Main content

Hanner tymor Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn y penwythnos yma, mi fydd Uwch gynghrair Cymru yn rhannu'n ddau.

Mae tair gem yn weddill, sef Airbus adre i Gei Cona, gem a allai ddod a th卯m y Maes Awyr o fewn dau bwynt i鈥檙 Seintiau Newydd ar y brig, Rhyl adre i Bort Talbot ac Aberystwyth yn teithio i Gaerfyrddin.

Byddai buddugoliaeth i Aber yn sicrhau mai hwy fyddai yn y chwech uchaf, gyda Rhyl yn gorfod bodloni ar y seithfed safle.

Ond, ac mae yna ond mawr.

Fel y digwyddodd y llynedd yn achos Cei Cona, mae amheuaeth wedi codi yngl欧n 芒 chymhwyster chwaraewyr. Y tro yma, cymhwyster aelod o d卯m Aberystwyth sydd wedi dod a dryswch. Mae yna honiad fod Peter Hoy wedi ei gynnwys yn y t卯m ar y pedwerydd o Ionawr , a hynny drwy gyd ddigwyddiad, mewn gem yn erbyn Cei Cona pan oedd wedi ei wahardd.

Trist yw nodi fod y math yma o anrhefn yn gallu digwydd a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae鈥檔 debygol fy mod wedi cynnig barn flwyddyn yn 么l am y math yma o gawlach yn enwedig drwy ystyried y dylai fod gwybodaeth dechnolegol ar gael i ddarganfod bron popeth sydd angen ei wybod am gymhwyster chwaraewyr.

Allai weld dim rheswm dros feddwl yn wahanol y tro yma! W鈥檔 i ddim beth ydi 鈥榬 cefndir i鈥檙 achos yma, ond tydi hyn ddim yn creu delwedd gadarnhaol o'r Uwch gynghrair. Felly os bydd Aberystwyth yn colli pwyntiau yn dilyn ymholiad i'r achos, fe ddylai hyn weld y Rhyl yn camu ymlaen i'r chwech uchaf, beth bynnag fo鈥檙 canlyniadau yng ngemau Aber a Rhyl ddydd Sadwrn.

Mae gen i fater arall sydd yn fy anesmwytho yng nghyd-destun y rhaniad yma yn nhymor Uwch gynghrair Cymru.

Tydi rhaniad ddim yn glir tan ddiwedd fis Ionawr ( a hynny heb gynnwys cymhlethdod cymhwyster chwaraewyr). Felly nid gwaith hawdd ydi argyhoeddi chwaraewyr i ymuno a鈥檆h t卯m os nad ydych yn glir yngl欧n ai ceisio cyrraedd Ewrop fydd y nod, neu sicrhau'r seithfed safle ar ddiwedd y tymor, neu hyd yn oed ceisio osgoi disgyn allan o鈥檙 gynghrair. Hwyrach y bydd yn hawdd i Airbus a鈥檙 Seintiau geisio gwella eu carfan gan werthu gobeithion y ddau glwb fel ymgais i gipio coron yr Uwch gynghrair a chystadlu ar lwyfan Ewrop ym mhencampwriaeth y pencampwyr neu Gwpan Ewropa.

Mwy anodd fyddai ceisio argyhoeddi chwaraewyr i ymuno a'ch clwb, yn enwedig fel y mae ar hyn o bryd i'r Rhyl neu Aberystwyth gan nad yw trefn y gemau ar gyfer ail hanner y tymor mor glir.

D鈥檕es fawr o obaith ceisio argyhoeddi rhywun ar 么l diwedd yr wythnos yma gydag ond ychydig o ddyddiau yn weddill cyn cloi'r ffenestr drosglwyddo.

Annheg felly, yn fy marn i ydi鈥檙 drefn sydd yn ffafrio rhai clybiau ond yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i eraill.

Cawn weld cyn hir os fydd timau wedi gallu cryfhau eu carfan yn ystod y cyfnod trosglwyddo ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Mae Cei Cona sydd yn ail o waelod yr Uwch gynghrair eisoes wedi perswadio tylwyth o chwaraewyr( wyth i gyd) i ymuno a hwy i geisio cyflawni'r nod o gadw鈥檙 clwb ym mhrif gynghrair Cymru ar gyfer y tymor nesaf.

O leiaf mae'r chwaraewyr yma yn gwybod yn union yr hyn sudd yn ddisgwyliedig ohonynt!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf