Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Rhagfyr 9, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dylan Jones - Nesti

dipyn o lwyddiant - quite a success
geneth - merch
safle - position
dros y Sul - dros y penwythnos
gwobrau - awards
golygu - to mean
r么n i'n beichio crio - I was crying my eyes out
annibynnol - independent
cystadlu - competing
coelio - credu

...be ydy'r cysylltiad dwedwch rhwng canu pop Cymraeg a chanu pop o India? Wel, Nesti Jones ydy'r ateb - merch ifanc o Gricieth sydd wedi gwneud enw iddi hi ei hunan yn y s卯n canu Indiaidd. Mae Nesti wedi cael dipyn o lwyddiant yn ddiweddar, yn enwedig ar I-Tunes, ac mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo hi ddydd Llun i drio cael gwybod sut yn y byd mae hyn wedi digwydd...

Cofio - Pobi yn Llydaw

pobydd - bakery
Llydaw - Brittany
newid cyfeiriad - changing direction
arall gyfeirio - to diversify
o ddifri - seriously
becws - bakery
bara beunyddiol - daily bread
cenhedlaeth - generation
crasu - to bake
cynnyrch y pentref - vilaage produce

Pwy fasai'n medddwl mai merch o Gricieth oedd yn canu yn y clip yna? Ac yn canu mewn sawl iaith ynde? Gwych iawn Nesti a gobeithio byddi di'n mynd o nerth i nerth. Rhywun arall sydd wedi cael llwyddiant dramor ydy Geraint Arfon Jones, ond llwyddiant fel pobydd mae Geraint wedi ei gael nid fel canwr, ac yn Llydaw nid yn India. Wedi dweud hynny mae stori Geraint yr un mor ddiddorol ag un Nesti, fel cawson ni glywed ar Cofio ddydd Mercher...

Post Cyntaf - Llysgenhadon Yr Urdd

llysgenhadon - Ambassadors
disgyblion hyn - older pupils
disgyblion iau - younger pupils
meithrin - nurture
sbri - hwyl
gweithgareddau - activities
ymestyn - to extend
cais ffurfiol - a formal application
brwdfrydedd - enthusiasm
ymfalchio yn - to be proud of

Geraint Arfon Jones yn fan'na yn s么n wrth John Hardy am ei brofiadau yn gweithio fel pobydd yn Llydaw. Dyna ni wedi cael stori fach o India ac un arall o Lydaw, ac mae'r clip nesa yma yn s么n am lysgenhadon. Ond dan ni ddim am fynd dramor tro 'ma. Dim pellach yn wir nag Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul, lle clywodd Aled Scourfield gan rai o blant yr ysgol am gynllun llysgenhadon newydd yr Urdd...

Rhaglen Dylan Jones - Presebau

presebau - mangers
y doethion - the wise men
diffoddwyr cannwyll - candle extinguishers
troedfedd o uchder - a foot high
unigryw - unique
dyfeisgarwch - inventiveness
cywrain - intricate
Gwlad Pwyl - Poland
prin fedrwch chi weld - you can hardly see
chwyddwydr - magnifying glass

Wel, fedrai i ddim meddwl am well llysgenhadon na'r disgyblion yna o Ysgol Dyffryn Teifi, yn siarad yn wych ar y Post Cynta ddydd Iau diwetha. Mae'r Dolig yn dod yn nes yntydy o? Mae'r coed a'r goleuadau yn dechrau ymddangos yn y ffenestri, ac mae na sawl parti Nadolig gwaith wedi digwydd yn barod! Yng nghanol hyn i gyd falle basai hi'n hawdd i ni anghofio be ydy gwir stori'r Nadolig. Does na ddim peryg o hynny'n digwydd yn nhy Nia Higginbottom o Landudno. Mae ganddi hi gant trideg o bresebau yn ei thy. Pam dwedwch? Dylan Jones gafodd sgwrs efo hi i drio ffeindio allan...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ar Y Marc: Trydydd Rownd Cwpan FA Lloegr

Nesaf

Cystadleuaeth Stori Nadolig Fer Geth a Ger