Tra bydd rhaid i ni aros tan fis Mawrth i weld os bydd gobaith i’n tîm cenedlaethol i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn parhau, mae Cymru yn llwyddo ar y maes rhyngwladol mewn ffyrdd eraill.
Mae’r dyfarnwr Iwan Arwel Griffith o Wynedd (sydd hefyd yn aelod o griw rhaglen Ar y Marc) wedi cael ei ddewis i fod ar restr ryngwladol dyfarnwyr pêl-droed FIFA. Golyga hynny bydd yn gymwys i ddyfarnu gemau rhyngwladol llawn yng Nghwpan y byd neu Gwpan UEFA a hefyd gemau rhwng y clybiau hynny sydd yn cystadlu yng nghynghrair Pencampwyr Ewrop yn ogystal â Chwpan Ewropa.
Dechreuodd Iwan Arwel ddyfarnu yng nghynghreiriau lleol ieuenctid Caernarfon ac Ynys Môn a'r cylch pan yn 14 oed, ac wedi gweithio ei ffordd i fyny o gynghreiriau bach y gogledd, ac ers 2013 wedi bod yn un o brif ddyfarnwyr pêl-droed Cymru o fewn Uwch-Gynghrair Dafabet Cymru.
Mae eisoes wedi cael profiad o ddyfarnu ar gyfandir Ewrop, a thrwy drefn y gymdeithas Bêl-droed Cymru a gwledydd eraill mae eisoes wedi dyfarnu gemau ym mhrif gynghreiriau gwlad yr ia, Malta a Gweriniaeth Iwerddon. Yn ogystal mae wedi dyfarnu yng nghystadleuaeth Cwpan Her Irn-Bru yr Alban y tymor yma, yn y gêm rhwng Queen of the South a phencampwyr Gogledd Iwerddon, sef Linfield.
Fe dderbyniodd ddiploma gan y corff UEFA'r llynedd, ar ôl cymhwyso o gwrs craidd Canolfan Arbenigedd Dyfarnu ym mhencadlys UEFA yn Y Swistir, a hynny o dan arweiniad y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol, David Elleray.
Mae Iwan Arwel Griffith, wrth gydnabod ei gyrhaeddiad, yn barod iawn i gydnabod cyfraniad cynllun datblygu a ffitrwydd dyfarnwyr ifanc Cymdeithas Bêl-droed Cymru a sefydlodd seiliau cadarn i'w ddatblygiad personol. Y cam nesaf fydd iddo fynd ar gwrs arbenigol pellach i Sbaen ym mis Ionawr, ac yn dilyn hyn, fe fydd yn gymwys i wisgo bathodyn arbennig FIFA ar ei grys.
Mae Mr Griffith yn ymuno â dau Gymro arall sydd ar y rhestr ryngwladol, sef Lee Evans o Lanllechid a Bryn Markham-Jones o Abertawe.
Dwedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch-Gynghrair Cymru: "Mae'n wych gweld ein swyddogion yn cael eu cydnabod yn fyd eang ac 'rwy'n siŵr y gwnaiff Iwan, fel Lee Evans a Bryn Markham-Jones ein cynrychioli ni a FIFA'n deilwng yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Braf hefyd yw nodi bod Laura Griffiths a Rebecca Thomas wedi eu dyrchafu i fod yn Ddyfarnwyr Cynorthwyol i gystadlaethau benywaidd FIFA am y tro cyntaf."
Llwyddiant arall a chydnabyddiaeth arall i Gymru ar y maes pêl droed ac mewn wythnos ble welwyd y Seintiau Newydd yn camu ymlaen i rownd gyn derfynol Cwpan Her Irn-Bru yr Alban, mae’r camau yma yn argoeli’n dda i ddyfodol pêl droed yng Nghymru .
Pob dymuniad da i'r holl ddyfarnwyr a hefyd i dîm Y Seintiau Newydd ar eu llwyddiant rhyngwladol eleni.