Main content

Geirfa Podlediad Pigion i ddysgwyr - Mehefin 19eg -25ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ar Y Marc - Pêl-droed

Ffrancwr - a Frenchman
rhugl - fluent
meddianu - to occupy
trafaelio - teithio
cefnogwyr - fans
anhygoel - incredible
wedi profi - has proved

"...wel be arall ond efo'r newyddion mawr bod Cymru yn dal yn Ewrop. Ond cyn i chi gael sioc nid sôn am y Refferendwm ydw i ond am y gêm bêl-droed enfawr ym Mharis ddydd Sadwrn, a Chymru wrth gwrs yn curo Gogledd Iweddon o 1-0. Cyrhaeddodd Cymru'r rownd yma ar ôl perfformiad gwych yn erbyn Rwsia pan enillon nhw o dair gôl i ddim. Mi roedd yna raglen arbennig o Ar y Marc cyn y gêm fawr honno, a dyma i chi glip bach ohoni lle mae Dylan Jones yn siarad efo Ioan, sydd yn byw yn Ffrainc erbyn hyn... "

Aled Hughes - Prawf gyrru

prawf gyrru -
arwydd - sign
diffod - to switch off
canmoliaeth - praise
fy nychryn i - make me afraid
y drychau - the mirrors
ffor 'cw - that way
y lembo - the idiot
bagio - to reverse
diffyg - lack of

"...a phob lwc i Gymru yn y rownd nesa yn Lille nos Wener ynde? Dach chi wedi pasio'ch prawf gyrru? Ydach chi'n hyderus basech chi ei basio o'i gymryd o eto? Mi basiodd Aled Hughes ei brawf gyrru yn ôl yn 1997 ond roedd o eisiau gwybod sut basai fo'n gwneud mewn prawf gyrru y dyddiau hyn. Felly bore Mawrth aeth Aled am wers yrru efo Jacelyn Williams, sy biau ysgol yrru Elidir. Ar ôl iddyn nhw fynd am dro bach yn y car, be oedd Jacelyn yn feddwl o sgiliau gyrru Aled?"

Beti a'i Phobol - Gwen Ellis

yng nghyfnod cynnar - in the early period
cofiadwy - memorable
bardd - poet
cynhyrchiadau - productions
neiant - nephews
gwisg - costume
yn freintiedig - privileged
fy nhridegau - my thirties
profiad aruthrol - a tremendous experience
enwebu - to nominate

Dw i ddim yn siwr be fasai'n fy ngwneud i fwya nerfus - bod yn y car efo Aled neu efo Jacelyn! Mi fuodd Beti George yn holi'r actores Gwen Ellis fore Sul ac mi ofynodd Beti iddi hi be oedd y rhannau mwyaf cofiadwy iddi chwarae dros y blynyddoedd. Dyma Gwen yn sôn am rai o'i pherfformiadau yng nghyfnod cynnar ei gyrfa, gan sôn yn arbennig am yr adeg y buodd hi'n perfformio yn y ffilm Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn, hen gartre'r bardd...

Shan Cothi - Barry Manilow

rhannu llwyfan - to share a stage
noson ryfeddol - an amazing night
cloi'r sioe - closing the show
mor glou - so quickly
rhybuddio o flaenllaw - warning beforehand
galwad - a call
Manceinion - Manchester
cyfyngu ar niferoedd - limit on the numbers
cyd-fynd â - to be in synch with
uchafbwynt - highlight

"Gwen Ellis yn fan'na yn rhannu storïau am ei chyfnod cynnar fel actores efo Beti George. Roedd hi’n wythnos fawr i Gôr Caerdydd wrth iddyn nhw rannu llwyfan efo’r canwr Barry Manilow. Cafodd Shan Cothi air efo Gwawr Owen o'r côr a gofynodd Shan iddi hi sut aeth y noson, a phwy goblyn ydy'r Fanilows? Dyma ateb Gwawr..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cymru v Gogledd Iwerddon - Parc des Princes