Main content

Diwedd cyfnod Trefor Lloyd Hughes fel Llywydd Cymdeithas Bel-droed Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pan ymddeolodd Syr Alex Ferguson fel rheolwr Manchester United, roedd yn eithaf amlwg mai swydd anodd i’w llenwi a fyddai hon, oherwydd y safonau a’r llwyddiant a fu yn ystod teyrnasiad Ferguson.

Mae yna sefyllfa debyg wedi codi yng Nghymru.

Na tydi Chris Coleman ddim wedi ymddeol ond mae cyfnod Trefor Lloyd Hughes fel Llywydd Cymdeithas Bel Droed Cymru wedi dod i ben.

Fuodd 'na erioed gyfnod mor llewyrchus, ar y cae nac oddi ar y cae?

Tra mae ein tîm cenedlaethol llawn ar fin cyrraedd rowndiau terfynol Ewrop, yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, mae’r gwelliant o fewn safon y chwarae a safon y chwaraewyr wedi bod yn anghrediniol, a hyn i gyd tra bu Trefor yn gosod arweiniad cadarn ar y brig.

Nid gwaith hawdd mohono o gwbl, gan gofio fod y trychineb o golli Gary Speed hefud wedi digwydd yn y cyfnod yma.

Oddi ar y cae, does dim amheuaeth fod yna newid positif wedi digwydd yn agwedd y Gymdeithas tuag at gynnwys yr iaith Gymraeg ym mywyd dyddiol y gymdeithas o dan lywyddiaeth Trefor.

Mae defnydd beunyddiol ac ymarferol o'r iaith yn amlwg iawn ym myd pêl droed Cymru erbyn heddiw, yn enwedig o fewn cyd-destun ein gemau rhyngwladol. Ceir adlewyrchiad o hyn hefyd mewn gemau clybiau Cymreig gyda Wrecsam yn cynnig gwasanaeth yn ddwy ieithog yn eu cyhoeddiadau cyn ac yn ystod gemau ar Gae Ras Prifysgol Glynd诺r.

Mae llais Cymru o fewn y byd rhyngwladol hefyd wedi ennill parch o dan waith Trefor Lloyd Hughes, gyda’r cyrsiau hyfforddi sydd yn cael eu cynnal o dan ofal Osian Roberts yn cael eu canmol led y byd erbyn heddiw.
Diolch i Trefor am ei holl gyfraniadau yn ystod ei gyfnod fel llywydd, ac am osod safonau a fydd yn gosod canllawiau ar gyfer parhad a dilyniant llwyddiannus i’r dyfodol.
Allai wneud dim gwell na wedi dyfynnu geiriau enwog Saunders Lewis o Fuchedd Garmon a'u cymhwyso wrth ystyried gwaith a dylanwad Trefor, nid yn unig at bêl droed yng Nghymru, ond at yr hwb a roddwyd i’r Gymraeg a Chymreictod o dan ei lywyddiaeth. Fe wyddom oll y geiriau hyn, ond dwi i ddim am ymddiheuro am eu defnyddio fel arwydd o effeithiolrwydd Trefor yn ystod ei gyfnod fel llywydd y gymdeithas :-
'Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad, i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol’.

Dyna’r neges fydd angen ei thraddodi a’i gwarchod gan y Llywydd newydd, David Griffiths, a fydd yn cael ei gynorthwyo gan Dai Alun Jones a Kieran O’Connor fel is lywyddion.

Mae’r neges a’r hyn a gyflawnwyd yn hollol glir, felly priodol ydi imi i droi ar Fuchedd Garmon unwaith eto cyn cloi:-

“Sefwch gyda mi yn y bwlch, fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu”.

Diolch Trefor a phob dymuniad da i'w olynydd, David Griffiths.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf