Main content

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 23 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Senghenydd - Bill Jones

pwll glo - coal mine
t卯m achub - rescue team
ergyd fawr danddaear - huge underground blast
erchyll - terrible
grym y ffrwydiad - the power of the explosion
y gawell - the cage
hynod o ddewr - remarkably brave
difrod - damage
cyflafan ofnadwy - terrible massacre
nwy gwenwynig - poisonous gas

"...cofio'r ddamwain ofnadwy fuodd ym mhwll glo Senghenydd ger Caerffili gan mlynedd yn 么l. Bu farw pedwar cant pedwar deg o lowyr yn y ddamwain, ac yr wythnos diwetha cynhaliwyd seremoni arbennig i gofio'r rhai fuodd farw. Mi gafodd Alun Thomas sgwrs efo'r hanesydd yr Athro Bill Jones am hanes y ddamwain.Yn y clip yma yn ogystal mi gawn ni glywed gan Margaret Jones am hanes ei thad-cu, neu ei thaid, oedd yn gapten ar d卯m achub y pwll..."

Taro'r Post - Yncl Jac听
oes go lew - a good innings
y drychineb - the tragedy
llawenydd - happiness
y danchwa - the explosion
amryw o'r gogledd - many from the north
rhyfel byd cynta - first world war
berfedd y bore - the early hours
wedi ei gladdu - buried
goresi - to survive
brwydro - to fight

"Bil Jones a Margaret Jones yn fan'na yn dod a digwyddiadau ofnadwy'r diwrnod hwnnw ym mis Hydref Mil Naw Un Tri yn fyw mewn ffordd ddramatig iawn. Ac mi arhoswn ni efo Senghenydd am yr ail glip, a stori anhygoel Yncl Jac, sef ewythr i Elwyn Davies o Ddinbych fuodd yn gweithio yn Senghennydd adeg y ddamwain ond newidiodd ei shifft y noson honno. Drwy lwc felly doedd o ddim yn y pwll pan ddigwyddodd y ffrwydriad. Ond nid dyna ddiwedd ar lwc Yncl Jac fel yr oedd Elwyn yn esbonio ar Taro'r Post... "

Cofio - Dewi Pws

cerdd - poem
menyw - dynes
lan - fyny
unig - lonely
sboner - cariad
yn raddol - gradually
chwys yn tasgu - sweat pouring
gweiddi'n groch - shouting her head off
bant - i ffwrdd
noeth - naked

"Diddorol ynde bod Yncl Jac na thad-cu Margaret Jones, yr un o'r ddau ohonyn nhw, yn hapus i siarad am be ddigwyddodd yn Senghennydd. Dipyn o foi oedd Yncl Jac cofiwch. Jest y math o ddyn fasai'n apelio at Iola McNeli. A phwy ydy hi, tybed? Dyma Dewi Pws yn ei ffordd fach ei hun yn dweud ei hanes hi ar ffurf cerdd ar Cofio wythnos diwetha..."

Rhaglen Nia - Bethan Bennett

emynau - hymns
ffurfiol - formal
arwain y g芒n - conducting the singing
cymdeithasau di-ri - all kinds of societies
pallu - methu
cyfieithu - to translate

"Mi fasai'n syniad i Iola McNeli symud i Lundain falle. Dyna lle wnaeth Bethan Bennett o Dregaron gwrdd 芒'i gwr Gethin. Ond nid drwy rhyw asiantaeth d锚tio y gwnaeth hi ei gyfarfod cofiwch, ond drwy ganu emynau ar Hyde Park Corner yn Llundain yn ystod y pumdegau. Buodd Bethan yn siarad efo Nia Roberts yr wythnos diwetha a dyma i chi flas ar y sgwrs ..."

Rhaglen Nia - Madog

llwyth brodorol - indigenous tribe
nodweddion - features
rhwyfau - oars/paddles
gwrthwyneb - opposite
disgynyddion - descendants
penaethiaid - chiefs
crwyn ych - ox skins
adrodd - to recite
cefn tost - bad back
cachgwns - cowards

"Doedd dim angen cyfieithydd ar Denzil Davies o Genarth pan gwrddodd o 芒 un o lwyth y Mandan, llwyth brodorol o Ogledd America. Pam hynny? Wel mi roedd o'n medru'r Gymraeg - wel dau air beth bynnag! Yn 么l y stori roedd y llwyth hwn wedi dysgu Cymraeg oddi wrth Tywysog Madog, aeth drosodd i America ganrifoedd yn 么l. Sgwrsio am gwrwglau ar yr Afon Teifi oedd Denzil efo Hywel Gwynfryn ar raglen Nia, ond mae yna gysylltiad rhwng y Mandan a'r cwrwgl, fel y cawn ni glywed... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dangos Y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Nesaf

Agor WOMEX mewn steil