Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Medi 29ain - Hydref 5ed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Geraint Lloyd - Osian Davies

yn y pendraw - at the end of the day
heddwas - plismon
gof - blacksmith
cafodd ei wobrwyo - he was awarded
Llysgennad Ifanc - Youth Ambassador
heblaw am - apart from
ambell i ddydd Sadwrn - the odd Saturday
Amgueddfa Wlân - Wool Museum
ydw glei - I certainly am
segur - idle

Hanes bachgen prysur iawn! Mae Osian yn y chwedeg dosbarth yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, ac eisiau, yn y pendraw, fod yn heddwas neu yn gof. Ond am ei waith yn myd chwaraeon cafodd o ei wobrwyo'n ddiweddar wrth iddo dderbyn gwobr Llysgennad Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Ceredigion ym mis Gorffennaf. Mae'n anodd gwybod lle cafodd o'r amser i wneud unrhywbeth ym myd chwaraeon ar ôl i ni ei glywed yn sôn am y pethau eraill mae o'n ei wneud pob noson o'r wythnos.

Co Bach - Dora Herbert Jones

yr ieuenga - the youngest
druan o fy nhad - poor Dad
di-nod, hynod brydferth - unremarkable, very pretty
Seisnigaidd - Anglicised
cynifer o fyddigions - so many posh people
o bob enwad - of every denomination
be' ar y ddaear - what on earth
argraffu - to print
llythrennau bras - capital letters
ar y pared yma ac acw - here and there on the wall

Osian Davies yn disgrifio ei fywyd prysur wrth Geraint Lloyd yn fan'na, a dydy o 'n bendant ddim yn berson segur nac ydy? Blas o'r gorffennol sy nesa a blas yn arbennnig ar ardal LLangollen bron i ganrif yn ôl. Mi gaethon ni chi ychydig o hanes Dora Herbert Jones cafodd ei magu yn Llangollen, yn rhan o'r gyfres Co' Bach. Dyma i chi ddisgrifiad Dora o Langollen a sefyllfa'r Gymraeg yn y dref pan oedd hi'n blentyn.

Beti a'i Phobol - Sarah Reynolds

bodoli - to exist
ymwybodol - aware
rhag fy nghywilydd - shame on me
anwybodus - ignorant
diwylliant - culture
tybio - to assume
trefedigaeth - colony
estron - foreign

Wel dyna ddiddorol, a chwarae teg i dad Dora am sefyll yn gryf dros y Gymraeg ynde? Mae'n drueni na fasai'r rhai symudodd i fyw i ardal Llangollen adeg hynny wedi bod yn fwy tebyg i Sarah Reynolds. Cafodd Sarah ei geni a'i magu yn Surrey a doedd hi'n gwybod dim am Gymru na'r Gymraeg. Ond mi wnaeth hi gwrdd â'i gwr Geraint yn Llundain ac mi newidiodd popeth. Mae hi'n byw yng Nghymru erbyn hyn ac wedi dysgu'r Gymraeg yn rhugl a hi oedd gwestai arbennig Beti George wythnos diwetha.

Bore Cothi - Mari Roberts

cyfryngau - media
rownd derfynol - final
beichiog - pregnant
rhoddwr sperm - sperm donor
llwyth o ddewis - lots of choice
rhinweddau - virtues
fatha - yr un fath â
diddordebau - interests
hyd yn oed - even

Sarah Reynolds oedd honna, sydd wedi gweithio ar y cyfryngau efo'r rhaglen Big Brother yn y gorffennol ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghymru. Cyrhaeddodd hi rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016, ac mae hi'n esiampl gwych i bawb sy'n symud i Gymru i fyw yn tydy? Mae Mari Roberts o Gaerdydd yn fam sengl i fachgen dwy oed, Idris. Daeth Mari yn feichiog gyda Idris drwy ddefnyddio rhoddwr sberm. Dyma hi ar raglen Bore Cothi ddydd Mawrth, yn esbonio'r broses aeth hi drwyddo i feichiogi ei mab.

Rhaglen Aled Hughes - Sgorio

chwyldro - revolution
cynghreiriau - leagues
y cyrhaeddiad - the reach
achlysur - occasion
llu o wasg rhyngwladol - a host of international press
cyfweliadau - interviews
y gyfres - the series
arloesi - pioneering
cyfandirol - continental
orlif dros y ffin - flowing over the border

Mari Roberts yn esbonio sut gwnaeth hi ddewis y rhoddwr sperm er mwyn beichiogi, difyr ynde? Mae'r rhaglen Sgorio yn dathlu ei phenblwydd yn 30 eleni. Ar un adeg dyma'r unig raglen ym Mhrydain oedd yn medru dangos gêmau pêl-droed o Ewrop fel yr El Clasico rhwng Real Madrid a Barcelona, ac roedd llawer o bobl o Loegr yn gwylio'r rhaglen oherwydd hynny Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Rhodri Tomos a Morgan Jones, cyflwynwyr Sgorio, am yr adeg cyffrous honno.

Rhaglen Aled Hughes - Vosper

cynhyrchu - to produce
darlithydd celf - art lecturer
strategaeth farchnata - marketing strategy
enghreifftiau cynhara - earliest examples
y cyfnod hyn - this period
cynhyrchu - production
o ystyried - considering
tlodi - poverty
addurno - to decorate
yn amlwg - obviously

Ychydig o hanes y rhaglen Sgorio yn fan'na, ond hanes llun eiconig cawn ni yn y clip nesa , sef llun enwog Curnow Vosper 'Salem'. Mae'r llun yn cael ei gadw ar hyn o bryd mewn oriel yn Port Sunlight ger Birkenhead. Mae hynny oherwydd cysylltiad efo cwmni Lever brothers wnaeth gynhyrchu'r sebon 'Sunlight'. Ar raglen Aled Hughes buodd y darlithydd celf Gwenllian Beynon yn esbonio sut wnaeth strategaeth farchnata cwmni Lever Brothers helpu i wneud y llun yma yn un mor eiconig.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sgoriau Anghyfarwydd

Nesaf

Cymru v Sbaen