Main content

Marwolaeth Ugo Ehiogu

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roeddwn yn Old Trafford nos Iau yn gweld Manchester United yn camu 'mlaen i rownd cyn derfynol Cynghrair Ewropa wrth guro Anderlecht ar ôl amser ychwanegol.Dau dîm galluog gyda chwaraewyr ar ben eu gem ac mor ffit a heini ac y gall unrhyw un fod.

Does dim byd yn cael ei adael heb ei wirio wrth arwyddo chwaraewr newydd, costus y dyddiau yma, ac mae’n debyg felly y bu yn y gorffennol hefyd, gyda’r sêr newydd yn cael prawf meddygol cyn ymuno a’u clwb newydd.

Ond beth am y staff hyfforddi a'r rheolwyr? Onid oes angen i’w clybiau, eu cyflogwyr, sicrhau eu bod hwythau hefyd, sydd yn gweithio’n barhaus o dan straen , trwy ddisgwyliadau eu cefnogwyr a'u cyfarwyddwyr / perchnogion, beirniadaethau cyson y wasg a'r cyfryngau a’r ddibyniaeth gyson ar ganlyniadau hefyd yn cael yr un oruchwyliaeth feddygol a'r gefnogaeth feddygol ac mae'r chwaraewyr yn ei dderbyn?

Gofynnwyd y cwestiwn yna yn fuan fore Gwener ar un o orsafoedd radio yn sgil y newyddion trist am farwolaeth sydyn hyfforddwr Tottenham Hotspur a chyn chwaraewr Aston Villa, Middlesbrough, a Lloegr, Ugo Ehiogu yn dilyn trawiad ar y galon wrth hyfforddi yng nghanolfan ymarfer Tottenham brynhawn Iau.

Rhai blynyddoedd yn ôl bu yna raglen deledu yn dilyn hynt a helynt rheolwyr, gan fesur effaith eu gwaith a chanlyniadau gemau ar eu hiechyd a'u pwysedd gwaed. Fodd bynnag, allai ddim cofio os gafodd y rhaglen yma unrhyw effaith ar godi ymwybyddiaeth i ofalu am iechyd rheolwyr, er bod y rhaglen ei hun wedi dangos y peryglon iechyd sy'n codi yn sgil y straen maent yn gweithio.

Os gall clybiau pêl droed dreulio amser ac arian i sicrhau fod eu buddsoddiad mewn chwaraewyr yn cael ei gyfiawnhau, yna, onid yw'n amser iddynt hefyd sicrhau eu bod gan hwythau fel pob diwydiant a gweithle arall, oblygiadau i sicrhau lles ac iechyd eu gweithwyr cyflogedig yn y gweithle?

Does ond obeithio fod marwolaeth Ugo Ehiogu yn gallu arwain at well amodau a gofal at holl staff clybiau pêl droed yn y dyfodol ac na fydd yna ddigwyddiad arall llawn mor drist â’r hyn a ddigwyddodd yn Tottenham yn ail adrodd ei hun rhywle arall yn y dyfodol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf