Main content

Llais P锚l-droed ar Radio Cymru

Newyddion

Yn dilyn llwyddiant Abertawe yn ennill Cwpan Y Gynghrair Bêl-droed a dyrchafiad Caerdydd y tymor diwethaf i ymuno gyda’r Swans yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn; buddugoliaeth Wrecsam yn cipio Tlws yr FA yn Wembley fis Mawrth a Chasnewydd yn dychwelyd i’r Gynghrair bêl-droed yn Lloegr am y tro cyntaf ers chwarter canrif ddechrau mis Mai, mae’r tymor pêl-droed newydd yn argoeli’n dda dros ben ar gyfer prif dimau Cymru. 

Ac yn ystod y tymor sydd i ddod bydd modd i wrandawyr Radio Cymru mewn gwahanol rannau o’r wlad glywed mwy o sylwebaethau byw nag erioed o’r blaen.

Mae 主播大秀 Cymru wedi sicrhau’r hawliau i alluogi Radio Cymru i ddarlledu gemau’r Uwch Gynghrair, sef gemau Abertawe a Chaerdydd, ar FM yn unig ar hyd a lled de Cymru. Gall cefnogwyr Caerdydd yn y de-ddwyrain glywed sylwebaethau byw ar FM o’r mwyafrif llethol o gemau’r tymor. Yn yr un modd gall cefnogwyr Abertawe yn y de-orllewin glywed sylwebaethau byw o’r mwyafrif llethol o gemau’r tymor yn yr ardal honno hefyd. Mae’r hawliau hefyd yn sicrhau y gall Radio Cymru ddarlledu rhai gemau mawr penodol drwy Gymru gyfan.

 Felly tra bod gwrandawyr ar FM yn y de-ddwyrain neu’r de-orllewin yn gwrando ar sylwebaeth lawn o gêm yn yr Uwch Gynghrair yn Lloegr, bydd gweddill gwrandawyr Radio Cymru ar FM yn gallu clywed gweddill chwaraeon y diwrnod ar Camp Lawn, neu, os ar adeg arall o’r wythnos byddan nhw’n gallu gwrando ar wasanaeth arferol Radio Cymru.

Bydd gwrandawyr yn ardal trosglwyddydd Blaenplwyf hefyd yn gallu clywed mwy o sylwebaethau’r Uwch-gynghrair yn Lloegr – bydd y gemau gaiff eu darlledu yn y rhan hon o’r wlad fodd bynnag yn amrywio oherwydd ystyriaethau eraill o wythnos i wythnos yn ystod y tymor.

I’r rheiny nad sy’n ddilynwyr pêl-droed fodd bynnag - yn y de-ddwyrain, y de-orllewin neu yn y canolbarth (Blaenplwyf) - bydd modd i chi gael dewis amgen pan ddarlledir y sylwebaethau hyn - oherwydd taw dim ond ar radio FM y bydd mwyafrif y sylwebaethau arbennig yma i’w cael. Bydd gwasanaeth arferol Radio Cymru i’w glywed ar yr holl lwyfannau digidol, sef radio DAB, teledu digidol a’r we. 

Y gorau o ddau fyd felly i holl wrandawyr Radio Cymru!

Y penwythnos hwn bydd gwrandawyr mewn gwahanol rannau o Gymru yn gallu clywed y canlynol:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - 14 Awst 2013

Nesaf

Cychwyn y Gynghrair B锚l-droed