Main content

Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr - Real Madrid v Lerpwl

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hanner can mlynedd yn ôl fe ddois i ddysgu am dîm pêl droed arbennig yn Sbaen. Roedd Real Madrid wedi ennill cystadleuaeth newydd - Cwpan Ewrop a’r fenter newydd bel droedaidd yma yn fy ysbrydoli i ddysgu mwy amdanynt.

Felly, fel llawer o fechgyn ifanc yn eu harddegau dyma fi’n anfon llythyr i'r clwb yn gofyn am raglen, neu lun neu unrhyw femorabilia y gallwn ei gael.

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach daeth amlen a stamp Real Madrid arno i'r t欧, a llun o’r tîm wedi ei arwyddo (mewn print) gan bob un o'r chwaraewyr, a chwpan Ewrop yn y canol.

Aeth Real ymlaen i ennill pob un o’r pedair Cwpan ddilynol ac fe ysgrifennais yn flynyddol yn fy arddegau am luniau neu unrhyw atgof arall o'r achlysur.

Heddiw mae gen i dri llun wedi ei arwyddo, a rhain yn ganolbwynt fy niddordeb cynnar yn y gêm ar y cyfandir. Roedd yn dipyn o beth derbyn y rhain, ac erbyn heddiw maent wedi cael eu gosod mewn ffrâm ac yn rhan ganolog o ystafell fyw fy nghartref.

Un o’r ysbardun fwyaf at gadw’r casgliad a’i osod mewn ffrâm oedd y fuddugoliaeth wrth gipio Cwpan Ewrop am y pumed tro yn olynol mewn gem fythgofiadwy ym Mharc Hampden yn Glasgow yn 1960.

Llwyddodd Real i roi perfformiad perffaith wrth guro Eintracht Frankfurt o'r Almaen o saith gol i dair, tair gôl gan Alfredo di Stefano a phedair i Ferenc Puskas, gan ennill calon bachgen ifanc o Borthmadog yn y broses.

Wedi’r cwbl, faint o dimau oedd yn ennill o saith gol i dair mewn unrhyw gêm, heb son am Ffeinal Cwpan Ewrop?

Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi imi gymhwyso i fod yn hyfforddwr, fe anfonais lythyr i reolwr glwb Lerpwl, Bill Shankly, i ofyn iddo a fyddai yn bosibl i ddod i weld Lerpwl yn ymarfer ac i ddysgu mwy am ddulliau hyfforddi. Cwestiwn tipyn yn dwp y dyddiau yma, ac un a fyddai’n si诺r o gael ei anwybyddu mae'n debyg!

Ond, yn ôl yn adeg Shankly, yn y chwedegau, roedd bywyd yn wahanol.

Cyn hir, fe gyrhaeddodd llythyr personol i'r t欧, wedi ei deipio ar deipiadur (enwog erbyn hyn) y rheolwr yn fy ngwahodd i Melwood (canolfan ymarfer Lerpwl) i weld ei dim yn ymarfer.

Cefais groeso cynnes gyda Shankly ac aeth ymlaen i egluro beth oeddynt yn ei wneud a pham, a mawr oedd y fraint o allu cael mynd yno nifer o weithiau wedyn. Roedd yr ymweliadau yn drysorau ac addysg unigryw ynddynt eu hunain.

Un bore, daeth Shankly ataf gan ddweud fod yna fachgen ifanc addawol iawn ar fin cyrraedd yn nes ymlaen, ac i ni edrych arno yn ofalus gan mai dyma fydd un o sêr disglair y dyfodol.

Hwyrach y bore hwnnw, ac yn ddisymwth iawn, fe gyrhaeddodd y bachgen ifanc, yn wên o glust i glust, wedi teithio o ardal Scunthorpe - ie croeso i Lerpwl, Kevin Keegan.

Nos Sadwrn yn Kiev yn Yr Wcráin, bydd Real Madrid yn wynebu ei gilydd yn Final Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Nid Kevin Keegan nac Alfredo di Stefano, na chwaith Ferenc Puskas fydd yno, ond y sêr newydd, fel Cristiano Ronaldo a Gareth Bale i Real, a Mo Salah i Lerpwl.

Gem a ddylai fod yn gofiadwy - saith gol fel yn 1960? Hwyrach ddim, ond peidiwch â mynd yn bell - fe ddylai gwledd fod o’ch blaen.

Mwy o negeseuon