Main content

Dyfodol Clwb Pel-droed Bae Colwyn

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fe ddylem fod yn ymwybodol erbyn hyn nad oes yna fawr o ddim yn parhau yn barhaol yn y byd pêl droed.

O ystyried dyddiau cynnar uwch gynghrair Cymru, mae timau fel Maesteg, Y Fenni, yr Wyddgrug, Glyn Ebwy a Bae Chemaes wedi diflannu neu ddisgyn i gynghreiriau llawer is.

Ar y llaw arall, mae’r Seintiau Newydd wedi dangos fod yna fodd i barhau a bod llwyddiant yn magu llwyddiant yn enwedig wrth ystyried faint o arian y gellir ei ennill drwy gymhwyso a chystadlu ar lwyfannau Ewrop.

Mae Cei Connah a’r Bala sydd hefyd wedi crwydro Ewrop yn ddiweddar yn dangos eu bod yn gallu elwa o'u gemau cystadleuol ar y cyfandir.

Roedd yna adeg pan oedd Bangor yn arwain y ffordd wrth gystadlu yn gyson yn rhyngwladol, ond erbyn heddiw does wybod beth yw eu dyfodol.

Felly hefyd glwb Bae Colwyn, a wrthododd y cyfle i ymuno a'r Uwch Gynghrair yn 1991, a mynnu'r hawl i barhau o fewn trefn cynghreiriau pêl-droed Lloegr, ac ar hyn o bryd yn chwarae yn Adran Un y gorllewin o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr.

Yr wythnos yma, cyhoeddwyd datganiad gan swyddogion y clwb mewn cyfarfod gyda’r cefnogwyr, yn nodi na all y clwb barhau i gystadlu yn Lloegr mwyach oherwydd y costau, a’u bod yn ystyried dychwelyd i chwarae yng nghynghreiriau pêl-droed Cymru oherwydd trafferthion ariannol.

Yn ôl datganiad y clwb, mae angen codi £100,000 yn fwy yn flynyddol os am warchod y safonau a lefel y cystadlu o fewn y gynghrair yn Lloegr ar y lefel bresennol.

I gymhlethu pethau, ychwanegodd y datganiad bod y cadeirydd a'r rheolwr yn cytuno bod eu "calonnau eisiau aros yn Lloegr, ond eu pennau'n eu hannog i fynd yn ôl i bêl-droed Cymreig lleol ac ailadeiladu". Ymddengys hefyd, yn ôl y datganiad, y byddai parhau o dan y drefn bresennol yn arwain at weld y clwb yn dod i ben o fewn dwy flynedd.

Fel nifer o dimau pêl droed y dyddiau yma, mae’r Bae wedi gweld dirywiad yn y nifer o bobl sydd yn dod i'w cefnogi i faes Ffordd Llaneilian, a bod diffyg buddsoddiad gan fusnesau lleol yn cael effaith andwyol ar gyllid y clwb a gweld llawer mwy o bobl yn mynd i Barc Eirias i gefnogi clwb Rygbi Gogledd Cymru (RGC), sydd yn prysur dynnu sylw i'w hunain o gwmpas yr ardal.

Ar wefannau cymdeithasol, mae nifer o bobl yn beirniadu tueddiad y clwb i barhau i ddibynnu'n ormodol ar chwaraewyr o ardal Lerpwl a Manceinion, heb gynnig ddigon o gyfleoedd i chwaraewyr o'r ardal leol, tra mae'r clwb rygbi wedi ffynnu drwy hybu chwaraewyr lleol, ac wedi llwyddo i ddod yn rhan fwy cynhwysol o'r gymdeithas o'i gymharu â'r clwb pêl droed.

Hwyrach bod gwers yma, a hwyrach nad yw’r clwb pel droed wedi gwneud digon i newid yn ôl yr oes, ac wedi parhau i ddilyn yr un llwybr a droediwyd ers blynyddoedd lawer, heb addasu i arferion newydd, cyfoes.

Beth bynnag y rheswm am y sefyllfa bresennol, dywedodd cadeirydd y clwb, Bill Murray, mewn cyfarfod nos Lun diwethaf, fod gan y clwb dri opsiwn i’r dyfodol, sef :-

Parhau gyda'r sefyllfa bresennol fyddai'n gweld y clwb yn dod i ben yn fuan.

Aros yn Lloegr ar gyllideb is a hwyrach brwydro yn erbyn disgyn i lawr drwy'r cynghreiriau yn flynyddol.

Dechrau o'r newydd o fewn y drefn pel droed yng Nghymru.

Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld trafodaethau a chonsyrn yngl欧n â dyfodol clwb y Bae.

Nol ym mis Medi, 2017, ymatebodd y clwb i gais gan newyddiadurwr a ofynnodd a yw’r clwb yn gweld eu hun yn parhau o fewn cyfundrefn pêl droed Lloegr (fel y mae ar hyn o bryd) neu yn gweld posibiliadau mewn ymuno a chyfundrefn pêl droed Cymru yn gyfan gwbl gyda’r nod o gystadlu yn Uwch Gynghrair JD Cymru. Ymatebodd y clwb drwy osod y cwestiwn ar wefan y clwb gyda’r mwyafrif o ymatebion yn dymuno gweld y clwb yn ymuno a threfn pêl droed Cymru.

Yn sgil y cyhoeddiadau sydd yn cael eu gwneud, a’r ffaith fod swyddogion y clwb am gynnal sgwrs gyda swyddogion Cymdeithas Bel droed Cymru, mae’n ymddangos mai dyna fydd yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Dyfodol ansicr felly, a chyfarfod tyngedfennol o’r cyfranddalwyr i'w gynnal yn y Clwb Pel Droed at nos Iau, Mawrth 7fed.

Ai dyma’r adeg hefyd i ystyried dyfodol clwb pêl droed Tref Merthyr?

Pwy a 诺yr?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cofio Charlie Parry