Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Awst 25ain - 31 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Yng Nghwmni Rhys Ifans - Rhys a'r paparazzi

gyrfa lwyddiannus - successful career
golygfa enwog - famous scene
trôns - underpants
cyfnod yn fy mywyd i - a period in my life
sylw hunllefnus - nightmarish attention
y wasg - the press
uffern - hell
effaith enbyd - terrible effect
ymdopi - to cope

Mae'r actor Rhys Ifans wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn. Mae llawer yn ei gofio yn y ffilm Notting Hill a'r olygfa enwog lle roedd ei gymeriad yn sefyll wrth y drws yn ei drôns a'r paparazzi yn tynnu lluniau ohono.Wel mae Rhys wedi cael ei boeni gan y paparazzi yn ei fywyd go iawn yn ogystal, fel buodd o'n egluro wrth Garry Owen.

Dafydd Iwan yn 75 - Yws Gwynedd

adlewyrchu - to reflect
wedi cydio - had grasped
wastad yn cwffio - always fighting
rownd y rîl - all the time
lleddf - sad
llon - happy
dwys, difrifol - intense, serious
dychan - satire
caneuin ymgyrchu - campaign songs
sbardun - catalyst

Garry Owen yn sgwrsio efo'r actor Rhys Ifans yn y National Theatre yn Llundain. Mae Dafydd Iwan yn 75 oed eleni ac er mwyn dathlu mi gafodd o raglen arbennig tair awr o hyd. Roedd Dafydd wedi gwahodd nifer o westeion gwahaonol i ymuno â fo ar y rhaglen a dyma i chi glip o sgwrs gafodd o gydag un o ohonyn nhw - y canwr pop Yws Gwynedd. Dechreuodd y sgwrs drwy sôn am un o ganeuon Yws Gwynedd - Sebona fi.

Beti a'i Phobol - Lowri Ann Richards

cantorion - singers
cantores - female singer
y cyflwyniad - the introduction
enwog - famous
am wrthod mynediad - for refusing entry
a chithau - and you (emphasis)

Dan ni'n mynd i aros ym myd y cantorion gyda'r clip nesa. Y gantores a'r actores Lowri Ann Richards, fuodd yn rhan o sîn bop yr 80au oedd gwestai Beti George ddydd Sul diwetha. Cafodd Lowri ei magu ar fferm ger Chwilog yng Ngwynedd cyn mynd i'r coleg yn Llundain. Ar ôl gadael y coleg buodd hi'n aelod o sawl grwp pop fel Visage, Pleasure & the Beast, Shock a Tight Fit. Dyma Lowri yn sôn am ambell i barti buodd hi ynddyn nhw yr un pryd â sêr y byd pop fel Spandau Ballet, Boy George, ac Elton John.

Rhaglen Ifan Evans - Aled Hall

sa i 'di bod - dw i ddim wedi bod
tynnu mas - pulling out
ymarfer - rehearsing
cantorion - singers
profiad a hanner - an experience and a half
cyffro - excitement
(ch)wilio am - looking for
dieithr - unfamiliar
cwmpo i'w le - falling into place
amser anhygoel - incredible time

Ac mae Lowri yn falch iawn o fod wedi dod yn ôl i'w hardal enedigol i fyw erbyn hyn. A nawr o fyd canu pop i 'r byd canu clasurol. Buodd y tenor Aled Hall yn Sweden yn ddiweddar i berfformio yn yr opera Der Rosenkavalier. Fel cawn ni glywed yn y clip nesa mae o wedi cael blwyddyn hynod o brysur.

Stiwdio - Gwennan Gibbard

llongwyr - seamen
tynnu rhaffiau - pulling ropes
gwahanol ddosbarthiadau - different cataegories
caneuon gwerin - folk songs
a gofnodwyd - which was documented
traddodiad Cymreig - Welsh tradition
alawon - tunes
boddi cwch Enlli - the sinking of the Bardsey boat
bardd - poet
digwyddiadau erchyll - terrible events

Dyn prysur ond un sy'n amlwg yn mwynhau ei waith ydy Aled Hall, oedd yn sgwrsio yn fan'na gydag Ifan Evans. Ar Stiwdio yr wythnos diwetha mi gaethon ni ychydig o hanes hen ganeuon Cymraeg am y môr ac am forwyr. Dyma Gwenan Gibbard yn sgwrsio efo Nia Roberts.

Galwad Cynnar - Tylluanod brech

tylluanod brech - tawny owls
clip sain - sound clip
dau greadur - two creatures
yn amau'n gryf - strongly suspects
yn dueddol o - tend to
craff a sylwgar - astute and observant
synnu - surprised
nodweddiadol - characteristic
cofnod sain - a sound recording
ymateb - response

Canu gwahanol iawn oedd i'w glywed ar Galwad Cynnar fore Sadwrn - dwy dylluan frech yn gwneud swn ychydig yn wahanol i'r twhit - tw -hw arferol. Roedd un o'r gwrandawyr wedi recordio'r canu ac yn holi oedd y tylluanod yma'n cael sgwrs fach efo'i gilydd? Dyma oedd ateb Euros ap Hywel wrth Gerallt Pennant.

Beti a'i Phobl - Manon Steffan Ros

prif wobrau - main prizes
Y Fedal Ryddiaeth - The Prose Medal
cyhoeddi - to publish
ail-argraffu - to re-print
chwareli - quarries
treulio - to spend (time)
hiraethu am - to long for
y teimlad pentrefol - the villagey feeling
diog - lazy
yn falch iawn - very pleased

Euros ap Hywel oedd hwnna'n sgwrsio ar Galwad Cynnar am y dylluan frech. Enillodd yr awdures Manon Steffan Ros un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol eleni sef y Fedal Ryddiaeth, am ei nofel Llyfr Glas Nebo. Mae'r nofel yn un o'r rhai mwya poblogaidd i gael ei gyhoedddi yn ddiweddar, ac mi fuodd rhaid i wasg Y Lolfa ei hail-argraffu gan fod nifer o siopau wedi gwerthu pob copi oedd ganddyn nhw. Un o Ddyffryn Ogwen ydy Manon ond mae hi'n byw yn Nhywyn yng Ngwynedd erbyn hyn. Mi gaethon ni glywed ychydig am ei phlentyndod hapus yn Nyffryn Ogwen, ac am ei phenderfyniad i symud i fyw i Dywyn yn ystod y sgwrs hon efo Beti George.

Rhaglen Aled Huws - Iolo Cheung

anferth - huge
mwya poblogaidd - most popular
adnabyddus - well- known
iaith swyddogol - official language
bellach - by now
yn benodol - specifically
ynganu - to pronounce
dychmygwch yr esiampl - imagine the example

Manon Steffan Ros yn hapus iawn yn byw yn yr ardal lle cafodd ei mam ei magu. Yn Hong Kong cafodd Iolo Cheung ei fagu ond mi ddaeth o draw i Gymru i fyw pan oedd yn bedair oed. Mae'n rhugl yn y Gymraeg wrth gwrs ar ôl byw yn Llanfairpwll ar Ynys Môn ar ôl dod i Gymru, ond mae o'n gywbod llawer iawn am ieithoedd Tseina yn ogystal. Roedd Rhys Meirion eisiau gwybod mwy am yr iethoedd hyn a dyma i chi Iolo yn sôn am y ddwy iaith fwya sy'n cael ei siarad yn y wlad anferth honno.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Gwawr newydd i Gymru