Main content

Radio Cymru yn dilyn pob un o gemau Cymru yn Siapan a thaith y Llewod

Newyddion

Gall cefnogwyr rygbi edrych ymlaen at glywed sylwebaeth fyw yn y Gymraeg o gemau prawf Cymru yn erbyn Siapan a holl gemau 聽yr haf hwn ar 主播大秀 Radio Cymru, gan gynnwys tair g锚m brawf y Llewod yn erbyn y Wallabies.

Meddai Si芒n Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg 主播大秀 Cymru 鈥淩ydyn ni鈥檔 falch iawn o gael darparu yr unig sylwebaeth fyw o bob gem yn y Gymraeg ar gyfer gemau鈥檙 Llewod 鈥 rydyn ni鈥檔 gwybod cymaint mae ein gwrandawyr yn mwynhau rygbi rhyngwladol ar Radio Cymru, ac mae鈥檙 daith bob pedair blynedd yn uchafbwynt i nifer. Heb anghofio taith Cymru i Japan lle bydd cyfle i鈥檔 gwrandawyr glywed am s锚r y dyfodol, dan arweiniad Robin McBryde."

#llewod

Gareth Charles fydd yn arwain t卯m sylwebu 主播大秀 Radio Cymru, a dywedodd 鈥淐yfres Awstralia yn erbyn y Llewod fydd uchafbwynt chwaraeon yr haf, ac fe fyddwn ni鈥檔 cyfleu holl gyffro a brwdfrydedd y daith i wrandawyr Radio Cymru. Gyda 15 o chwaraewyr o Gymru, yn ogystal 芒 Warren Gatland yn arwain yr hyfforddi, bydd digon o enwau cyfarwydd yn ymuno 芒 ni wrth i ni ddarlledu o Hong Kong i ddechrau, yna ledled Awstralia.鈥

Bydd Gareth yn dilyn hynt a helynt y Llewod ar ochr arall y byd yng nghwmni Owain Ll欧r gyda lleisiau cyfarwydd eraill yn ymuno o Gymru gan gynnwys Ken Owens, Bethan Clement ac Eleri Si么n.

Yn Siapan, Cennydd Davies a Gareth Rhys Owen fydd yn darlledu鈥檔 rheolaidd wrth i garfan ifanc Cymru dan law鈥檙 hyfforddwr Robin McBryde herio鈥檙 Siapaneaid mewn dwy g锚m brawf. Ceir sylw arbennig i鈥檙 ddwy ymgyrch ar raglen Dafydd a Caryl ond bydd cyfle i glywed y newyddion diweddaraf ar draws rhaglenni鈥檙 orsaf yn ystod y cyfnod cyffrous hwn.

Cadwch lygad hefyd ar wefan Radio Cymru fydd yn cynnwys, yn ogystal 芒 deunydd archif yn bwrw golwg n么l ar ymgyrchoedd hanesyddol y Llewod yn y gorffennol, blog wythnosol o galon carfan y Llewod gan y canolwr, Jonathan Davies.

Dyma fanylion y gemau, gyda鈥檙 amseroedd dechrau yng Nghymru:

Taith y Llewod
1.06.2013 Barbariaid, Hong Kong 12.15pm ar yr awyr, 12.30pm g锚m yn dechrau
5.06.2013 Western Force, Perth 10.30am ar yr awyr, 11am g锚m yn dechrau
8.06.2013 Queensland Reds, Brisbane 10am ar yr awyr, 10.30am g锚m yn dechrau
11.06.2013 T卯m cyfunol NSW-QLD, Newcastle 10.15am ar yr awyr, 10.30am g锚m yn dechrau
15.06.2013 NSW Waratahs, Sydney 10am ar yr awyr, 10.30am g锚m yn dechrau
18.06.2013 ACT Brumbies, Canberra 10.15am ar yr awyr, 10.30am g锚m yn dechrau
25.06.2013 Melbourne Rebels, Melbourne 10.15am ar yr awyr, 10.30am g锚m yn dechrau

Gemau Prawf
22.06.2013 Awstralia, Y Prawf Cyntaf, Brisbane 10.30am ar yr awyr, 11am g锚m yn dechrau
29.06.2013 Awstralia, Yr Ail Brawf, Melbourne 10.30am ar yr awyr, 11am g锚m yn dechrau
6.07.2013 Awstralia, Y Trydydd Prawf, Sydney 10.30am ar yr awyr, 11am g锚m yn dechrau

Cymru yn erbyn Siapan
8.6.2013 Siapan, Y Prawf Cyntaf, Osaka 5.55am ar yr awyr, 6am g锚m yn dechrau
15.6.2013 Siapan, Yr Ail Brawf, Tokyo 5.55am ar yr awyr, 6am g锚m yn dechrau聽聽聽聽聽聽聽聽聽聽聽

Felly os am glywed sylwebaeth fyw yn Gymraeg o Awstralia, dilynwch bob cic a phob cais, pob pwynt ym mhob g锚m ar 主播大秀 Radio Cymru, ar-lein (y DU yn unig) ac ar

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mercher

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 30 Mai 2013