Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Rhaglen Dylan Jones - Radio Ysgol Dewi Sant
disgyblion - pupils
gorsaf radio - radio station
dosbarth derbyn - reception class
darlledwyr - broadcasters
portread - profile
cynhyrchu - to produce
yr ochr dechnoleg - the technical side
y newyddion diweddara - the most recent news
pwyllgor - committee
casglu syniadau - collecting ideas
...disgyblion Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl sydd wedi dechrau gorsaf radio newydd eu hunain. Mi gawn ni glywed ychydig o gynnwys yr orsaf radio i ddechrau cyn i ni glywed gan Ynyr Rhys Ellis Davies a Jake Rhys Maxwell, dau o ddisgyblion yr ysgol sydd wedi bod yn darlledu ar yr orsaf newydd. Mi gafodd Dylan Jones sgwrs fach efo nhw ddydd Mercher...
听
Bore Cothi - Heti
byddar - deaf
byddardod - deafness
mewnblaniad - implant
ymenydd - brain
anghyffredin - uncommon
person addas - a suitable person
ofn - a fright
therapi llefaredd arbenigol - specialist speech therapy
gwahaniaethu - differentiate
synau amgylcheddol - environmental sounds
Jake a Rhys o Ysgol Dewi Sant yn sgwrsio efo Dylan Jones am orsaf radio newydd yr ysgol. Da oedden nhw ynde? Dw i'n falch eu bod nhw ddim yn cystadlu yn erbyn Radio Cymru! Dan ni am aros ym myd plant efo'r clip nesa 'ma. Mi gafodd Shan Cothi sgwrs ddydd Mawrth efo Elin Williams ynglyn a鈥檌 merch fach, Heti, sy鈥檔 fyddar. Fel y cawn ni glywed gan Elin, oherwydd natur byddardod Heti, roedd rhaid iddi hi gael triniaeth arbennig iawn...
听
Rhaglen Caryl Parry Jones - Ffasiynau Bwyd
gweini - serving
cawell - cage/basket
anffurfiol - informal
cymdeithasol - sociable
pren - wood
llechen - slate
boncyff - stump
crafu dy gyllell - scraping your knife
cefndir - background
gwaed - blood
...ac os dach chi eisiau clywed mwy o hanes Heti, mi roedd yna raglen arbennig amdani ar S4C, 'O'r Galon - Llais Heti'. Mi fydd yn bosib i chi ei gweld ar wasanaeth Clic. Ydach chi'n un am fynd allan am fwyd, neu yn un sy'n gwylio rhaglenni coginio fel Masterchef neu Dudley? Os ydych chi, dw i'n siwr eich bod wedi sylwi bod yna ffasiynau ynglyn 芒 sut mae gweini bwyd y dyddiau hyn. Dyna fuodd Dorian Morgan, Nerys Howells a Padrig Jones yn ei drafod ar raglen Caryl Parry Jones ddydd Iau...
听
Galwad Cynnar - Twm Elias
chwd - vomit
pydredd - rot
tryloyw - transparent
grifft - spawn
llyffant/broga - frog
llysnafedd - slime
chwyddo - to swell
cenhedlu - to breed
coel - a belief
gofod - space
Wel ar blatiau cyffredin dan ni'n bwyta yn ein ty ni beth bynnag! Rwan ta, wyddoch chi be ydy "grifft y s锚r" neu "bwdr s锚r"? Na? Dw i ddim yn synnu, doeddwn innau ddim yn gwybod chwaith cyn i mi wrando ar esboniad Twm Elias ar 'Galwad Cynnar' ddydd Sul diwetha. Dyma Twm yn egluro yn ei ffordd arbennig ei hun...
听