll? Neu ai cyfri’r ddwy yn un a wneir? Rwy’n cofio’r Prifardd Idris Reynolds yn cloi englyn ar Y Talwrn gyda’r llinell ‘Yn un maen, yn glawdd mynydd’...)

Cwpled crafu-pen a gafwyd gan Nicci Beech wedyn.

Y 'na' sydd yn synnu un
a'r 'ie'n synnu rhywun.

Criw’r Ship

Am wn i nad yw hi’n dweud bod barn groes ar bopeth dan haul (gan gynnwys ar gerddi beirdd Y Talwrn!)

Mae lladd ar eich gwrthwynebwyr ar lawr y talwrn yn draddodiad anrhydeddus. Ond mae iddo ei beryglon, fel y bu i’r Manion ddarganfod:

Hanner tabled fach wnaiff godi
Cân beirdd Manion i’ch sirioli,
Cân Criw’r Ship a Chonwy ddaru
Yrru Ceri Wyn i gysgu.

Manion o’r Mynydd

Gwaetha’r modd, doedd y Manion ddim i wybod wrth lunio’r pennill difyr hwn na fyddai tîm Ysgol Dyffryn Conwy yn bresennol ar y noson!

Roedd yn chwith gen i beidio â chynnwys y gerdd rydd nesaf hon yn y ricordiad, oherwydd mae rhywbeth ffres amdani, o ran ei dweud a’i phwnc:

Diosg

Un gyda’r nos
annisgwyl
obeithiol,

llwyddodd dau
i ddatod pwythau plentyndod
a gadael i’r defnydd brau
lithro’n ofalus
tua’r llawr

a chofleidio’n
gyffyrddus

gyffrous.

Manion o’r Mynydd

O.N. Nid y We yn unig sy’n cael trafferthion daearyddol. Roedd Blog y Talwrn wedi awgrymu wythnos dwetha taw yn Nhwrci y mae Marrakech.Ìý Er mawr ryddhad i’r ddinas honno, mae’n para i fod ym Morocco. Ymddiheuriadau!

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 02 Mai 2013

Nesaf

Diwedd Tymor yng Nghymru