Main content

Y Seintiau Newydd - Pencampwyr Uwchgynghrair Cymru 2012/13

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Llongyfarchiadau i’r Seintiau Newydd - pencampwyr Uwchgynghrair Cymru unwaith eto, a dod yn gyfartal a champ y Barri o ennill y goron saith gwaith.

Felly, be ddigwyddodd i'r syniad o wneud yr Uwchgynghrair yn fwy cystadleuol, gyda’r Seintiau yn cipio'r goron dros y Pasg a phedair gêm yn weddill? A ydi’r drefn o gael deuddeng tîm, yn rhannu i ddwy adran yn ail hanner y tymor wedi bod yn llwyddiant?

Os ddefnyddir perfformiadau yn Ewrop fel llinyn mesur, yna'r ateb ydi na. Os am ddefnyddio cystadlu agos yn ystod a thrwy gydol y tymor yma fel llinyn mesur, yna'r ateb ydi na. Os am ddefnyddio cynnydd yn rhif y torfeydd a chefnogwyr fel llinyn mesur, yna'r ateb ydi na.

Be nesa felly?

Ymddengys mai barn nifer o'r clybiau ydi troi yn ôl at Uwchgynghrair sydd yn cynnwys un tîm ar bymtheg a rheini yn chwarae yn erbyn ei gilydd ond dwywaith mewn tymor yn union fel ag yr oedd cyn y drefn bresenol. Oes yna ddewis arall tybed?

Ceir barn sydd wedi ei fynegi yn ddiweddar a barn rwyf wedi ei glywed gan nifer o gefnogwyr ar hyd a lled gogledd Cymru, sef y byddai’n werth ystyried rhannu’r Uwchgynghrair i ranbarthau'r de a gogledd. Byddai enillwyr y ddwy adran yma yn chwarae ei gilydd am y bencampwriaeth, neu hyd hyn oed y ddau dîm sydd yn gorffen ar frig y ddau gynghrair yn chwarae ei gilydd neu drwy drefnu gemau cyn derfynol ar ddiwedd y tymor.

Ond os na all cynghrair genedlaethol gydaÌý deuddeg o dimau gyrraedd a chynnal safon uchel, cystadlaethol a pharhaol, pa obaith sydd yna i gynghrair rhanbarthol, Ìýgyda thua pymtheng o dimau yn y naill adran a'r llall? Hefyd os am Uwchgynghrair Cenedlaethol, yna fe ddylid cael cystadleuaeth genedlaethol, nid un rhanbarthol yn arwain at ryw derfyn cenedlaethol.

Beth bynnag ydi'r ateb , mae angen ystyried rhyw fath o newydd-deb, a tydi’r digwyddiad yng Nghaerfyrddin brynhawn Llun diwethaf pan nad oedd swyddogion yno i ddyfarnu, wedi gwneud dim i wella delwedd yr Uwchgynghrair.

Tipyn o waith felly ar gyfer sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i’r Uwchgynghrair.

Dydd Sadwrn yma fe fydd y Seintiau yn ceisio camu’mlaen i chwilio am eu hail wobr wrth gyfarfod a Bangor yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar Faes y Belle Vue yn y Rhyl. Draw yn y Drenewydd fe fydd y Barri - sydd erbyn heddiw yn dîm hollol amatur ac yn cystadlu yn Adran Un Cynghrair McWhirters De Cymru - yn wynebu Prestatyn yn y gem gynderfynol arall.

Bydd y Seintiau yn sicr o chwarae yn Ewrop yn sgil ennill yr Uwchgynghrair – ac fe fydd Bangor, os ydynt yn llwyddo i sicrhau'r ail neu drydydd safle, yn camu ymlaen in Gwpan Ewropa.

Golyga hyn felly y gall Prestatyn neu'r Barri sicrhau lle drwy Gwpan Cymru ar lwyfan Ewrop y tymor nesaf, fel ag a wnaeth y Derwyddon y tymor diwethaf, yn sgil cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru (os y cawn nhw'r drwydded berthnasol)!

Tipyn o gyffro felly ar gyfer y dyfodol a chwpan Cymru'r Sadwrn yma.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 27 Mawrth 2013

Nesaf

Pigion i ddysgwyr - Geirfa 04 Ebrill 2013