Main content

Theatr y Pantomeimiau - Old Trafford

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A minnau’n meddwl fod Manchester United ar y ffordd yn ôl i'n cyffroi ni gyd ar ôl y fuddugoliaeth ‘na dros Newcastle rhyw dair wythnos yn ôl! Fe ddylem wybod yn well !

Roedd y gwahaniaeth mewn safon rhyngddynt hwy Juventus nos Fercher yng Nghynghrair y Pencampwyr mor fawr fel ei bod bron yn embaras i'w gweld yn Old Traford, nid “Theatr y Breuddwydion” mohoni o gwbl bellach.

Yn wir, gydag United wedi ennill ond un gêm yn ei saith diwethaf ( y rhithlun camarweiniol yn erbyn Newcastle) does gan Jose Mourinho ddim byd gwell i wneud na chodi tri bys at bawb a phopeth erbyn hyn. Tri am mai dyna faint o dlysau mae wedi eu hennill ers cyrraedd Old Trafford?

Ond dyna ni, be all rhywun ei ddisgwyl gan dîm na allai fforddio gwario arian mawr yn ystod yr haf i ddenu chwaraewyr?

Wedi gwario £60miliwn ar Victor Lindelof ac Eric Bailly, cyn cyrhaeddiad Mourinho, doedd ‘na ddim unrhyw ffordd y byddai Cristiano Ronaldo yn dychwelyd yn yr haf, er eu bod wedi darganfod modd o arwyddo Romelu Lokaku am £75miliwn cyn hynny.

Yna, ar y llaw arall, fe allwch gymharu Juventus, y meistri nos Fercher - gyda Mourinho yn llawn canmoliaeth am berfformiadau Cheillini a Bionucci yn ei gyfweliad ar ôl y gêm.

Georgio Chiellini - wedi dod i Juve am £4 miliwn yn 2005, a Leonardo Bonucci ac ail arwyddodd yn ôl o A. C. Milan am £14 miliwn yn 2010 ar ôl cael ei werthu iddynt am £34 miliwn !

Rheolodd Juve canol y cae gyda’r g诺r o Uruguay - Rodrigo Bentacur yn dangos sut mae cynnal gem (gwr a gostiodd £8 o Boca Juniors) tra roedd Paul Pogba yn cael un o'r nosweithiau yna ble roedd yn dangos pam fod Juve eu hunain wedi bod mor barod a derbyn record y byd am ei drosglwyddiad yn ôl i United (£89.3 miliwn).

Does wybod beth oedd Mourinho yn ei gyfleu gyda'i arwydd o dri bys ! - tri thlws i mi ers cyrraedd Old Trafford? tair wythnos ar ol i mi yn Old Trafford?, tri thlws gyda Chelsea?; tri threbl gydag Inter Milan tra yn yr Eidal ; neu a oedd o'n atgoffa pawb mai dim ond tri chwaraewr a llwyddodd i'w harwyddo yn yr haf? sef Fred, Diego Dalot a Lee Grant, a doedd yr un o rheini yn chwarae nos Fercher!

Mae’r Nadolig yn nesáu, amser newid rheolwyr yn aml iawn - ac amser y pantomeimiau.

Nadolig neu ddim, mae’n edrych fel bod llwyfan Theatr y Breuddwydion ar Old Trafford yn prysur droi i lwyfan Theatr y Pantomimes yn barod !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 23ain o Hydref 2018

Nesaf

Podlediad i ddysgwyr: Hydref 21-27ain 2018