Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg: Tachwedd 4ydd-9fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Cofio - Branwen Niclas

rhyddhau - to release
braint - a privilege
cyfrifoldeb - responsibility
i fyw fy llygaid i - deep into my eyes
rhyw grud rhyfedd - a strange shiver
llond bol - a guts full
llais iasol - a chilling voice
argian fawr - goodness me
cyfaddef - to confess
tystiolaeth - evidence

Rebel oedd thema'r wythnos diwetha ar y rhaglen Cofio ac mi glywon ni gan un rebel, Branwen Niclas, aeth i'r carchar pan oedd hi'n ifanc ar ôl protestio dros y Gymraeg. Dyma i chi glip bach o Branwen yn sôn am ei phrofiadau yn y carchar gyda Gaynor Davies.

Gari Wyn - Mona Lifting

yn beryglus - dangerously
ffilm arswyd - horror film
arbenigo - to specialise
craeniau - cranes
offer codi - lifting equipment
cytundeb - contract
Y Swisdir - Swizterland
cyfarwyddwr gwreiddiol - original director
rheolwr cyffredinol - general manager
anelu - to aim

Ew, roedd Branwen Niclas yn byw'n beryglus yn fan'na yn doedd? Roedd honna fel stori allan o ffilm arswyd! Mae Gari Wyn yn licio siarad efo pobl sy'n rhedeg busnesau a'r wythnos diwetha aeth o i weld criw cwmni Mona Lifting ar Ynys Môn. Maen nhw'n arbenigo mewn craeniau ac offer codi, ac maen nhw wedi ennill cytundeb gyda chanolfan CERN yn y Swistir. Dyma Gari'n sgwrsio efo Steven Jones o'r cwmni.


Rhaglen Dewi Llwyd - Mathew Rhys

aros yn y cof - to stay in the memory
yn hael iawn - very generous
sa i'n credu - I don't believe
cynhyrfu - to excite
yng nghôl - in the lap
cawr - giant
yr ornest - the bout
y gamp - the sport
arwr - hero
rhoi'r ffidil yn y to - to give up

Steven Jones o gwmni Mona Lifting, sydd wedi dysgu Cymraeg, oedd yn sôn wrth Gari Wyn am waith y cwmni. Mae'r actor Matthew Rhys wedi dod yn enwog iawn yn yr Unol Daleithiau ar ôl y gyfres The Americans, a fo oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos yma. Ond nid dathliad penblwydd yn Hollywood oedd o'n ei gofio ar y rhaglen, ond penblwydd arbennig iawn pan oedd o'n blentyn yng Nghymru ac yn cael mynd i weld Giant Haystacks yn reslo.

Rhaglen Aled Hughes - Tardis

cynllunydd celf - art designer
y teimlad - the feeling
ofn - fear
disgwyliadau - expectations
unigryw - unique
arwydd - sign
werth ei weld - worth seeing
cyfeiriad - direction
cynhyrchwyr - producers
elfennau - elements

Mathew Rhys oedd hwnna'n cofio am ornest reslo arbennig iawn ar raglen Dewi Llwyd. Os dych chi'n ffan o Dr Who mi fyddwch chi'n siwr o fod wedi sylwi bod yna ddoctor newydd - menyw am y tro cynta erioed. Ond tybed wnaethoch chi sylwi bod cerbyd y doctor - y Tardis wedi newid hefyd. Arwel Jones, cynllunydd celf y gyfres sydd yn gyfrifol am y newidiadau a dyma fo'n esbonio wrth Aled Hughes pa newidiadau mae o wedi ei wneud i'r cerbyd enwog.

Georgia Ruth - Swci Delic

ymenydd - brain
delweddau - images
cyfuno - to combine
fy nghefndir i - my background
ymateb - response
trobwynt - turning point
cyfleu - to convey
duwch - blackness
hiwmor tywyll - dark humour
colli eu brwydrau nhw - lost their battles

Cofiwch chwilio am waith Arwel ar y Tardis y tro nesa dach chi'n edrych ar Dr Who. Roedd Mared Lenny yn arfer canu o dan yr enw Swci Boscawen, ond tair blynedd yn ôl cafodd hi diwmor ar yr ymenydd, ac mi benderfynodd hi ei bod eisiau bod yn artist. Mae ei gwaith hi yn defnyddio delweddau seicadelic ac mae hi nawr yn galw ei hun yn Swci Delic. Hi oedd gwestai Georgia Ruth wythnos diwetha, yn sgwrsio am ei ffilm The Accidental Artist. Mared sydd wedi cynhyrchu'r ffilm i ateb cwestiynau am ei salwch.

Post Prynhawn - Wil Owen

darlledwyd - broadcasted
newyddion caled - hard news
her - a challenge
gohebwyr - correspondents
elfen gref - a strong element
adroddiadau - reports
roedd arian yn brin - money was in short supply
ges i orchymyn - I was ordered
ffrwydodd y peth - the thing exploded
rhan allweddol - a key part

A phob lwc i Mared Lenny, neu Swci Delic efo'i ffilm 'The Accidental Artist'. Drwy'r wythnos mae'r rhaglen Post Prynhawn wedi bod yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn, sef dathlu pen blwydd y rhaglen yn 40. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar Dachwedd 6ed ac un o'r cynhyrchwyr cynta'r rhaglen oedd Wil Owen. Dyma fo'n siarad am y dyddiau cynnar ar raglen bnawn Llun o'r Post Prynhawn.

Rhaglen Rhys Mwyn - Tammy Jones

cantores - female singer
poblogaidd - popular
mewn rhes - in a row
llwyth o gardiau - loads of cards
cynrychioli - to represent
hogan yr ardal - local girl

Ychydig o hanes y rhaglen Post Prynhawn yn fanna ar Post Prynhawn! Enillodd y gantores Tammy Jones y sioe dalent, Opportunity Knocks, sioe deledu boblogaidd iawn yn ôl yn y saithdegau. Cafodd Rhys Mwyn sgwrs efo hi ar ei raglen nos Lun a dyma i chi flas ar y sgwrs honno.

 

 

Mwy o negeseuon

Nesaf

Cymru a Chei Connah