Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 14

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Ym mlog cynta’r gyfres, honnodd y Meuryn taw camp tîm yw camp Y Talwrn yn y bôn. A byddech yn disgwyl taw’r tîm sydd yn cynnwys y nifer mwyaf o feirdd disglair sydd yn siŵr o ennill bob tro. Ond nid felly y mae hi.

Ac mae’r ddau dîm a gyrhaeddodd yr ornest gyn-derfynol hon heno, sef Y Cŵps a’r Tywysogion, yn dimau difyr i’w hystyried yng ngoleuni’r paragaraff blaenorol.

Hwn oedd yr ail dro yn unig i’r timau gwirioneddol dalentog hyn gyrraedd y rownd gyn-derfynol, ac mae hwnnw’n destun syndod. Wedi’r cwbwl, mae gan Y Cŵps ddau brifardd yn eu mysg (sef Huw Meiron Edwards a Dafydd John Pritchard) tra bod gan Y Tywysogion dri phrifardd (Twm Morys, a oedd yn Washington ar adeg ricordio’r rhaglen hon, Mei Mac a Siôn Aled). Ac mae gweddill aelodau’r ddau dîm hwythau yn feirdd i’w hystyried o ddifri, goron neu gadair neu beidio.

Pam, felly, y diffyg llwyddiant (cymharol)? Ai’r gwaith tîm sydd yn ddiffygiol? Neu’r uchelgais? Neu’r Meuryn,wrth gwrs?

Neu, ai adlewyrchiad o ffyrnigrwydd y gystadleuaeth yn gyffredinol yw hyn?

Wedi’r cwbwl, nid ar chwarae bach yn y blynyddoedd diweddar y mae curo timau fel Y Glêr, Aberhafren, Caernarfon a’r Tir Mawr, heb sôn am Crannog a’r Rhelyw.Ìý A beth am dimau mwy newydd fel Y Ffoaduriaid ifainc, a Tir Iarll a Hiraethog? Neu rai mwy sefydliedig, fel Tanygroes a Criw’r Ship a’r Manion o’r Mynydd a’u tebyg?

Y gwir yw bod angen i bawb yn y tîm fod ar dân pan ddowch chi benben â thimau fel y rhain, a hir y parhaed hynny.

A hir y parhaed i dimau fel y Cŵps a’r Tywysogion i roi gwefr ac adloniant i ni fel y gwnaethant heno. Ac unwaith eto’r wythnos hon mae’r cerddi nas darlledwyd yn adrodd cyfrolau am gryfder y ddau dîm.

Beth am y cwpled caeth hwn gan Dafydd John Pritchard, cwpled yn cynnwys y gair ‘paid’?

Dwedyd paid yw dweud y pen,
Herio rheol wna'r awen.

Neu, yn wir, englyn yr un bardd i unrhyw gêm blant?

Pob dydd fel chwarae cuddio yn fy mhen,
ÌýÌýÌýÌýÌý gan fy mod yn chwilio
ÌýÌý enwau coll cyrion y co’,
ÌýÌý dyna benyd neb yno.

ÌýAc o bosib tasg yr englyn oedd un o gystadlaethau gorau’r noson, gydag Iwan Bryn James o’r Cŵps yn cynnig hwn i ‘Snakes and Ladders’:

Er esgyn fyny'r ysgol - ar ein hynt
ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Tua'r nod terfynol,
ÌýÌýÌýÌý Yn hawdd gallwn lithro'n ôl
ÌýÌýÌýÌý I lain arall flaenorol.

Ac fe ganodd Y Tywysogion hwythau un englyn i’r un gêm:

Fe lamaf, y cyflyma, – i esgyn
pob ysgol i’r copa:
ond sarff hy fy nenu wna
ar ras i’r sgwariau isa!Ìý

Ewch, serch hynny, at wefan Y Talwrn i ddarllen englyn ysgubol Huw Meirion i’r un gêm eto fyth. Mae’n berl.

Cofiwch, fel sy’n nodweddu timau talwrn da, nid yr awen ddwys yw unig dant y Cŵps na’r Tywysogion. Beth am y limrig hwn (yn cynnwys y llinell ‘Petaswn i’n dalach ryw fymryn’) gan Geraint Williams o’r Cŵps?

Petaswn i’n dalach ryw fymryn,
Ac eto’n fwy cydnerth o dipyn,
A taswn dan swyn
A’m gwnâi yn llai mwyn,
Fe sychwn fy nhrwyn â Mei Macyn.

Ac, fel sydd hefyd yn nodweddu timau da, roedd ymwybyddiaeth o’r byd cyfoes yn amlwg yn y cynhyrchion heno. Mor amserol, er enghraifft, oedd y pennill ymson hwn, pennill wrth agor ebyst:

Ein cyfrinach fach ni a neb arall
Yw cynnwys y neges fach hon,
Rhai pethau na allen ni gadw
Yn ddiogel o dan ein bron.
’Sdim diben i mi chwalu’r neges,
Cadw copi mewn drôr yn y seld,
Bydd eraill cyfrinachol yn rhywle
Yn barod wedi mynnu ei weld.

Y Tywysogion

Y Rownd Derfynol sydd nesaf, a honno rhwng Aberhafren a’r Cŵps. Ac er mod i heb weld sgap o’r cynnyrch eto, mae’n argoeli’n glasur!

Mae Rownd Derfynol y Talwrn yn cael ei darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych am 18.30, nos Sadwrn, Awst 3, 2013.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

    Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 25 Gorffennaf 2013

Nesaf

Blog Ar y Marc - Abertawe a Chwpan Ewropa