Main content

Blog Ar y Marc - Côr Eisteddfod

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae yna ddigon o gythraul canu a chorau mewn eisteddfod, ond wyddoch chi fod yna gôr yn gysylltiedig â chlwb peldroed o Uwchgynghrair Lloegr wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Stori hir, ond os ydych yn gefnogwr Everton yna fe fyddwch yn gyfarwydd iawn a’r emyn sydd yn cael ei morio fel cymanfa o addoliad cyn y gemau ar Barc Goodison, wrth gyd-ganu ‘..and if you know yer history’. Wel mae yna hanes am gôr a oedd yn gysylltiedig â chlwb Everton yn y gorffennol pell, a fu yn yr eisteddfod genedlaethol .

Rwyf eisoes wedi cyfeirio ym Mlog Ar y Marc, at Wil Cuff, sef y gŵr arloesol a drodd Everton o fod yn dîm ysgol Sul eglwys Sant Domingo i fod yr Everton proffesiynol yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Cefndir Cymreig oedd cefndir Cuff, ei fam yn enedigol o Bwllheli, yn rhugl yn y Gymraeg ac yn cyflogi dwy forwyn Cymraeg eu hiaith yn y cartref yn Spellow Lane gerllaw Parc Goodison. D’oes dim amheuaeth mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd, ond Sais o Lundain oedd Henry, gwr Mary Cuff, ac mae’n debyg mai yn yr oes Fictoranaidd honno, Saesneg oedd iaith yr aelwyd unwaith y daethai'r tad adref. Ond, roedd y cefndir Cymreig yn cael ei barchu , a phan oedd Wil Cuff yn arweinydd côr Capel Sant Domingo (ac yntau ond un ar hugain oed), mae’n dystiolaeth iddo fynd a’r côr i gystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol.

Gan mai yn 1869 y cafodd Wil ei eni, ac yntau yn un ar hugain oed ar y pryd, mae lle i gredu mai i Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1890 aeth Côr yr eglwys o Lerpwl.

Fodd bynnag mae’r wybodaeth a geir yng ngwefan ‘Toffee Web’ sef gwefan am glwb Everton yn honni i'r côr ennill yr ail wobr. Bydd angen mwy o dystiolaeth i wirio hyn a byddaf yn falch iawn petai unrhyw un o’r darllenwyr neu swyddogion yr Eisteddfod yn gallu cadarnhau hyn. Ie, sialens i chi ddarganfod mwy am ‘yer history’ fel cefnogwyr Everton!

Ond tydi’r Eisteddfod a pheldroed ddim yn unig yn gysylltiedig â hanes côr o'r gorffennol pell.

I aros yn ninas Lerpwl, ceir dylanwad peldroed ar y bardd Aled Lewis Evans wrth ymweld â'r gofeb y tu allan i Anfield a'r cof am gefnogwyr Lerpwl a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Hillsborough. "Cornel fach o galon cyfeillion o Gymru, a'u hanwyldeb a'u diniweidrwydd yn wyneb angau yn fur fel y cof na ellir ei ddileu". Neges o gariad sydd yng Ngherddi Albert Street hefyd, gan Geraint Jarman lle mae ei galon "yn estyn cân i ti, mor ddwys a hiraethus a moliant côr y Kop ar bnawn ddydd Sadwrn."

Crefftwaith ydi cywydd Tudur Dylan Jones sy'n canmol Ryan Giggs, fel un sy'n "ddewin uwch pêl ddiwyd" ag sy'n gallu " agor bwlch a ffugio'r bas". Mae'r disgrifiadau llenyddol gan y bardd yn grefft cystal â chrefft Giggs ar y cae, -" I'r chwaraewr, ei fwriad, yw byw i'w glwb ac i'w wlad, a rhoi'i hun yn arweinydd, i sŵn y ffans yn y ffydd."

Troi at ochr fwy annerbyniol o’r gêm mae Siôn Eirian yn "Agro", ar strydoedd Wrecsam, lle mae'n gweld " gorthrwm yn magu gorthrwm" , tra mae Bryan Martin Davies yn y ‘Gêm Beldroed’ yn disgrifio'r wefr o gefnogi Wrecsam " fel gwaed mewn gwythiennau, llifa'r denim yn y strydoedd unffurf" gan orffen gyda gormes "nerth y perthyn, Wrecsam rule, OK?"

Ond, alla'i ddim cloi'r heb gyfeirio at un o gerddi arobryn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989 ar y testun 'Arwyr', gan Selwyn Griffiths. Cynnwys y gerdd yma elfennau atgofus a hiraethus y bardd am ddyddiau aur y gêm, a'i atgofion cynnar am un o'i arwyr personol, sef dewin y bêl, Stanley Matthews. Creodd dewin y geiriau o Benisarwaun, gampwaith wrth ddisgrifio Matthews yn creu'r gôl dyngedfennol i Blackpool yn ffeinal 1953 yn erbyn Bolton Wanderers, yn Wembley gan weld "cyffro, gwefr, gwyrth a gorfoledd - telyneg o gôl" a'i "wyneb o wêr, yn sglein o lawenydd, wrth glensio'i fedal".

Rhaid i minnau ganu’n iach, ac felly pob hwyl i’r corau (a’r beirdd) yn Ninbych yr wythnos yma.

D’oes fawr o siawns o weld teulu'r Glazers, John Henry, Daniel Levy na Roman Abramovitch yn arwain corau cymysg o gapeli cyfagos i feysydd Old Trafford, Anfield, White Hart Lane na Stamford Bridge yn Ninbych brynhawn yfory.

Tydi’r oes wedi newid!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 01 Awst 2013

Nesaf

Ffeinal y Talwrn: y Gorau o'r Gweddill