Main content

Uwch Gynghrair Cymru - Ni a Nhw

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ydi Uwch Gynghrair Cymru wedi mynd yn gynghrair ni a nhw? Neu a fu hi felly erioed?

Wrth edrych ar y tabl, sydd erbyn hyn wedi ei wahanu’n ddau gr诺p o chwech, mae’n eithaf amlwg, ar y cyfan, fod y timau sydd yn y chwech isaf, gan amlaf, yn tueddu i gynnwys mwy o chwaraewyr sydd yn weddol lleol, tra mae'r timau sydd yn y chwech uchaf wedi ehangu gorwelion, ac yn tueddu i gynnwys mwy o chwaraewyr o ardaloedd pellach.

Yn aml iawn, ac mae wedi dod yn boen gen i, mae llawer o ddilynwyr y gêm yn mynd yn hollol obsesiynol a gofyn ‘faint o locals sy’ na yn y tîm?’ cyn hyd yn oed gofyn pa mor dda mae'r tîm yn ei neud, ac yna yn dilyn hyn gan ofyn ' faint da’chi'n dalu i'r chwaraewyr ‘ma?

Yn aml, iawn, pan oeddwn yn reolwr neu hyfforddwr, roedd gen i ryw awydd gwirion i fynd i siopau neu gwmniau a busnesau lleol, a oedd yn cael eu rhedeg gan bobl a oedd yn dilyn pêl droed, (ac a oedd yn dueddol i ofyn y fath gwestiynau) , a gofyn yr un peth iddyn nhw! Faint o locals ydach chi'n eu cyflogi? Ydach chi'n cyfyngu gwerthiant eich nwyddau i bobol leol? Ne hyd yn oed 'faint da’chi'n ei dalu i'ch gweithwyr'?

''Meindiwch eich busnes' fyddai'r ateb maen si诺r !

Ond, rhywsut neu'i gilydd, mae’r un bobol yn meddwl y cant ofyn yr un math o gwestiynau i glybiau pêl droed !

Ta waeth - dyma ddigon o bregethu gen i aoddi ar fy mocs sebon!

Ond yn ôl at y gynghrair - ydi'r drefn yma a wnes i gyfeirio ato yn rhyw arwydd o'r hyn sydd yn digwydd o fewn pêl droed Cymru? Neu, a ydi’r locals, ar y cyfan ddim digon da, neu bod yna ddim digon o rai da ar gael?

Mae'n wir dweud fod llawer mwy o'r chwaraewyr lleol yn cael mwy o brofiad o chwarae ar lefel uchel o bêl droed y dyddiau yma, diolch yn bennaf i fodolaeth Uwch Gynghrair Cymru, nag oedd yr hen drefn, pan nad oedd gobaith caneri iddynt ennill eu lle. Hynny gan amlaf, oherwydd fod y rheolwr yn dod o ardal Lerpwl neu rywle tebyg a dod a'i ffrindiau efo fo, a llawer o rheini yn ddim gwell na'r hogiau lleol a oedd yn cael eu hanwybyddu - a dwi’n gwybod hynny drwy brofiad fel is-reolwr neu reolwr yr ail dîm mewn rhai o'r clybiau yma!

Ond, os ydi'r tabl yn dweud y gwir, mae'n eithaf amlwg, os am greu llwyddiant, fod angen gwneud mwy na llenwi tîm efo hogiau lleol, a bod angen cryfhau os am gynnal safon uchel o bêl droed.

Na, tydi i ddim yn dweud fod angen llenwi timau efo estroniaid sy'n ffrindiau gyda'r rheolwr, ond onid yw yn deg hefyd i ni ystyried y dylid cryfhau tîm, a rhoi chwaraewr da i chwarae gyda'r chwaraewyr gorau lleol, os am sicrhau safon uchel gan arwain at gyd bwysedd gwell, ac yn y pen draw, yn codi safonau o fewn y tîm ac ar draws y gynghrair?

Ond wedi dweud hyn i gyd, oedd yna unrhyw wahaniaeth yn y dyddiau pan nad oedd y gynghrair wedi ei wahanu'n ddau ar ôl y gaeaf?

Mae’n debyg ddim.

Timau ni a nhw? Hwyrach nad yw hyn yn ddim byd newydd, ac os na fydd yna welliant mewn cynnal gwell safon mewn mwy o chwaraewyr lleol, mae’n debyg na fydd yna unrhyw beth yn newid!

Yn y cyfamser, mae tîm cenedlaethol Cymru C yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf, ar gyfer gem yn erbyn Lloegr C yn y Barri ar Fawrth 20fed. Bydd y tîm yma wedi ei gyfyngu i chwaraewyr Cymreig sydd yn chwarae i glybiau o fewn ein gwlad, a ddim, fel ac a bu yn y gorffennol, yn cynnwys chwaraewyr Cymreig sy’n chwarae i dimau y tu allan i Gymru.

Diddorol fydd nodi pwy fydd yn y garfan a be’ fydd y canlyniad.

Cyfle go iawn i’r locals wneud eu marc !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf