Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 2il o Fehefin 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dylan Jones - BGT

be andros? - what on earth?
sioe gerdd - musical (show)
sylw - attention
o ddifri - serious
mor angerddol - so passionate
llwyfan - stage
newid agwedd - a change of attitude
rhywun hollol ddieithr - a total stranger
megis dechrau - just the beginning
TGAU - GCSE

...clip sy'n cysylltu dwy gystadleuaeth - Britains Got Talent a'r gystadleuaeth llawer pwysicach na hynny -- Eisteddfod yr Urdd. Os dach chi wedi bod yn gwylio Britain's Got Talent mae'n debyg y byddwch chi'n nabod yr enw Jodi Bird, o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Daeth Jodi yn drydydd yn y rownd cyn-derfynol - y semis - ond yn anffodus wnaeth hi ddim symud ymlaen i鈥檙 rownd derfynol. Dyma hi'n siarad efo Dylan Jones ddydd Mawrth am y gystadleuaeth, ond hefyd am ei phrofiadau hi yn Eisteddfod yr Urdd...

O'r Maes - Eisteddfod yr Urdd

alaw werin - folk song
iau - younger
ieir - hens
mi ddaru fi - wnes i
bathodynau diri - multitude of badges
o fri - renowned
nain - mam-gu
stondin - stall

Llais hyfryd Jodi Bird yn fan'na, ond heb gael llwyfan mewn Eisteddfod yr Urdd? Mae rhywbeth o'i le am hynny. Ond wyddoch chi be, mi gafodd Jodi lwyfan wythnos diwetha, a nid yn unig hynny ond mi enillodd hi gystadleuaeth y G芒n o Sioe Gerdd yn yr Eisteddfod. Da ynde? Arhoswn ni efo Eisteddfod yr Urdd rwan a chlywed rhan o sgwrs gafodd Nia Lloyd Jones efo Rhys Llewelyn Williams, ar 么l iddo fo gystadlu yng nghystadleuaeth Alaw Werin blwyddyn chwech ac iau. Enillodd Rhys y gystadleuaeth, ond siarad am ieir wnaeth Nia efo fo...

Galwad eto - Gwerthu wyau

unigryw - unique
disgyblion - pupils
buddsoddi - to invest
ail-gylchu - recycle
pecynnu - packaging
arddangos - to show
cymorthyddion - assistants
addasu - to adapt
safonau llythrennedd a rhifedd - literacy and numeracy standards
deor - to hatch

"Yn tydy hi'n hyfryd clywed y fath dalent dwedwch? Gobeithio bod y wyau wedi plesio Nia ynde? Dan ni'n mynd i aros efo ieir rwan - Gerallt Pennant yn sgwrsio efo Ian Keith Jones, pennaeth Ysgol San Si么r, Llandudno, a rhai o blant yr ysgol am fusnes go arbennig sydd gan yr ysgol yn gwerthu wyau i fusnesau lleol. Dyma Geraint yn siarad efo'r pennaeth, y plant ac mi glywych chi'r ieir yn y cefndir hefyd..."

Dylan Jones - Twm Elias

y rhigol academaidd - the academic rut
Gweinyddiaeth Amaeth - Ministry of Agriculture
y berw - the turmoil
Carlo - Charles
ymchwil - research
porfa tir mynydd - highland pasture
diffyg polisi - lack of policy
dedfryd - sentence
cyfweliad - interview
drwy ryfeddol wyrth - miraculously

Ieir, plant a phennaeth Ysgol San Si么r Llandudno yn fan'na yn siarad efo Gerallt Pennant. Cael ei fagu ar fferm wnaeth ddechrau diddordeb Twm Elias ym myd natur. Erbyn hyn fo ydy un o arbenigwyr mwya Cymru ar y pwnc ac yr wythnos yma mi roedd o'n ymddeol o'i waith ym Mhlas tan y Bwlch ym Maentwrog. Bore Iau mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo Twm a chael gwybod ychydig am ei hanes...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llais y Seintiau Newydd yn Ewrop