Main content

Cymru, Golff, Madrid!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mi fydd darllenwyr cyson o'r blog yma yn ymwybodol fy mod wedi mynd drwy garwriaeth gynnar gyda chlwb Real Madrid yn fy arddegau.
Hyn oherwydd newydd-deb cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop a Real y tra-arglwyddiaethu’r gystadleuaeth yn gyfan gwbl gan ennill y goron yn flynyddol am y bum mlynedd gyntaf.
Yn sgil hyn fe lwyddais , yn dilyn cais ysgrifenedig, i dderbyn ffotograffau oddi wrth y clwb o’r timau cynnar yma yn y pumdegau, ac maent erbyn heddiw yn cael eu harddangos ar wal y gegin.
Ond, mae fy nghariad at y gorffennol yn cael ei brofi i'r eithaf gan ymddygiad presennol y clwb tuag at y Cymro, Gareth Bale.
Yn dilyn sylwadau “ffwrdd a hi” Bale mewn cynhadledd i’r wasg ddiweddar, yn datgan mai’r peth cyntaf mae’n feddwl amdano yw ‘Cymru, yna golff, ac ar ôl hynny, Real Madrid’, mae’r wasg a’r clwb heb cweit ddeall sylwadau tafod mewn boch y chwaraewr, ac wedi gor-ymateb ryw fymryn.
'Hala Madrid ' ?!! Well dim yn ôl ymateb cyn -lywydd y clwb Ramon Calderon - 'Helia’i o'ma' yn fwy tebyg wrth iddo gyhoedd nad yw Bale wedi dangos parch i'r clwb, a’i fod wedi cael ei gamarwain ac yn anniolchgar i’w glwb?
Bale yn anniolchgar ?
Wel Snr Ramon, onid y chi ydi'r un sy’n dangos diffyg parch, yn ceisio ein camarwain ac yn anniolchgar wrth fethu a chydnabod fod y Cymro wedi sgorio chwe gôl i Real yng nghystadleuaeth FIFA i glybiau'r Byd (un yn llai na Cristiano Ronaldo), wedi cyfrannu at ennill pencampwriaeth clybiau Ewrop bedair gwaith, cwpan y Super Cup (UEFA) dair Gwaith, cwpan y byd i glybiau dair Gwaith, Cwpan Sbaen unwaith a phencampwriaeth La Liga unwaith!
A tydi Calderon ddim yn barod i gydnabod cyfraniad y Cymro at hyn oll!!!?
Cywilydd arno - ond tydi clywed rhywun yn beirniadu Calderon ddim yn rhywbeth newydd. Cafodd Syr Alex Ferguson ddigon i ddweud am ei ymddygiad gan ei gyhuddo yn ôl yr honiadau o ddangos ‘gweithrediadau anfoesol’ wrth iddo geisio dwyn perswâd ar Cristiano Ronaldo i ymuno a Real o Manchester United yn 2008.
Aeth Calderon yn bellach yr wythnos yma gan awgrymu mai ail arwyddo i'w gyn clwb, Tottenham Hotspur a fyddai well i'r Cymro! Gydag agwedd fel yma gan gyn lywydd, efallai mai dyma'r cyngor gorau y gellir ei roi iddo !
‘Viva Gareth Bale, viva Gareth Bale’, a diolch, diolch iddo am ddangos arweiniad i ni gyd, ynghyd a’r parch a’r balchder o fod yn Gymro !
O leiaf mi allai edrych ar y lluniau ar wal y gegin gan gofio fod yna arweinwyr a llywyddion mwy diffuant a diolchgar wedi arwain cewri'r Bernabeu yn y blynyddoedd arloesol dylanwadol yna, ymhell bell yn ôl, cyn imi ystyried camau ysgariad !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Podlediad Dysgu Cymraeg - 26ain o Dachwedd 2019