Hwyrach ei bod yn deg dweud nad yw Cwpan Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru ddim yn un sydd wedi ennyn diddordeb llawer dros y tymhorau.
Tri thymor yn ôl, fodd bynnag, cafodd y gystadleuaeth, fywyd newydd drwy gael ei ehangu i gynnwys timau o’r tu allan i'r uwch gynghrair. Penderfynwyd gwahodd y pedwar uchaf o bob un o'r ddwy is gynghrair, sef Cynghrair Undebol Huws Gray a Chynghrair Nathaniel Cars Cymru, o'r tymor blaenorol, ynghyd â phedwar o geisiadau ychwanegol gan glybiau eraill, gan ymestyn y rhif o dimau yn y gystadleuaeth i ddau ddeg pedwar.
Cafwyd noddwr newydd hefyd a ganwyd cysyniad Cwpan Word.
Mae’n wir dweud fod y gystadleuaeth yma wedi rhoi hwb i dimau o'r is gynghreiriau gyda thîm Cambrian a Chlydach yn cyrraedd y rownd gyn derfynol yn 2013/14
Eleni, mae nifer o ganlyniadau annisgwyl wedi codi.
Llwyddodd Hotspur Caergybi guro MBI Llandudno, a daeth Dinbych yn fuddugol yn erbyn y Rhyl. Llwyddodd Tref Caernarfon i guro eu cymdogion agos, Bangor, allan o'r gystadleuaeth gyda buddugoliaeth o un gôl i ddim, a llwyddodd Penrhyncoch, o Gynghrair Canolbarth Cymru, i guro’r Drenewydd ar giciau o'r smotyn.
Os nad oedd Bangor yn ddigon, aeth Caernarfon ymlaen i guro’r Bala o ddwy gol i un, a'r wythnos yma gwelwyd Dinbych yn ail fyw'r profiad o guro tîm o Uwch Gynghrair Cymru drwy iddynt drechu Airbus UK Brychdyn o ddwy gol i un mewn amser ychwanegol.
Tra roedd Dinbych yn camu ’mlaen, daeth ymgyrch Caernarfon i ben wrth golli yng Nghei Conna, a hyn ar ôl amser ychwanegol.
Ond cyfle i arwyr Dinbych lwyddo ble methodd Caernarfon efallai, gan fod yr enwau ar gyfer y rownd gyn derfynol wedi dod allan o'r het. Bydd Dinbych yn wynebu Cei Conna tra bydd y deiliaid, Y Seintiau Newydd yn cyfarfod a Chaerfyrddin.
Mae’n debyg y bydd llygaid nifer o ddilynwyr pêl droed ar y gem rhwng Dinbych a’r Cei ond does dim amheuaeth fod Cwpan Word yn ei fformat presennol wedi cyflawni llawer i roi bywyd newydd i gystadleuaeth a oedd rhyw dair mlynedd yn marw ar ei draed.
Gair i gall y taro ar ei ganfed gyda gweledigaeth Cwpan Word efallai?