Main content

Cwpan Y Byd Brasil 2014

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Iau nesaf bydd popeth yn ddechrau.

Brasil yn erbyn Croatia, a gobeithio fod y stadia i gyd wedi eu cwblhau ac y bydd popeth yn wir yn ei le.

Ond mae yna bryder arall yn codi.

Rydym eisoes yn gwybod na fyddwn yn gweld Gareth Bale nac Aaron Ramsey, na chwaith Zlatan Ibrahimovic, gan nad ydi Cymru na Sweden wedi cyrraedd y ffeinals.

Ond gyda llai nac wythnos cyn y gêm gyntaf, mae pryder am ffitrwydd llawer i un sydd yn gwneud i’w timau cenedlaethol chwysu ar hyn o bryd.

Ymddengys fod y rhestr o chwaraewyr sydd wedi eu hanafu ar hyn o bryd yn cynnwys Cristiano Ronaldo (Portiwgal), Franck Ribery (Ffrainc) , Robin van Persie(Iseldiroedd), Luis Suarez(Uruguay), Diego Costa(Sbaen), Wayne Rooney (Lloegr), a golwr yr Almaen, Manuel Neuer. Tipyn o golled os na fydd y rhain yn holliach ar gyfer wythnos nesaf a’r gemau i ddilyn!

Ond, ffitrwydd y sêr neu ddim, pwy sy’n debygol o ennill?

Allwn ni ddim cael cystadleuaeth o'r math yma heb y dyfalu a dwi ddim am fod yn wahanol. Sut felly y gallwn ddod i ganlyniad cyn y gic gyntaf?

Ymddengys fod pob math o ymchwiliadau yn cael eu cynnal y dyddiau yma i benderfynu sut mae timau yn llwyddo.

Mae’r llyfr ‘Soccernomics’ eisoes wedi dod i ganlyniad mai’r timau sydd yn fwyaf llwyddiannus ydi'r rheini sydd yn buddsoddi fwyaf yn y tîm! Does dim angen ymchwiliad gwyddonol i ddod i'r canlyniad yna - does ond ichi ofyn i dimau o fewn uwch gynghrair Cymru, neu hyd yn oed is gynghreiriau i ddod i'r un canlyniad? Ond a ellir gosod y ddamcaniaeth yma i dimau cenedlaethol?

Ymddengys fod economegwyr o'r Almaen wedi penderfynu, mewn erthygl yng nghylchgrawn ‘ Der Spiegel’ mai’r Almaen a Sbaen fudd yn cystadlu yn y ffeinal, hyn ar sail gwerth ariannol y chwaraewyr sydd yn y gemau, ar sail eu gwerth ar y farchnad drosglwyddo. Maent yn ategu eu rhagfynegiad drwy gyfeirio at y drefn debyg a ddefnyddiwyd ganddynt i gyhoeddi mai'r Eidal a fyddai yn llwyddiannus yn 2006, a hefyd llwyddiant Sbaen yn 2010, ac yn ogystal â’u llwyddiant yng nghystadleuaeth cenhedloedd Ewrop yn 2008 a 2012.

Ond maent wedi dweud hefyd fod rhagfynegi llwyddiant i unrhyw dim ym Mrasil eleni wedi bod yn fwy anodd gan nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng gwerthoedd llawer o’r chwaraewyr fydd yn cymryd rhan.

Ar y llaw arall mae’r gwyddonydd enwog o Brifysgol Caergrawnt, Syr Stephen Hawking ( sydd a dim diddordeb mewn pêl droed) wedi defnyddio trefn wyddonol di duedd i gyhoeddi mai Brasil fydd yr enillwyr. Ymddengys hefyd ei fod wedi dilorni gobeithion Lloegr a thrwy wneud hynny, tynnu nyth cacwn i’w ben yr ochor draw i Glawdd Offa .

Beth felly am y rhai anwyddonol, sydd yn fodlon derbyn eich arian am eich proffwydoliaeth? Ffefryn y bwcis ydi Brasil, yna'r Ariannin, ac yn drydedd yr Almaen. Yn bersonol does gen i ddim achos i ddadlau yn erbyn Syr Stephen Hawking na chwaith y bwcis.

Allai ddim gweld yn bellach na Brasil. Dechreuwyd eu cynllun ar gyfer ennill Cwpan y Byd yn y Gemau Olympaidd dwy flynedd yn ôl ac ar ôl eu gweld ar Old Trafford yn erbyn Belarws yn y gemau hynny, does gen i ddim achos dros newid fy meddwl.

Cafwyd siom annisgwyl wrth golli yn y ffeinal i Fecsico, ond hwyrach mai gwers i'w ddysgu ohoni oedd honno. Felly coffi, paiprinha, y samba, a stêc amdani dros y mis nesaf! Pwy a ŵyr na welwn y mardis gras ym Mangor uchaf, Corris isaf neu yng nghanol Caerdydd petai'r bois o Frasil yn fuddugol yng nghartref ysbrydol y gêm ym mis Gorffennaf?

Mwynhewch y gemau a'r cystadlu, pwy bynnag fydd yn chwarae!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llais y Seintiau Newydd yn Ewrop

Nesaf