Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 29ain-Tachwedd 4ydd

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Dei Tomos - Linda Thomas

Prif Weithredwr - Chief Executive
Rhydychen - Oxford
dyrchafiad - promotion
ymfudo - to migrate
ymdopi - to cope
dynes ddiarth - a stranger (feminine)
tramorwr - foreigner
dyfalu - guessing
hunaniaeth - identity
dyletswydd - duty

...cyfle arall i glywed sgwrs Dei Tomos efo Linda Thomas, sef y ferch gyntaf i fod yn Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cafodd Linda ei geni yn ne Cymru ond symudodd hi i Loegr pan oedd hi'n ferch fach. Mae hi wedi priodi dyn o Ddolgellau ac erbyn hyn yn siarad iaith y gogs yn rhugl!

 

Geth a Ger - Castell Gwrych

ufflon o drist - trist iawn
dagreuol - tearful
chwerw - bitter
corddi (idiom) - irritated
datblygu - to develop
cysylltiedig - connected
milain - angry
cryfhau - to strengthen
clecian - a sharp sound
tîm cynhyrchu - production team

Gobeithio bydd teulu Siapan Linda yn ei deall yn well na'r teulu o dde Cymru ynde! Fuodd na rywun yn cnocio’ch drws chi nos Lun? Mi fuodd Geth a Ger yn treulio oriau hwyr noson Calan Gaeaf yn nhywyllwch Castell Gwrych Abergele efo’r seicic Elwyn Edwards. Yn ystod y rhaglen am hanner nos, tra bod y criw bach yn eistedd yn un o hen ystafelloedd y castell, mi ddigwyddodd rhywbeth i Elwyn...

 

Bore Cothi - James Lusted

math prin - a rare kind
nam ar ei dyfiant - growth deficiency
cyfres - series
taldra - height
cyflwr - condition
rhwystredig - frustrated
genod - girls
delfrydol - ideal
nain - mam-gu
addasu - to adjust

...ac os ydach chi eisiau gwybod mwy am noson Geth a Ger yng Nghastell Gwrych ewch i wefan Radio Cymru i weld y fideo.
Bore Llun mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo un o sêr rhaglen newydd y 主播大秀, Born Small: the Wedding sef James Lusted. Mae James, sydd yn byw ym Mae Colwyn yn dioddef o diastrophic displacia sef math prin iawn o nam ar ei dyfiant, ac mae’r rhaglen yn dilyn yr wythnosau wrth iddo fo baratoi ar gyfer ei briodas efo Chloe. Mi fuodd James a Shan yn sgwrsio am y rhaglen a sut gwnaeth o gyfarfod Chloe.

 

Aled Hughes - Angharad Tomos

pryderu - poeni
ar gael - available
dilyn ei drywydd ei hun - doing his own thing
cydio - to grasp
gwedd newydd - a new aspect
cymhelliad - motivation
awgrym - suggestion
canllaw - guide
allwedd - key
lluchio - to throw

James Lusted yn fan'na yn sgwrsio efo Shan Cothi. Mae Angharad Tomos wedi sgwennu llyfrau ar gyfer plant ac ar gyfer oedolion ond mae'n bosib y bydd hi'n cael ei chofio'n bennaf am ei llyfrau i blant. Mae cymeriadau fel Rala Rwdins, Strempan a'r Llipryn Llwyd yn rhan o fywyd llawer iawn o blant, a rhieni, Cymru. Mae Aled Hughes yn rhedeg cystadleuaeth i blant sgwennu stori ar hyn o bryd a bore Mercher mi ofynnodd Aled i Angharad sut mae mynd ati i sgwennu straeon i blant...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llysenwau Clybiau Pel-droed

Nesaf

Sul y Cofio - pel-droed a rhyfel