Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Galwad Cynnar - Llyfr Adar Mawr y Plant
poblogaidd - popular
degawdau - decades
awdures - female author
trysor - treasure
rheswm gwych - a brilliant reason
Nico - goldfinch
ysguthan - wood pigeon
Mae Llyfr Mawr y Plant wedi bod yn llyfr poblogiadd gyda phlant Cymru ers degawdau, ond nawr mae Llyfr Adar Mawr y Plant wedi cael ei lansio yn Palas Print Caernarfon. Onwy Gower ydy'r awdures a chredwch neu beidio dim ond deg mlwydd oed ydy hi! Cafodd Gerallt Pennant sgwrs gyda hi pan oedd Onwy ar y ffordd i'r lansiad mawr.
Beti A'i Phobol - Beca Bake Off
cystadleuwyr - competitors
y fyddin - the army
wastad - always
Yr Alban - Scotland
wedi ysgaru - divorced
profiadau - experiences
cwrdd â - cyfarfod efo
personoliaeth - personality
Ac os oes plant neu wyrion gyda chi basai llyfr Onwy yn gwneud anrheg Nadolig gwych iddyn nhw. Beth amdani?
Beca Lyne Pirkis oedd un o gystadleuwyr y Bake Off yn 2013 a hi oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Yn LLoegr oedd Beca'n byw adeg y Bake Off ond erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghymru. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng y ddwy ble mae Beca'n dweud sut gwnaeth hi gyfarfod â'i gwr ddeuddeg mlynedd yn ôl.
Rhaglen Rhys Mwyn - Peggy Seeger
am hogan - what a girl!
cerddorol - musical
casglu caneuon - collecting songs
cyfansoddwraig - female composer
caneuon gwerin - folk songs
adnabyddus iawn - very famous
ysbrydoledig - inspirational
cael dy drwytho - you were being saturated
anodd dygymod (dychmygu) - hard to imagine
dylanwadau yn ei magwraeth hi - the influences on her upbringing
Beca Lyne Pirkis oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Cawson ni ychydig o hanes y gantores sgiffl Peggy Seeger ar raglen Rhys Mwyn. Dyma i chi Beth Celyn yn sôn wrth Rhys am deulu Peggy.
Rhaglen Lisa Gwilym - Aled Wyn Hughes
gwerthfawrogi - to appreciate
yn sgil - as a consequence of
safiad - stance
effeithlon iawn - very effective
hollol uniongyrchol - totally direct
bellach - by now
y genhedlaeth fengach - the younger generation
mwy aml-gyfrwng - more multimedia
meithrin - to nurture
i raddau - to an extent
'Freight Train' oedd y gân yna gan Peggy Seeger. A dan ni'n mynd i aros ym myd cerddoriaeth gyda'r clip nesa. Roedd Aled Wyn Hughes yn arfer canu gyda Cowbois Rhos Botwnnog ac mae e dal yn cynnal gigs ar ben ei hun. Mae e hefyd yn berchen label Recordiau Sbrigyn Ymborth, sef Label y Mis ar raglen Lisa Gwilym.
Roedd Lisa yn ei holi am y newidiadau sy wedi bod yn rôl y labeli recordiau a dyma oedd gan Aled i'w ddweud.
Bore Cothi - Anne Spooner
Cymdeithas Gymraeg - Welsh Society
lan fan hyn - up here
hanu o - derived from
dwyieithog - bilingual
mae'n ddrwg gen i ddweud - I'm sorry to say
dros y ffin - over the border
deugain mlynedd - 40 years
mor loyw ag erioed - as eloquent as ever
ar fin colli - about to lose
cysylltiadau - connections
Aled Wyn Hughes yn gweld bod newidiadau mawr i ddod i'r byd cwrddoriaeth yn y dyfodol. Clip o Bore Cothi sydd nesa a dyn ni'n mynd i glywed Shân Cothi'n sgwrsio gyda Anne Spooner, Cadeirydd Cymdeithas Gymraeg Preston, ond sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol. Roedd Shan eisiau gwybod mwy am hanes y gymdeithas ac mi gaethon ni wybod mwy amhanes Anne yr un pryd.
Galwad Cynnar - Cath Wyllt Caernarfon
darganfyddiad - discovery
corff - body
(h)wyrach - perhaps
dychmygu - to imagine
baddonau - baths
cyfeillion sylwgar - observant friends
yn glamp o beth - a huge thing
cath gyffredin - an orrdinary cat
blew - fur
dadansoddi - to analyse
Fasech chi byth yn meddwl bod Anne ar fin colli ei Chymraeg ar un adeg. Dw i'n siwr bod Cymry Preston yn falch ei bod hi wedi dilyn cwrs Prifysgol Bangor a dod yn rhugl unwaith eto. Mae yna sôn on'd oes am gathod gwyllt yr Alban ond tybed oedd yna gathod gwyllt yng Nghymru hefyd? Duncan Brown fuodd yn sôn ar Galwad Cynnar am ddarganfyddiad diddorol iawn mewn seler yng Nghaernarfon.