Wrth ffarwelio ag un flwyddyn a dechrau meddwl am groesawu un newydd, yn y tir neb hwnnw rhwng 2015 a 2016, braf iawn oedd cael cwmni dau sy’n medru ac yn lecio ei deud hi fel ag y mae hi.
Mewn rhaglen arbennig o "" a recordiwyd heb fod ymhell o bier Bangor, gydag Ynys Môn ar y naill law a’r Tir mawr ar y llall yr eisteddais i yng nghwmni dau sydd, fel arfer, yn gofyn y cwestiynau ac wrth wneud, yn aml yn llwyddo i droi sawl trol.
Dau Newyddiadurwr, dau Owen – Gwilym a Karen – ydi’r ddau yn Tra Bo Dau Calan.
A dwi'n deud wrtha chi "Mi fyddwch chi isio clywed hon!"