Main content

Bae Colwyn a Thref Merthyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae sylw llawer ohonom wedi ei ganolbwyntio ar dimoedd fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, mae yna ddau d卯m arall o Gymru yn gosod safonau uchel o fewn trefn p锚l droed cynghreiriau Lloegr.

Cefais gyfle i weld un ohonynt yr wythnos diwethaf . Roedd t卯m Tref Merthyr adref mewn gem gwpan y gynghrair yn erbyn Yate (o Sir Gaerloyw) a daeth buddugoliaeth arall iddynt wrth gamu ymlaen, diolch i giciau o鈥檙 smotyn ar 么l awr a hanner cyfartal. Ond nid t卯m sydd yn dibynnu ar amser ychwanegol na chiciau o'r smotyn yw Merthyr.

Wedi cael eu hail drefnu gan eu cefnogwyr ar 么l cwymp y clwb gwreiddiol, sef Merthyr Tydfil, mae鈥檙 t卯m newydd, Tref Merthyr ar frig adran un o gynghrair y De a鈥檙 Gorllewin o gynghrair De Lloegr. Tydyn nhw heb golli unrhyw g锚m adref y tymor yma, ac ar 么l cyfnod o orfod chwarae ar faes clwb Ffynnon Taf gerllaw, mae t卯m p锚l droed Merthyr yn 么l yn yr hen gartref ar Barc Penydarren ers yr hydref yma.

Ond nid dyna鈥檙 stori yn ei chyfanrwydd. Mae鈥檙 cae wedi ei addasu i fod yn un pob tymor, gyda gwair plastic artiffisial, yn debyg iawn i'r un a geir yn Uwch Gynghrair Cymru ar Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt, ble mae鈥檙 Seintiau Newydd yn chwarae. Fel y Seintiau, mae Merthyr wedi dod yn d卯m anodd iawn i鈥檞 curo ar eu maes eu hunain. Eu record gartref hyd yn hyn y tymor yma ydi chwarae pedair gem ar ddeg, ennill deuddeg a chyfartal mewn dwy arall.

Daeth y llwyddiant diweddaraf y Sadwrn diwethaf wrth iddynt guro Paulton Rovers sydd yn y pedwerydd safle, o dair g么l i ddwy, a hynny o flaen torf o dros bedwar cant. Yn wir mae鈥檙 nifer sydd yn eu dilyn yn galonogol, gyda thorfeydd o dros bedwar cant yn prysur ddod yn gyfarwydd ym Mhenydarren. Byddai llwyddiant ar ddiwedd y tymor yn codi Merthyr i brif adran cynghrair de Lloegr, a dim ond un cam is nac Adran De'r Gyngres.

Yn y gogledd, mae Bae Colwyn eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y safon gyfatebol wrth iddynt gystadlu yn Adran y Gogledd o鈥檙 Gyngres. Un gris yn is na鈥檙 safon mae Wrecsam ynddo ar hyn o bryd. G锚m gyfartal un g么l yr un, a gafwyd adref ar faes Ffordd Llaneilian y Sadwrn diwethaf yn erbyn Dinas Rhydychen.

Golyga hyn fod Bae Colwyn yn yr wythfed safle, ac o fewn cyrraedd y safle a fyddai yn eu galluogi i gystadlu am ddyrchafiad drwy gemau ail gyfle. Fodd bynnag nid gwaith hawdd ydi cynnal timoedd sydd yn awyddus am welliant.

Cyhoeddodd cadeirydd clwb Bae Colwyn, David Messom, yn rhaglen y clwb yr wythnos diwethaf fod angen mwy o gefnogwyr os am gynnal yr ymgais am ddyrchafiad. Roedd y g锚m gyfartal yr wythnos diwethaf yn golygu fod y Bae ar rediad o wyth gem heb golli. Ond tra mae Mr Messom yn cyfeirio at dorfeydd o dros saith cant ym Mangor a Rhyl yn Uwch Gynghrair Cymru, mae鈥檔 pryderu mai eithriad ydi gweld mwy na thri chant yn mynychu maes Ffordd Llaneilian.

Wrth annog y cefnogwyr i berswadio eraill i fynychu gemau, mae鈥檙 clwb hefyd wedi gorfod lleihau'r garfan i sicrhau nad yw gwariant yn mynd yn drech nac ymdrechion a gweithgareddau鈥檙 clwb i gynnal y safon bresennol. Ymddengys fod hyn yn fater o sylw brys ac fe all dyfodol y clwb a鈥檌 lwyddiant ddibynnu ar ddiddordeb a chefnogaeth yr ardal.

Yn y cyfamser. Fel cydnabyddiaeth o lwyddiant drwy fis Rhagfyr heb golli unrhyw g锚m, mae'r rheolwr, Frank Sinclair, wedi ei enwi fel rheolwr y mis o fewn y gynghrair. Llongyfarchiadau iddo a d鈥檕es ond obeithio y gall trigolion yr ardal ddod ymlaen, fel ym Merthyr, i gefnogi ymdrechion y t卯m a'r clwb i wella safonau a cheisio dyrchafiad i gynghrair uwch.

Pob hwyl i Ferthyr a鈥檜 cefnogwyr am weddill y tymor a hyderwn y byddant yn ennill dyrchafiad arall ar ddiwedd y tymor.

Pwy a 诺yr hefyd na allwn weld Wrecsam a Bae Colwyn yn cystadlu o fewn yr un adran cyn hir?

Dyna beth a fyddai鈥檔 sefyllfa unigryw!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 7fed o Ionawr 2014

Nesaf