Main content

Ar Y Marc: Groundhoppers yng Nghymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’n debyg fod llawer ohonoch wedi clywed yr hen stori am y cefnogwr a gysylltodd â'i glwb pêl droed lleol gan ofyn pa bryd mae’r gêm yn dechrau? Yr ateb a gafwyd oedd, pryd y gallwch gyrraedd yma!

Gwireddwyd yr hen stori yma i nifer o ddilynwyr pêl droed yng ngogledd Cymru'r penwythnos diwethaf pan ddaeth tyrfa o ‘groundhoppers’ ('sboncwyr' yn Gymraeg, yn ôl yr hyn dwi'n ddeall,) ar daith i weld deg gem mewn pedwar diwrnod, i gyd yng Nghynghrair Undebol 'Lock Stock' y Gogledd!

Dilynwyr sydd yn ymddiddori mewn ymweld â chymaint o gaeau pêl droed ag sydd bosibl ydi'r sboncwyr yma, gyda theithiau i ardaloedd penodol wedi eu trefnu ar eu cyfer. Trefnwyd y bererindod yma gan gwmni Groundhop UK, sydd wedi ei leoli yng nghanolbarth Lloegr o dan berchnogaeth Chris Berezai.

Trefnwyd llety i'r dilynwyr, ym mhrifysgol Caer, cyn teithio i weld Helygain yn chware Maesglas nos Wener.

Cychwyn buan ar y Sadwrn wrth deithio ar draws y gogledd i Bwllheli ar gyfer gem fore rhwng y dref a Llanrug, yna i Nefyn( gem cynghrair Gwynedd yn erbyn Llanllyfni) cyn cyrraedd Abermo gyda’r nos ar gyfer eu gem yn erbyn Llanrwst, cyn ail gychwyn y siwrne ar fore Sul i Flaenau Ffestiniog( yn erbyn Penmaenmawr). Cafwyd teithio mewn steil hefyd wrth i'r cefnogwyr ddal trên Rheilffordd Ffestiniog hyd at Benrhyndeudraeth ( yn erbyn Gwalchmai) cyn gorffen y dydd ym Mhenygroes i wylio Dyffryn Nantlle yn chware Amlwch.

Ar ddydd Llun gŵyl y Banc, cyrhaeddodd y teithwyr Dreffynnon ( a'u gem yn erbyn Llandyrnog) , cyn symud i Lanelwy a gorffen y daith ym Mae Cinmel. Tipyn o ymroddiad !

Diddorol oedd cynnal sgwrs gyda’r dilynwyr yma ac yn enwedig Jack Warner, gwr a deithiodd o ddinas Perth yng ngorllewin Awstralia yn bwrpasol i grwydro ar bererindod pêl droediad ar draws gogledd Cymru( yn ogystal ag ymweld â pherthnasau ym Mhrydain).

Cefnogwr pybyr o dîm Perth Glory yng nghynghrair cenhedlaeth Awstralia ydi Jack ac yn eiddo ar docyn tymor i weld ei dim. Mynnodd imi ddeall fodd bynnag mai gemau cartref oedd yn ei weld, gan y gallasai gem oddi cartref olygu taith o ryw bedwar mil o filltiroedd iddo! Ond roedd wedi ei blesio yn fawr yng ngogledd Cymru gan gyfarfod trigolion lleol ac edmygu’r olygfa .

Ond nid dyma’r unig dramorwr a oedd ar y daith. Roedd yna hefyd ddilynwyr pêl droed o Sweden a’r Almaen yn edrych ar dimau bychain Cymru!

Dwedodd y trefnydd, Chris Berezai, wrthyf ei fod yn cysylltu a swyddogion cynghreiriau bychain o gwmpas yr Deyrnas Unedig gan gytuno a hwy ar pa gemau y gellir ymweld a nhw. I sicrhau llwyddiant y daith ac i gynnig cymaint o gemau ag sydd bosibl, mae cynghreiriau yn barod i ail drefnu dyddiau ac amserau'r gemau i gynnig cymaint o brofiadau pêl droed ag sydd bosibl i'r teithwyr.

Gwêl y clybiau hefyd y byddai mewnbwn o ryw dau gant o gefnogwyr ychwanegol yn cael effaith cadarnhaol iawn ar gyllid y cwb mewn un gêm. Roedd yna dorf o bron bedwar cant yn Nhreffynnon fore Llun( ar gyfer gem a gychwynnodd am un ar ddeg y bore!)

Tybed a ydi'n werth ystyried cynnal mwy o gemau ar wahanol adegau o'r dydd( gan gynnwys y bore) fel arbrawf i edrych os fyddai hyn yn codi'r nifer o gefnogwyr sy'n mynychu gemau?

Mae Uwch gynghrair Cymru eisoes yn pryderu am ddiffyg torfeydd, - tybed a fyddai cynnal gemau rhwng timau cyfagos ystod y bore yn werth ei ystyried?

Nid oed yna gem ar y teledu ar yr adeg yma i amharu ar faint y dilynwyr. Does dim amheuaeth fod cyrhaeddiad sboncwyr y caeau pêl droed yma wedi gafael yn nychymyg y cefnogwyr lleol yn yr ardaloedd maent wedi ymweld â hwy.

Da gweld fod pêl droed yn is gynghreiriau Cymru yn cael sylw haeddiannol hefyd, a da oedd deall fod y trefnydd, sydd yn byw yn swydd Derby, ond a gafodd ei fagu ym Mhenybont ac Abertawe, yn parhau i gadw ei gysylltiad a Chymru drwy drefnu’r teithiau yma ar hyd a lled ein gwlad. Pob hwyl i’r pererinion pêl droed ar eu teithiau yn y dyfodol.

Pob hwyl i’r pererinion pêl droed ar eu teithiau yn y dyfodol.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Tra Bo Dau: Adrian a Sara Lloyd Gregory