Main content

Gw锚n lydan ar y Liberty

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

‘If you’re happy and you know it, clap your hands!!” - ie mae’n ddigon hawdd gwenu a chlapio eich dwylo wrth ymateb i gymanfa glodforus o hapusrwydd pan mae eich tîm ar frig y gynghrair- does ond angen edrych ar wyneb Pep Guardiola ar ôl gem i ddeall hyn, a hwyrach Jose Mourinho (gan amlaf!), Mauricio Pocchetino (pan nad ydi o'n colli i Juventus), neu Neil Warnock pan mae Caerdydd ar eu gorau!

Ond, ar y gwaelod, mae pethau'n wahanol!

Anodd fyddai credu y byddai Paul Clement, yn ei ddyddiau gydag Abertawe, wedi cynnal Noson Lawen yng Nghwm Gwendraeth, ac mae Sam Allardyce yn Everton ac Alan Pardew yn West Bromwich fel, i ddyfynnu barddoniaeth y diweddar Gwyn Thomas, ‘pirana mewn powlen yn difa ei gilydd’ a tydi Stoke City heb wneud llawer i roi gwen ar wyneb Paul Lambert ers iddo yntau gyrraedd yno chwaith !

Fe fyddai Mam bob troi yn dweud nad ydi'n costio ddim i wenu, - ond yna, wnaeth Mam druan ddim gorfod meddwl am wario rhyw bum miliwm ar flaenwr neu chwaraewr creadigol i ganol y cae chwaith !

Yna, ymysg yr holl bonllefain, ochneidio a chablu sy’n gwneud i fywyd yng ngwaelodion yr uwch gynghrair edrych fel teyrnas y tywyllwch yng ngweledigaeth uffern, ceir llygedyn o obaith fod yna achubiaeth yn bodoli ynghanol yr annwfn wrth i Abertawe ddilyn rhyw oleuni annisgwyl ers cychwyn y flwyddyn newydd.

Ie, os nad oedd Paul Clement yn edrych yn debygol o gael ei enwebu fel aelod o’r Comedy Club, yna mae Carlos Carvalhal wedi dod a gwên ar wyneb bob un ‘wan’ Jack ar y Liberty.

Hwyrach nad y fo a daflodd y Swans i waelod y gynghrair, ond mae wedi llwyddo i ail wampio'r lle, a chyfarch pawb gyda gwên ar ei wyneb, wrth wedd newid y lle yn gyfan gwbl tra mae'r clapio a chymanfa cefnogwyr capel y Morfa yn codi gobeithion newydd.

Ie wir, ‘Gwena, dyro wen fach i mi , gwena, gei di’n ôl gennyf i’ ydi neges y rheolwr (tybed a fu erioed yn aelod o’r Urdd!?) , a’r stadiwm yn gweld safon o bel droed sy'n eu 'sbarduno i "ganu roc a rôl yn y bore, a chanu roc a rôl yn y pnawn, canu roc a rôl yn yr hwyr, a chredu y bydd popeth yn iawn",- ie, mae’n edrych fel bod sioe gerdd yn ogystal â chymanfa glodforus ar gyrion Treforys erbyn heddiw!

"Ti yw fy mhopeth, yr alarch hardd ar dd诺r y llyn” - does 'na ddim terfyn ar y caneuon o hapusrwydd draw ar y Liberty erbyn hyn !

Gem allweddol arall yn Huddersfield bnawn Sadwrn - pob siawns y gall Carlos Carvalhal yn cynnal Noson Lawen yn swydd Efrog?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

VAR - gwelliant yntau cur pen i bel-droed?