Main content

Ffeinal Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nos Sadwrn bydd pinacl pêl droed ar gyfandir Ewrop, sef ffeinal Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop.

I mi, pan oeddwn yn ifanc ffeinal Cwpan Ewrop oedd y gêm fwyaf, ac fel un a gafodd ei fagu yng nghanol llwyddiant ysgubol Real Madrid, yn flynyddol dros y bum mlynedd gyntaf, doedd ond un tîm yn bodoli.

Mae darllenwyr cyson Blog Ar y Marc yn wybodus o bosib fy mod wedi gwneud taith emosiynol iawn i'r Bernabeu'r Hydref diwethaf. Taith a ddaeth a gymaint o atgofion personol yn ôl, gan gynnwys ysgrifennu at y clwb am lofnodau, neu unrhyw femorabilia a fyddai at gael. Mae'r rheini dal i fod gennyf, mewn ffrâm yn y tŷ, lluniau chwaraewyr real gyda Chwpan Ewrop, a chopi o'u llofnodau oddi tan y lluniau.

Mae gen i raglenni hefyd, y rhai gwreiddiol o’r gemau yn erbyn Stade de Reims yn 1959, ac un arall o ffeinal fythgofiadwy, y bumed yn olynol i Real, ym Mharc Hampden, Glasgow, pan chwipiodd y Sbaenwyr eu gwrthwynebwyr, Eintracht Frankfurt o saith gol i dair. Mae gen i gopi ( ond nid un gwreiddiol) hefyd o ffeinal 1956, eto rhwng Real a Reims.

Ond nos Sadwrn yn Lisbon bydd yna brofiad newydd i Real Madrid.

Eu gwrthwynebwyr fydd eu cymdogion o’r un ddinas, sef Atletico Madrid. Dyma'r tro cyntaf i ddau dîm o'r un ddinas gyfarfod yn ffeinal Cwpan Cynghrair Ewrop.

Tipyn o achlysur!

Enillodd Atletico bencampwriaeth Sbaen, La Liga'r penwythnos diwethaf, gan adael Barcelona yn yr ail safle a Real yn drydydd. Ond Real oedd enillwyr Cwpan Sbaen, Copa del Rey.

Yn y gemau maent wedi wynebu ei gilydd y tymor yma, mae Atletico wedi curo Real oddi cartref, a dod yn gyfatal adref yn y ddwy gêm gynghrair, Real yn curo o dair i ddim yng nghymal cyntaf rownd gyn derfynol Cwpan Sbaen, ac o ddwy i ddim yn yr ail gymal.

Mae’n ddeuddeng mlynedd ers i Real Madrid ennill y gystadleuaeth yma. Ond fe fyddai gweld Atletico yn gwneud y dwbl yn Sbaen bron yn wyrth, ac mae’n debyg y bydd yna gost aruthrol o lwyddo eleni ( hyd yn oed os na fyddant yn llwyddiannus yfory) gan y bydd ei rheolwr Diego Simeone yn sicr o dderbyn gwahoddiadau i reoli timau eraill ar y cyfandir yn ystod yr Haf.

Tra mae Real yn meddu ar ddoniau uwchlaw'r mwyaf galluog, Gareth Bale a Cristiano Ronaldo i enwi ond dau, bydd Atletico yn dibynnu lawer ar chwaraewyr a fydd o bosib yn ymddangos am y tro olaf i'r clwb.

Disgwylir i Diego Costa eu blaenwr ymuno ac un o dimau mawr Ewrop, bydd y golwr Thibaut Courtois yn dychwelyd i Chelsea (sef y clwb mae eisoes yn aelod ohono ond sydd wedi bod ar fenthyg i Atletico tan yfory ) .

Llwyddiant un tymor efallai i Atletico gyda'r unig siawns i gyflawni'r hyn na feiddiant feddwl amdano ar ddechrau’r tymor?

Ond mae disgwyliadau enfawr draw yn y Bernabeu, ar ôl gwario anferthol a thalu'r pris mwyaf yn y byd a dalwyd am chwaraewr wrth ddenu Gareth Bale. Ond llwyddiant mae’r Cymro wedi bod, ac yn cael ei addoli cymaint ag un rhyw un arall.

Pan welais i Real yn chwarae yn ystod yr Hydref, curo Sevilla o saith gol i dri, roedd y Cymro a hefyd Ronaldo yn serennu, a serennu maent wedi ei wneud ers hynny.

Anodd darogan y sgôr yn y gem ddarbi anferth yma, ond bydd gwledd o bêl droed yn ein haros, ac fe fydd yna ormod o atgofion hoff am ddyddiau fy mhlentyndod imi fod yn ddiduedd.

Dos amdani Gareth, a tyrd a’r Gwpan yn ôl i'r Bernabeu ar ôl yr hirymaros o ddeuddeng mlynedd.

Viva Madrid , viva Real! A mawr fydd fy atgofion innau o’m mhlentyndod hefyd.

Pan euthum yn ŵr, ni roddais heibio bethau fy mhlentyndod !

Nos Sadwrn mae yn aros Ronaldo, Bale a Real; a’r mwyaf o’r rhai hyn fydd Bale.

Viva, viva los Blancos!

Mwy o negeseuon

Nesaf