Main content

Wythnos hunllefus U.E.F.A

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae wedi bod yn wythnos bryderus a dweud y lleiaf i bêl droed ar draws Ewrop.

Dychrynwyd pawb pan ffrwydrodd tri bom yn agos i fws tîm Borussia Dortmund ar gychwyn eu taith i'r gêm yn erbyn Monaco nos Fawrth, ond yna a oedd rhaid i'r gêm gael ei chwarae'r noson ddilynol?

Mae yna nifer o bobol wedi beirniadu penderfyniad UEFA i gynnal y gêm mor fuan ar ôl y digwyddiad gyda llawer o chwaraewyr a hyfforddwyr Dortmund yn parhau mewn tipyn o sioc.

Wrth gwrs yr ateb sydd yn ymddangos ydi fod gofyniadau cyfryngau , a threfniant yn golygu nad oedd llawer o ddewis. Ond, mae’n debyg mai'r gwir ydi fod y byd wedi dod yn un sydd yn talu mwy o sylw i agweddau ariannol y dyddiau yma nag yw i un sy’n ystyried iechyd a diogelwch unigolion. Bu beirniadaethau llym yn y wasg Almaeneg yn dilyn y digwyddiad a’r penderfyniad i ail drefnu'r gêm ar gyfer y diwrnod dilynol, gyda phapur Die Zeit yn cwestiynu‘r doethineb o chwarae mor fuan, "Mae o i gyd am arian a does neb yn meddwl am y chwaraewyr!" Felly hefyd ymateb tebyg gan bapurau newydd y Bild a’r Welt, gyda’r Welt yn dweud fod y penderfyniad yn “un annerbyniol - yn ddynol ac yng nghyd-destun chwaraeon”. Ymateb yr Hamburger Morgenpost oedd - “ Boed i'r sioe barhau; ond nid yfory”.

Nid dyma awr fawr UEFA yn si诺r!

Yna, fel nad oedd unrhyw beth wedi digwydd ar y nos Fawrth fe ddaeth y newyddion fod heddlu Madrid wedi ymddwyn yn hollol ddidrugaredd tuag at gefnogwyr Caerl欧r , yn enwedig yn y man ble roeddynt wedi cael eu hannog i gyfarfod sef y Plaza Major yng nghanol y ddinas. Ond, doedd ymddygiad honedig rhai o gefnogwyr y tîm, a oedd yn llafarganu am gadw Gibraltar yn rhan o Brydain yn gwneud dim tuag at gadw awyrgylch heddychlon, ac yn dangos dim parch nac ystyriaeth at y digwyddiad treisiol a brofwyd yn yr Almaen y noson gynt.

Parhaodd hunllef UEFA i’r nos Iau gyda chefnogwyr Besiktas o Istanbul yn cael eu cyhuddo o daflu tan gwyllt o’r eisteddle i lawr ar gefnogwyr Lyon a oedd yn eistedd islaw,

Rhedodd y Ffrancwyr ar y cae i ymochel oddi wrth y taflegrau gan achosi'r gêm i gael ei gohirio am dri chwater awr.

Wythnos hunllefus i UEFA a does ond obeithio fod yr awdurdodau o fewn, a thu allan i'r gêm wedi dod ddygsu sut i weithredu yn fwy effeithiol i rwystro’r math yma o ddigwyddiadau rhag ail adrodd eu hunain yn y dyfodol ac ar gyfer ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop sydd i'w chynnal yng Nghaerdydd ar gychwyn Mehefin.

Ac am y garfan yna o gefnogwyr Caerl欧r a fynnodd rhoi olew ar y tân ym Madrid ? - wel cynted ag yr aiff eu tîm allan o Ewrop yna’r gorau y bydd hi i bawb.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf