Main content

Rhestr Chwarae Radio Cymru

Gareth Iwan Jones

Uwch Gynhyrchydd Cerddoriaeth

Bendith

Ydy hi’n deg dweud bod llwyddiant digwyddiadau fel Gwobrau’r Selar a noson y bandiau yn y Pafiliwn yn ’Steddfod y Fenni yn awgrymu fod hon yn oes aur newydd yn hanes y sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg? Dwi’n meddwl ei bod hi.

Oedd – roedd cyfnod Pafiliwn Corwen ac Edward H heb os yn amser cyffrous, ond mae poblogrwydd bandiau fel Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd yn awgrymu y dylen ni fod yr un mor barod i gydnabod fod 2016 wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn.

Mae ’na amrywiaeth ryfeddol o gerddoriaeth newydd yn cael ei greu yn y sîn hefyd – o sŵn hyfryd Bendith i bŵer Band Pres Llareggub, ac o ganu gwlad John ac Alun i gerddoriaeth electroneg Plyci.

Mae Radio Cymru yn adlewyrchu’r ystod anhygoel yma mewn amryw o ffyrdd; wrth gwrs mae rhaglenni fel rhai Lisa Gwilym, Huw Stephens a Georgia Ruth yn llawn o gerddoriaeth newydd, ond mae rhestrau chwarae’r dydd hefyd yn cynnwys elfen gref o gerddoriaeth newydd.

Mae dewis pa ganeuon newydd sy’n mynd i ba raglenni yn dipyn o her. Dyna pam fod gan Radio Cymru Grŵp Cerddoriaeth sy’n trafod yn wythnosol y caneuon a’r traciau newydd sy’n ein cyrraedd – ac yn penderfynu ar ba raglenni ‘dyddiol’ y bydda’ nhw’n cael eu clywed. Mae’r rhaglenni ‘dyddiol’ yn cynnwys John Hardy, Aled Hughes, Bore Cothi, Tommo a Geraint Lloyd, yn ogystal ag ambell raglen ar y penwythnos fel Hywel Gwynfryn. Pan dwi’n dweud ‘ystod’, dyna dwi’n ei olygu!

Am y tro cyntaf, ryda’ ni wedi creu tudalen ar ein gwefan, fel bod ein gwrandawyr ni – a’r diwydiant cerddorol yng Nghymru – yn cael darlun go iawn o’r hyn sy’n cael ei chwarae ar raglenni’r dydd.

Mae’n bwysig cofio mai darlun o un rhan benodol o restr chwarae Radio Cymru ydy hwn – y rhaglenni dyddiol, cyson. Mae rhaglenni fel rhai Richard Rees, Lisa Gwilym, Rhys Mwyn, rhaglenni fore Sul ac yn y blaen yn dewis eu cerddoriaeth eu hunain ac yn ychwanegu eto at y cyfoeth a’r amrywiaeth. Yn ogystal, oherwydd cyfyngiadau lle, dim ond un trac gan bob artist sydd wedi ei gynnwys ar y wefan. Mae’n bosib, er enghraifft, fod pedair neu bump o ganeuon o un albwm ar y rhestr chwarae, ond dim ond un fydd i’w gweld ar y dudalen newydd.

Mi fydd y rhestr yn cael ei diweddaru’n wythnosol, ac mae caneuon ac artistiaid yn aros ar y rhestr am gyfnod o 3 mis.

Dwi’n mawr obeithio y bydd y dudalen Rhestr Chwarae yn adlewyrchu’r amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth sydd i’w glywed ar Radio Cymru, yn wirioneddol werthfawr, yn achosi trafodaeth ac yn rhoi rhyw syniad o’r hyn y gallwch chi’i glywed ar yr orsaf!

Cofion

Gareth
Uwch Gynhyrchydd Cerddoriaeth

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ystyron enwau ar glybiau pel-droed