Faint o newid nae rheolwr newydd yn ei wneud i berfformiadau tim?
Roeddwn i yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, a rhaid dweud fod yna awyrgylch bositif ac awch am y gêm yn ysbryd cefnogwyr Dinas Caerdydd.
Yn dilyn siom Ole Gunnar Solskaer, penodwyd Russell Slade yn rheolwr, gyda nifer o bobol yn gofyn pwy, gan ddechrau dyfynnu caneuon gan y grŵp pop Slade,- am mai dyna'r unig beth oeddynt yn gwybod am gyfenw’r rheolwr newydd mae’n debyg.
Ond, dwy gêm a dwy fuddugoliaeth. Y gyntaf adref i Nottingham Forest y Sadwrn diwethaf, ac yna ganol wythnos yn erbyn Ipswich.
Roedd gobeithion Ipswich yn debygol o fod yn uchel cyn y gêm, yn enwedig o feddwl nad yw Caerdydd heb eu curo yng Nghymru ers 2007.
Ond stori wahanol oedd hi ar y cae.
Er i'r ymwelwyr fynd ar y blaen ar ôl rhyw hanner awr, daeth Caerdydd yn gyfartal o fewn llai na deng munud, cyn rheoli'r ail hanner yn gyfan gwbl a sgorio ddwy gol arall.
Mae’r ddwy fuddugoliaeth yma wedi codi’r Adar Gleision, ( ‘We’ll always be blue’ - ie mi wnes i ddysgu'r caneuon) i'r degfed safle, ac fe all buddugoliaeth arall, oddi cartref y Sadwrn yma, yn Millwall, sydd ond wedi ennill tair gem hyd yn hyn, weld Caerdydd yn dod yn agos iawn at safleoedd gemau'r ail gyfle.
Tipyn o newid. Tipyn o argraff gan Slade, a gan nad oes gen i fawr o wybodaeth am y rheolwr newydd chwaith, allai ddim gwneud gwell na dweud ‘C’mon, c’mon’ a ‘Give us a goal’ ; a tybed mai ‘come on feel the noise’ fydd hi i lawr yn ardal Lecwydd os mai dyma sut fydd pethau am weddill y tymor!