Main content

Pigion i Ddysgwyr: 30 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Nia - Dai Jones

plentyndod - childhood
anwiredd - untruth
cynhebrwng - angladd/funeral
cyfarwyddwr - director
ail ergyd ar yr haearn (idiom) - second Chance
yn allweddol - crucial
petai a phetasai - ifs and buts
certi llaeth - milk carts
aelwyd - hearth
diystyrru - to ignore

"...dathlu penblwydd arbennig iawn Dai Jones Llanilar. Roedd Dai yn saithdeg oed yr wythnos diwetha ac mi ddaeth i'r stiwdio i gael sgwrs fach efo Nia Roberts. Mae'n bosib iawn y byddwch chi'n dysgu un neu ddau o bethau newydd wrth wrando ar y clip yma. I ddechrau, cockney ydy Dai. Ia dyna chi, Dai Jones Cefn Gwlad yn dod o Lundain yn wreiddiol, wir yr. Hefyd mi wnewch chi ddysgu bod y fath beth i'w gael a 'gwyliau tatws'. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Dai a Nia... "

Taro'r Post - Atal dweud

atal dweud - stammer
golygydd - editor
llysgennad - ambassador
cyflwr - condition
cleifion - patients
llwyddo - to succeed
beirniadu - adjudicating
traddodi - delivering (a speech)
torfeydd - crowds
pwysau - pressure

"Dw i'n siwr bod Cymru i gyd yn gwybod bod Dai Jones yn ofn dwr, ar 么l ei weld yn panicio sawl gwaith ar y teledu. Ond ofn cathod hefyd? Anodd credu mai ffarmwr ydy o weithiau yntydy? Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Atal Dweud ddydd Mawrth diwetha, ac mi glywon ar Taro'r Post y diwrnod hwnnw rai o brofiadau dau sy'n diodde o'r cyflwr, y bardd John Griffith Jones ac Arwel Richards, llys-gennad i鈥檙 Gymdeithas Atal Dweud. Dyma John Griffiths Jones i ddechrau... "


Rhaglen Dei Tomos - Hel achau

hel achau - genealogy
coeden deuluol - family tree
cenhedlaeth - generation
murddun - ruin
tystiolaeth - evidence
darllengar - fond of reading
chwalu - to demolish
brau - brittle
parhad - continuance
yn gynhenid - ingrained

A gobeithio bod clywed profiadau positif John ac Arwel yn rhoi hyder i rai eraill sy'n diodde o atal dweud ynde? Rwan ta, sgynnoch chi ddiddordeb mewn hel achau o gwbl? Dw i'n nabod llawer o bobl sy wedi llwyddo i greu coeden deuluol sy'n mynd yn 么l rai cannoedd o flynyddoedd. Ond mae Wyn Jones o Dy鈥檔 Braich, Cwm Maesglasau ger Dinas Mawddwy yn medru mynd yn 么l mil o flynyddoedd efo hanes ei deulu o. A nid yr unig hynny ond mae'r teulu wedi bod yn ffarmio'r un darn o dir dros yr holl flynyddoedd hynny. Dyma Wyn a'i wraig Olwen yn sgwrsio efo Dei Tomos...


Rhaglen Dafydd a Caryl - Alexandra Roach

y we - the internet
cwrdd lan - to meet up
cwmpo mewn cariad - to fall in love
craig - rock
sbri - hwyl
gweddill - the rest
golygfeydd - scenes
haeddu - to deserve
amlygrwydd - prominence
clyweliad - audition

"Mil o flynyddoedd...dydy rhaglenni fel 'Who Do You Think You Are' ddim yn dod yn agos at hynny, nag ydyn? Hanes y canwr Paul Potts oedd yn cael sylw gynnon ni ar raglen Daf a Caryl ddydd Gwener. Bydd llawer iawn ohonoch chi yn ei gofio siwr o fod yn ennill Britiain's Got talent chwe blynedd yn 么l. Mae yna ffilm o'i fywyd ar fin gael ei rhyddhau, sy'n dangos pa mor enwog ydy Paul erbyn hyn. 'One Chance ydy enw'r ffilm a Chymraes, Alexandra Roach, sydd yn actio rhan gwraig Paul, Julie-Ann. Dyma hi'n rhoi dipyn o hanes y ffilm i ni..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts

Nesaf

Gwireddu Breuddwyd yn y Bernabeu