Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 22/12/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Galwad Cynnar - Gerallt Lloyd Owen

hel atgofion - to reminisce
barddoniaeth - poetry
dros y rhiniog - over the threshold
y fwyalchen - the blackbird
hyn sy'n rhyfeddod - this is the wonder
lle goblyn - where on earth
y llygaid yn pefrio - the eyes sparkling
ystum - poise
anhygoel - incredible
i'w chymell i'r golwg - to intice her into sight

"...stori hyfryd am y bardd a'r 'deryn du. Gerallt Lloyd Owen oedd y bardd ac roedd ganddo fo berthynas arbennig efo rhyw aderyn bach oedd yn dod i'w ardd. Roedd o yn ei galw hi ac roedd hi'n dod ato fo, ond fasai hi byth yn mynd mewn i'r ty. Buodd Gerallt farw haf y llynedd ac ar Galwad Cynnar dydd Sadwrn buodd ei frawd Geraint yn hel atgofion amdano fo. Roedd ganddo fo stori ddiddorol am yr unig adeg daeth y deryn bach i mewn i'r ty..."

Tai Potas - Cwrwgl Ironbridge

tai potas - pubs
cwch - boat
ar y trywydd iawn - on the right track
cwryglau - coracles
galla i gadarnhau - I can confirm
hirgrwn - oval
eog - salmon
ar hyd y canrifoedd - throughout the centuries
rhwyd - net
at y lan - to the shore

"Tydy byd natur yn rhyfedd dwedwch? Geraint Lloyd Owen yn fan'na yn hel atgofion am Gerallt ei frawd efo Gerallt Pennant ar Galwad Cynnar. Yr wythnos diwetha daeth taith Twm Morys o gwmpas tai potas Cymru i ben, mewn tafarn yn nhref Ironbridge. Ond roedd rheswm da pam ei fod wedi dod dros y ffin i Loegr ar gyfer ei raglen olaf. Roedd Twm wedi prynu cwrwgl mewn ocsiwn yn ddiweddar, ac roedd o’n siwr mai cwrwgl Ironbridge oedd hon, ac felly aeth o yno i gyfarfod â Dylan Jones o Gymdeithas y Cwrwglwyr i weld oedd o'n iawn neu beidio..."

 

Bore Cothi - Wynne ar Waith

ar y gweill - in the pipeline
ffurfio - to form
cynulleidfa arbennig - a special audience
cyngerdd - concert
clyweliadau - auditions
lleisiau - voices
sbort - hwyl
Sir Gâr - Carmarthenshire
mas - allan
rhestr faith - a lengthy list

"Diwedd taith Tai Potas Twm Morus, yn Ironbridge o bob man! Dach chi'n fwy tebyg o fod wedi gweld y tenor enwog, Wynne Evans yn teithio ar fws yn hytrach nag ar gwrwgl. Fo wrth gwrs oedd yn canu ar fws yn hysbysebion cwmni cymharu prisiau go enwog! Mae ganddo fo broseict arall ar y gweill rwan ar gyfer rhaglen deledu newydd o'r enw ‘Wynne ar Waith’. Buodd Wayne yn chwilio am bobl i ganu mewn côr newydd. Ond nid côr cyffredin bydd hwn, mae Wynne wedi recriwtio o dri o gwmnïau mwyaf Cymru. Buodd o’n sôn mwy wrth Shan Cothi ddydd Llun..."

 

Rhaglen Dylan Jones - Telynau Thai

cerddoriaeth - musician
telyn - harp
tywysog - prince
teulu brenhinol - royal family
cyfathrebu - to communicate
iaith byd-eang - global language
ffeind - kind
pa brofiadau eraill? - what other experiences?
profion - tests
cerddor - musician

"Pob lwc i gôr newydd Wynne Evans ynde? Cofiwch chwilio am y rhaglen pan ddaw hi ar S4C cyn bo hir. Mi wnawn aros efo cerddoriaeth am ein clip ola ni. Mae Elfair Grug Dyer o Fynytho ym Mhen Llyn, newydd ddod yn ôl o Bangkok yng Ngwlad Thai, ble roedd hi’n dysgu’r delyn mewn canolfan delynau yno. Mae cysylltiad rhwng y ganolfan honno â Chanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon. Ond pam bod y delyn mor boblogaidd Ngwlad Thai? Dyma i chi Elfair yn dweud yr hanes wrth Dylan Jones...."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 15/12/2015

Nesaf

Gemau Dros y Nadolig