Main content

Gorau Chwarae, Cyd Chwarae - Gyda'n Gilydd Yn Gryfach

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A faint ohonom ni oedd yn meddwl os, oni bai  a phetae wrth i Bortiwgal gipio pencampwriaeth Ewrop?

 

Dyna ni, colli yn y rownd gyn derfynol yn erbyn y tîm a enillodd y gystadleuaeth a gwneud cystal â phencampwyr y byd (yr Almaen) yn y broses. Petawn wedi awgrymu dros fis yn ôl y byddai hyn am ddigwydd, fe fyddai bron pawb wedi meddwl fy mod yn hollol hurt!

 

Ond dyna be a ddigwydd gyda Chymru yn cydnabod campau'r chwaraewyr yng Nghaerdydd wth sylweddoli eu bod wedi gallu dangos eu gallu cystadlu ar lwyfan byd eang ac yn erbyn y gorau yn y byd. 

 

Dangoswyd hefyd fod arwydd y gymdeithas bel droed, gorau chwarae, cyd chwarae, ar arwyddair gyfoes, newydd, ‘Gyda’n gilydd yn gryfach’ wedi ei wireddu i'r eithaf, a’r cyfarch teuluol rhwng y chwaraewyr a'u plant ar faes stadiwm Parc des Princes ym Mharis yn dangos yr undod yn berffaith (beth bynnag fo barn swyddogol UEFA).

 

Rwsia mewn dwy flynedd ydi'r targed nesaf gyda’r gêm gymhwyso gyntaf adref yn erbyn Moldova ar ddechrau mis Medi, yna taith i Vienna i wynebu Awstria yn yr hydref.

 

Wrth ddathlu’r wefr a byw ein hatgofion drosodd a throsodd, addas ydi edrych ar sut y cychwynnodd y daith yma, taith a welodd yr iaith Gymraeg a Chymreictod yn cael ei amgyffred ym mhob cyfeiriad.

 

Gwelwyd yr iaith yn cael ei ddefnyddio yn swyddogol yng nghynadleddau UEFA, ac yn ymestyn allan wrth gael ei ddefnyddio gan gwmnïau masnachol a chyfryngau Lloegr. Dangoswyd traddodiadau Cymru, y canu, y canmol, y cymanfaoedd anffurfiol, ar draws y byd wrth i gryfder calon ein cenedl gael ei arddangos i bob cyfeiriad.

 

Mae‘r diolch am y weledigaeth a gychwynnodd y daith ddiwylliannol yn ogystal â phêl-droedaidd yma yn perthyn i Trefor Lloyd Hughes a oedd yn Lywydd ar y Gymdeithas Bel Droed Cymru o Awst 2012 hyd at Awst 2105.

 

Yn ei gyfnod fel llywydd, llwyddodd Trefor i Gymreigeiddio llawer o agweddau o fewn y gymdeithas. Clywyd y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yng ngweithgareddau swyddogol  Super Cup UEFA yng Nghaerdydd rhwng Real Madrid a Sevilla yn 2014.

 

Dechreuwyd ymdrech hybu’r iaith yn ôl yn y nawdegau, wrth i Trefor, ac eraill, sylweddoli nad oedd lawr o bwyslais yn cael ei roi ar ddefnyddio’r Gymraeg o fewn gweithgareddau a bywyd y Gymdeithas. 

 

Erbyn heddiw, mae'r Iaith yn amlwg ac yn flaenllaw yn ddyddiol o fewn ein byd pêl droed, a mawr fu cefnogaeth tri aelod arall o'r gymdeithas sef Dai Alun Jones o Aberystywyth, Ken Hughes o Wrecsam ac Iwan Jones o’r Fflint am gefnogi ymdrechion eu llywydd yn hyn o beth.

 

Aeddfedwyd ffrwyth ymdrechion yr iaith yn hollol amlwg yn ystod yr ymgyrch yn Ffrainc gyda chynadleddau swyddogol Cymru yn cael eu cynnal yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, ac mae lle i ddiolch am sicrhau hyn i swyddog cyfathrebu’r Gymdeithas, Ian Gwyn Hughes, a hefyd ysgrifennydd  Uwch gynghrair Cymru, Gwyn Derfel sydd wedi sicrhau fod Cymraeg yn parhau yn weithredol o fewn y gêm  ac yn weledol o fewn y cyfryngau cyfathrebu ar draws y byd. 

 

Erbyn heddiw, gwireddwyd gweledigaeth Trefor Lloyd Hughes  a bod Cymru yn wlad ar wahân i Loegr gyda'i iaith a'i diwylliannau ei hun. Sicrhaodd ymdrechion ein tîm cenedlaethol fod pawb ar draws y byd wedi deall hyn yn ystod y mis diwethaf.

 

Ond tydi cyfraniadau Trefor Lloyd Hughes ddim wedi eu cyfyngu i hybu'r iaith yn unig.

 

Cawn ddiolch iddo hefyd am weledigaeth arall, yn ei swydd fel aelod o’r pwyllgor a benododd Chris Coleman ac Osian Roberts i'w swyddi fel rheolwr ac is-reolwr ac fel dwedodd Trefor wrthyf yr wythnos yma, ymdrech tîm a ddaeth yn llwyddiant ysgubol.

 

Ie, gyda'n gilydd yn gryfach ac yn y cyd-destun yma, mae’r Gymdeithas Bel droed erbyn heddiw yn fwy atebol nac a fu erioed, yn fwy agored a thryloyw ei naws, ac mae’r undod rhwng y Gymdeithas, y chwaraewyr a'r cefnogwyr wedi llwyddo i greu’r undod a welwyd ac a gafwyd ei barchu cymaint yn Ffrainc.

 

Hawdd yw anghofio ymdrechion a dylanwad cyn arweinydd ar ôl ei gyfnod ar flaen y gad, ond peidied neb fyth ac anghofio cyfraniadau a dylanwad Trefor Lloyd Hughes.

 

Cyfraniadau gwerthfawr ac amhrisiadwy i Gymru, ein cenedl, i’n hiaith a'r byd pêl droed.

 

Diolch i holl swyddogion y Gymdeithas, diolch i Chris Coleman a'i staff, diolch i'r chwaraewyr, diolch i'r cefnogwyr a diolch iddynt i gyd am ymateb i'r weledigaeth a fagwyd ac a wireddwyd dros y blynyddoedd ac a aeddfedwyd yn y profiadau unigryw ac anhygoel ar hyd a lled Ffrainc.

 

Braint oedd cael bod yna, a diolch, diolch am bopeth.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 3ydd - 8fed

Nesaf

Y Cymro Jimmy Murphy a Manchester United