Main content

Penblwydd Hapus Gwyn Pierce Owen !

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Gwener yma, mi fydd yn dipyn o achlysur yn Stadiwm y Book People ym Mangor. Na, nid am fod Bangor yn chwarae yn erbyn pencampwyr newydd Uwch gynghrair Cymru, sef y Seintiau Newydd, ond am fod un o hoelion wyth mwyaf p锚l droed Cymru yn dathlu ei ben-blwydd.

Bydd llywydd Bangor, eu cyn cadeirydd a chyn dyfarnwr rhyngwladol, Gwyn Pierce Owen yn wyth deg oed. Llongyfarchiadau calonogol iddo, a dwi'n si诺r nad dyma鈥檙 unig gydnabyddiaeth fydd Gwyn yn ei gael.

Bu eisoes yn westai ar raglen 主播大秀 Radio Cymru, Dewi Llwyd, fore Sul diwethaf a diddorol oedd gwrando ar Gwyn yn llawn awch a brwdfrydedd, fel arfer, am y g锚m a鈥檌 yrfa. Dyma gyn ddyfarnwr sydd wedi bod ymysg y gorau a welwyd, a hynny yn cynnwys yr hen Adran Gyntaf yn Lloegr (sef rhagflaenydd yr Uwch gynghrair presennol).

Bu hefyd yn dyfarnu gemau rhyngwladol a gemau clybiau cystadlaethau Ewropeaidd. Yn sgil ei boblogrwydd a'i ddoniau fel dyfarnwr cafodd hefyd wahoddiad i ddyfarnu yn yr Unol Daleithiau ble bu鈥檔 dyfarnu g锚m a oedd yn cynnwys y diweddar George Best.

Wedi鈥檙 cyfnod llewyrchus yma, cadwodd Gwyn ei diddordeb yn y g锚m (allai ddim meddwl am y g锚m heb gyfraniad Gwyn), a daeth yn gadeirydd ar glwb Dinas Bangor.

Os oedd bod yn ddyfarnwr yn golygu fod rhaid i Gwyn for yn hollol ddi-duedd, yna un llygeidiog hollol mae鈥檙 cadeirydd wedi bod. Pan oeddwn yn rheoli Treffynnon yn Uwch gynghrair Cymru, roedd Gwyn fel draenen yn ein hystlys yn mynnu fod popeth a roddwyd yn erbyn Bangor yn hollol anheg a bod ei d卯m yn cael mwy o gam na ch么r aflwyddiannus mewn 鈥榮teddfod.

Ar y llaw arall, pan gefais y cyfle i helpu Bangor fel rheolwr dros dro, dyma oedd yr arweiniad a鈥檙 gefnogaeth fwyaf y cefais yn y byd p锚l droed. Gallaf ategu hyn wrth ddarllen erthygl mewn papur newydd cenedlaethol yn cyfeirio at yrfa rheolwr presennol Reading, sef cyn rheolwr Bangor, Nigel Adkins.

Yn yr erthygl, mae Adkins yn talu teyrnged enfawr i鈥檞 gyn cadeirydd gan egluro fod y safonau a osodwyd iddo gan Gwyn, fel rheolwr ifanc ar gychwyn gyrfa, wedi bod yn werthfawr dros ben, ac wedi gwneud iddo sylweddoli pa mor anodd yw r么l y dyfarnwr mewn g锚m bel droed. Oherwydd hyn meddai Adkins, mae wedi sicrhau fod ganddo barch mawr at ddyfarnwyr.

Pan oeddwn ym Mangor, fel 'Mr Chairman' roeddwn yn cyfeirio at Gwyn a 'Mr Chairman' oedd o i bob un o'i chwaraewyr.

'Mr Cadeirydd' hwyrach ond cyfaill, cefnogwr, arweinydd, ffrind beirniadol a鈥檙 un person sydd wedi sefyll yn y bwlch gan sicrhau fod safonau uchel clwb enwog Dinas Bangor yn parhau.

Gwinllan a roddwyd i鈥檞 ofal ydi Bangor, i鈥檞 draddodi i鈥檞 gefnogwyr yn dreftadaeth dragwyddol.

Does dim modd mesur cyfraniad uchel a gwerthfawr Gwyn Pierce Owen i b锚l droed yng Nghymru , ar hyd y gogledd ac yn bennaf i Fangor.

Diolch iddo am sicrhau y cadwer i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Pen blwydd hapus iawn, Mr Chairman.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 16, 2014