Main content

Hel atgofion mewn Amgueddfa Beldroed ym Manceinion

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos diwethaf fe es draw i’r Amgueddfa Genedlaethol Beldroed ym Manceinion.

Amgueddfa am hanes peldroed o fewn Lloegr ydi hon, ond roedd yna ychydig o gyfeiriadau tuag at beldroed Cymru.

Un enghraifft amlwg oedd cap rhyngwladol Billy Meredith yn 1903, yn erbyn Iwerddon,  a hefyd llun o Gymro arall, a ddaeth wrth gwrs i amlygrwydd ym Manceinion, sef Ryan Giggs. Ond y tro yma, llun o Gigs, neu Ryan Wilson, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn chwarae dros ysgolion Lloegr. Mae John Charles yno hefyd - darlun wedi ei baentio o'r cawr yn chwarae’n addfwyn dros Leeds United, tra ceir cysylltiad llai amlwg wrth weld crys blaenwr presennol Wrecsam, Brett Ormerod. Ond dyma’r crys a wisgodd wrth chwarae, a sgorio'r gôl allweddol a sicrhaodd ddyrchafiad i Blackpool i’r Uwchgynghrair ( buddugoliaeth o dair gôl i ddwy) yn y gêm ail gyfle yn erbyn Caerdydd – gan sicrhau dyrchafiad y tîm o Sir Gaerhirfryn i’r Uwchgynghrair yn 2010.

Un o’r lluniau cynharaf o dimau peldroed ydi hwn o dîm Preston North End a gipiodd y gynghrair yn y tymor cyntaf o’i fodolaeth yn 1888-9. Llysenw'r tîm yma oedd yr "Invincibles" gan iddynt ennill y gynghrair  heb golli unrhyw gêm, a hefyd cipio  cwpan Lloegr, heb ildio'r un gôl mewn pum gem. Dyma'r tîm cyntaf i gyflawni’r  dwbl yn Lloegr. Llwyddodd Preston i ennill deunaw o gemau, gan dod yn gyfartal bedair gwaith, a churo Wolverhampton Wanderers o dair gôl i ddim yn y Ffeinal ar faes criced yr Oval yn Llundain, a hynny o flaen torf o saith mil ar hugain.


O'r saith tîm sydd wedi cyflawni'r dwbl yn Lloegr, Preston ydi’r unig un, hyd heddiw, i  wneud hynny heb golli unrhyw gêm, naill ai yn y gynghrair nag yn y gwpan.

Dim ond tri Sais oedd yn nhîm Preston, saith Albanwr, a Chymro oedd yn y gôl, sef Robert Mills-Roberts, meddyg wrth ei alwedigaeth, a chwaraewr amatur i dîm Preston.

Roedd Mills-Roberts yn chwaraewr pêl-droed blaenllaw yn y 1880au , ac yn cadw gôl i Gymru rhwng 1885 a 1892, gan wneud wyth ymddangosiad.

Cafodd ei eni ym Mhenmachno, Sir Gaernarfon ar 5 Awst 1862. Astudiodd i fod yn feddyg  yn Ysbyty Sant Thomas, Llundain. Ymddeolodd o’r gêm yn 1890, ond fe'i perswadiwyd i wneud un ymddangosiad olaf dros Gymru yn 1892, ar y Cae Ras yn Wrecsam yn erbyn Lloegr (dwy i ddim i Loegr) .

Rhwng 1884 a 1888, chwaraeodd saith gwaith i glwb amatur y Corinthiaid, gan wynebu Preston dair gwaith.

Daeth Mills-Roberts i gymhwyso fel meddyg ym mis Gorffennaf 1887, a'r flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn llawfeddyg tÅ· yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham. Yn ddiweddarach, cymerodd swydd gyda'r ysbyty yn Chwarel Lechi Dinorwig, a gwasanaethodd gyda Byddin Alldeithiol Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ddiwedd ei yrfa fel meddyg, ymddeolodd i Bournemouth, ble bu farw yn 73 oed ar 27 Tachwedd 1935.

Cyn cloi'r daith o gwmpas yr arddangosfa, fe fu i mi weld adran a oedd yn olrhain taith Wigan Athletic o ddinodedd i’r Uwchgynghrair. Ymysg y memorabilia, oedd rhaglen o dymor 1963/4 o gêm yng nghynghrair  Sir Gaer yn erbyn Dinas Bangor. Gem a welodd Wigan yn ennill o bedair gôl i dair ( gyda Gray,Kinsella ac Edwards yn sgorio i Fangor) ar faes Parc Springfield.

Prynhawn diddorol yn hel atgofion, hwyrach fod yna le i amgueddfa o'r fath yma yng Nghymru. Cafwyd digon o arddangosfeydd gan glybiau yn dathlu eu canmlwyddiant yn ddiweddar, a chafwyd arddangosfa deithiol rhyw dair blynedd yn ôl. Hwyrach fod yr amser wedi dod i ninnau yng Nghymru sicrhau un funud fach i roi pethau ar gof a chadw, fel y cadwer i’r oesoedd a ddel y glendid a fu?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i ddysgwyr - Geirfa 04 Ebrill 2013

Nesaf

Mae’r Gaer yn gryf !