Main content

Gemau Agoriadol Ewro 2016

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Er yr ydym yn gyfarwydd 芒 r么l Osian Roberts o fewn ein t卯m rhyngwladol fel hyfforddwr , gyda鈥檜 gefndir fel rheolwr a hyfforddwr i dimau Porthmadog a Rhyl, nid pob tro y gellir cysylltu Uwch gynghrair Cymru a phenwythnosau p锚l droed rhyngwladol.

Ond felly y bu ar ddechrau鈥檙 wythnos yma. Yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ryngwladol Ewrop 2016, gwelwyd Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref i Georgia, gan gynnwys cyn golwr Tref y Barri, David Forde yn y gol.

Ymddangosodd Forde mewn un ar bymtheg o gemau i'r Barri yn nhymor 2001/2. Ymunodd y golwr a鈥檙 Barri o glwb Galway United cyn symud oddi yno i West Ham United am 拢75,000. Ar 么l cyfnod byr gyda Chaerdydd, ymunodd Forde a chlwb Millwall ble wedi chwarae iddynt mewn dros ddau gant a hanner o gemau. Noson lwyddiannus oedd hi hefyd i gyn golwr y Barri gyda鈥檙 Weriniaeth yn fuddugol o ddwy gol i un.

Yna, yn hwyrach yr un noson, gwelwyd hanes yn cael ei greu wrth i Gibraltar chwarae eu gem ryngwladol gystadleuol gyntaf ers dod yn aelod o UEFA yn llynedd. Eu gwrthwynebwyr oedd Gwlad Pwyl. Gan nad oedd eu stadiwm yn Gibraltar yn cyfarfod a gofynion UEFA, rhaid oedd cynnal y g锚m ar Stadiwm yr Algarve yn Faro, Portiwgal.

Amddiffynnwr canol Gibraltar yn y g锚m oedd David Artell, gynt o Wrecsam ond y tymor yma yn allweddol ynghanol amddiffyn y Bala yn Uwch gynghrair Cymru. Profiad rhyngwladol Gibraltar cyn y penwythnos diwethaf oedd cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd, gan gynnwys gemau yn erbyn Ynys M么n.

Bu Gibraltar hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol rhan amser yn y Rhyl yn 2008.

Dyma oedd pumed ymddangosiad Artell i鈥檞 wlad, gan eu bod hefyd wedi chwarae gemau paratoadol cyfeillgar yn erbyn ynysoedd y Faro, Estonia a Malta.

Ond, tipyn o ddeffroad fu鈥檙 g锚m gyda鈥檙 Pwyliaid yn sgorio saith gwaith a鈥檜 blaenwr Robert Lewandowski, o Bayern Munich, yn sgorio pedair gwaith. Bydd cael chwaraewr profiadol fel Artell yn si诺r o ddatblygu鈥檙 Bala ymhellach a chafwyd canlyniad arbennig gan y dim tra roedd Artell i ffwrdd, wrth iddynt chwalu Caerfyrddin o wyth gol i un ar Faes Tegid.

Dim ond Llanelli, yn 2009 a鈥檙 Seintiau Newydd y llynedd, sydd wedi sgorio mwy mewn gem yn yr Uwch gynghrair; Llanelli yn trechu'r Drenewydd o naw gol i ddwy , ar Seintiau yn fuddugol ym Mangor o naw gol i un. Mae Llanelli a鈥檙 Seintiau hefyd wedi sgorio wyth gwaith mewn gem tra mae Caerfyrddin er waethaf eu siom ddydd Sul, wedi llwyddo i wneud hyn dwywaith, curo Grange Harlequins o wyth i ddim ym 2005 ac yna Cei Conna o'r un sg么r yn 2007.

Does dim amheuaeth i mi fod arwyddo chwaraewyr profiadol a all gynnig arweiniad ar y cae yn mynd i ddatblygu timau Uwch gynghrair Cymru yn well. Cawsom dystiolaeth bellach o hyn , eto ar y Sul, wrth i Aberystwyth ynghyd a鈥檜 amddiffynwr newydd, Steven Wright, gynt o Wrecsam a Lerpwl, guro o un g么l i ddim yn y Rhyl.

Gyda鈥檙 Bala a hefyd Aberystwyth yn dangos cychwyn da i'w tymor, hwyrach bod yna le i awgrymu mai oddi yma y daw'r bygythiadau mwyaf i obeithion y Seintiau Newydd ac Airbus y tymor yma. Os gall eu chwaraewyr profiadol roi arweiniad a chymorth ar y cae, does gen i ddim amheuaeth y bydd y cystadlu am bencampwriaeth Uwch gynghrair Cymru yn un agos iawn y tymor yma.

Yn y cyfamser, a gyda buddugoliaeth swmpus y tu cefn iddynt, hwyrach mai penbleth nesaf y Bala fydd ystyried os caiff eu chwaraewr rhyngwladol ei le yn 么l yn y t卯m ar gyfer eu gem yn erbyn Derwyddon Cefn nos Wener!

Tipyn o newid bydd marcio blaenwyr y Derwyddon ar 么l rhedeg am awr a hanner ar 么l prif sgoriwr Bundesliga鈥檙 Almaen !

Ond fydd y profiad rhyngwladol a mwy i ddod gyda Gibraltar yn wynebu鈥檙 Almaen, pencampwyr y byd, cyn hir!

Tybed felly a welwn Joachim L枚w y Bala rhywbryd i bwyso a mesur cyn penderfynu pa flaenwr i鈥檞 ddewis i鈥檙 Almaen i wynebu David Artell ar y maes rhyngwladol.

Y posibiliadau i Low, mae'n debyg fydd Mario Goetze o Bayern Munich, Lucas Podolski o Arsenal neu Toni Kroos o Real Madrid! Ie penderfyniad penbleth ; byddwch wyliadwrus o gwmpas y Bala 'na rhag ofn fydd yna ryw sgwrs mewn Almaeneg yn cael ei chynnal o gwmpas Maes Tegid ystod y misoedd nesaf!

Ie wir Bala, Bala uber alles!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Alex yn Galw - Al Lewis

Nesaf