Main content

Penderfyniadau dyfarnwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roedd yr Americanwraig Lexi Thompson, 22, yn arwain yng nghystadleuaeth golff ‘ANA Inspiration’ yng Nghaliffornia, ddydd Sul diwethaf pan gafodd gosb o bedwar-ergyd ar ôl i wyliwr teledu gysylltu â swyddogion yn gystadleuaeth gan dynnu eu sylw i'r ffaith fod Thompson wedi torri rheolau’r gêm tra’n ail osod y bel yn anghywir.

O ganlyniad, yn hytrach na chael ei chydnabod fel yr enillydd, bu raid i Thompson chwarae rownd ail gyfle yn erbyn yr enillydd terfynol, Ryu So-yeon.

Mae llawer o chwaraewyr golff proffesiynol wedi cydymdeimlo a Thompson yn sgil y digwyddiad yma, gydag un chwaraewr yn dweud  ei fod yn methu a deal sut mae gan y cyhoedd yr hawl i gysylltu, ac os felly, bod yna tua dwy filiwn o ddyfarnwyr yn barod i roi barn ar unrhyw ddigwyddiad na fydd yn eu plesio!

Wel wir!  A faint ohonom sydd heb gael eu plesio gan benderfyniadau neu ddigwyddiadau ar y cae pêl droed?

Mae llawer i un yn y cyfryngau, ac o fewn y gêm, wedi creu st诺r am dacl flêr Ross Barkley ar Dejan Lovren o Lerpwl yn y gêm ddarbi rhwng Everton a Lerpwl y Sadwrn diwethaf. Cerdyn melyn oedd cosb y dyfarnwr i Barkley, ond petai lawer i un arall o fewn y gêm wedi cael ei ffordd, fe fyddai wedi gweld cerdyn coch.

Ar y cae pêl droed mae barn a phenderfyniad y dyfarnwr yn un terfynol, ond meddyliwch am funud petai’r gêm yn efelychu golff!

Ymddengys fod rheolau golff yn cael eu hadolygu, os felly hwyrach mai da o beth fyddai iddynt benderfynu, fel ym mhêl droed, rygbi a llawer (os nad pob un) gem arall, fod penderfyniadau’r dyfarnwr yn hollol bendant a therfynol (ac os oes rhywun am son am ddefnyddio technoleg gwybodaeth i benderfynu os yw'r bel wedi croesi llinell, yna'r dyfarnwyr a’u cynorthwywyr sydd yn rheoli'r rheini hefyd).

Un agwedd o bêl droed sydd wedi cynddeiriogi llawer ydi’r arfer gan rai chwaraewyr o arwyddo i'r dyfarnwr y dylai un o’r gwrthwynebwyr dderbyn cerdyn am drosedd, a oedd yng ngolwg y chwaraewr, yn drosedd a ddylai dderbyn cerdyn coch neu felyn.

Gyda mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o dechnoleg, mae yna bryderon yn codi yngl欧n â’r posibiliadau o chwaraewyr  yn cam ddefnyddio hyn i ddylanwadu ar y dyfarnwyr.

Mae cynghrair cenedlaethol Awstralia, yr 'A League’ wedi penderfynu defnyddio technoleg i adolygu digwyddiadau mewn gemau'r tymor yma, ac maent eisoes wedi rhybuddio chwaraewyr y byddant yn cael eu cosbi os am ymateb i’r drefn yma, er enghraifft drwy geisio ymbil neu arwyddo ar y dyfarnwr i wirio digwyddiad drwy drefn fideo.

Felly, os yw technoleg am ddod yn fwy amlwg o fewn y byd pêl droed, yna diolch byth nad yw'r rheolau yn caniatáu i wylwyr gysylltu, wrth fwyta pizza a llyncu cwrw,  er mwyn barnu fod yna rhywbeth anghywir wedi digwydd.

Mae gen i weledigaeth hefyd o rywun mewn penwisg Cennin Pedr yn cysylltu yng nghanol gem rygbi i honni fod Nigel Owens neu ei debyg, newydd wneud smonach o benderfyniad mewn gem bwysig! 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf