Main content

Geirfa Podledliad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 21ain - 27ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Nathan Abrams

dod o hyd i - to find
darlithydd ffilmiau - film lecturer
annisgwyl - unexpected
archifdy - archive
Iddewes - Jewess
hogyn - bachgen
i gyflwyno'i hun - to introduce himself
addasu - to adapt
golygu - to edit
cefnogwr - supporter

Hanes sut daeth Nathan Abrams o hyd i sgript Stanley Kubrick 'Burning Secret'. Mae Nathan Abrams yn dod o Lundain yn wreiddiol ond ar ôl iddo fo ddechrau gweithio ym Mhrifysgol Bangor mi wnaeth o ddysgu Cymraeg. Darlithydd ffilmiau ydy o yn y Brifysgol a fo ysgrifennodd y llyfr 'Stanley Kubrick: New York Jewish Intellectual'. Doedd neb yn gwybod beth oedd wedi digwydd i sgript 'Burning Secret' nes i Nathan gael galwad ffôn annisgwyl.

Y Teulu - IVF

triniaeth - treatment
bant â ni - ffwrdd â ni
y profion arferol - the usual tests
darganfod - to discover
cyfweliad - interview
cymanfa - hymn singing festival
parchus ofn - reverence
ffydd - faith
y wyddoniaeth - the science
gwyrth - a miracle

Tybed welwn ffilm 'Burning Secret' yn y dyfodol a hynny'n ddiolch i Nathan Abrams a'i waith ditectif ynde? Yn y gyfres Teulu wythnos yma buodd Catrin Manel yn trafod triniaeth IVF sydd wedi helpu llawer o bobl i ddod yn rhieni. Daeth Dana a Richard Edwards yn rhieni yn nyddiau cynnar IVF. Aethon nhw i Bourne Hall oedd o dan ofal y ddau feddyg ddatblygodd y dechneg, sef Patrick Steptoe a Robert Edwards. Dyma'n nhw'n rhoi ychydig o'r hanes.


Rhaglen Dilwyn Morgan - Bethan Davies

Swyddog Datblygu - Development Officer
gweithgareddau awyr agored - outdooor activities
antur - adventure
gwneud cysylltiad - make contact
eu denu nhw - attract them
ymgyrch - campaign
heblaw am - apart from
dy gefndir di - your background
traddodiadol - traditional
dim esgus - no excuse

Dana a Richard Edwards yn fan'na yn sôn am eu profiad nhw o gael triniaeth IVF. Gan fod Geraint Lloyd yn brysur yn y Sioe Frenhinol drwy'r wythnos diwetha, daeth Dilwyn Morgan mewn i'r stiwdio i gadw ei sedd yn gynnes. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Dilwyn efo Bethan Davies sydd yn gweithio fel Swyddog Datblygu yn y byd gweithgareddau awyr agored. Hi sy'n gyfrifol am y project 'Merched a Genethod - Antur y Ferch' sy'n ceisio cael mwy o ferched i fwynhau chwaraeon.


Rhaglen Aled Hughes - Titw Tomas Las

doeddech chi fawr o feddwl - you never envisaged
deugain mlynedd - 40 years
yn ddiweddarach - later on
fel teyrnged - as a tribute
ar y cyfryngau - on the media
mabwysiadu - to adopt
cyd-ddigwyddiad - co-incidence
y fersiwn terfynol - the final version
cyn-ddisgyblion - ex pupils
gwerthfawrogi - appreciate

A chwaraeon awyr agored sydd yn yr eitem nesa hefyd - be arall ond seiclo ynde? Yn dilyn llwyddiant y beiciwr Geraint Thomas yn y Tour De France mae Aled Hughes wedi bod y chwarae'r gân Titw Tomas Las gan Hogia'r Wyddfa, sydd erbyn hyn yn anthem i Geraint. Roedd Aled eisiau ail recordio'r gân a dyna sydd wedi digwydd. Clywon ni ‘r fersiwn newydd ar ei raglen fore dydd Mawrth. Yn perfformio'r fersiwn yma mae Band Pres Llanregub, Siddi, plant o Lanrug a Myrddin ac Arwel oedd yn arfer canu efo Hogia'r Wyddfa. Cafodd Aled sgwrs efo Arwel ynglyn a'r gân.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Billy Meredith - arwr cenedlaethol