Main content

Fyddwn ni ddim yn rhedeg i Baris

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Felly ar ôl rhedeg o gwmpas Ffrainc, fyddwn ni ddim yn y diwedd yn rhedeg i Baris.

Ond dyna ni, dyna brofiad. Daeth i ben grwydro byd a daeth y freuddwyd i ben.

Profiad chwerw-melys oedd y profiad yn Lyon, y melyster o flasu llwyddiant yn Bordeaux, Toulouse, Paris a Lille cyn wynebu realiti, a’r gwin yn troi’n chwerw ar lannau’r Garonne yn Lyon wrth i Cristiano Ronaldo a’i gyfeillion chwalu'r freuddwyd.

A dyma fi - yn sôn am y siom o golli mewn rownd gyn-derfynol! Ie, colli yn y semi-ffeinal! Scersli bilif!!!

Fyddwn i wedi meiddio meddwl y baswn i’n dweud hynny fis yn ôl?

Na, "nefar in Ewrop gw’boi". A dyna sut mae safon a llwyddiant ein tîm wedi ei gyflawni. Nid gobeithio y gallwn ddod allan o'r grwpiau agoriadol, ond mynegi siom am fethu â chyrraedd y ffeinal! Anhygoel!

Wrth gwrs does dim chwerwder - dim ond balchder.

Mae Cymru wedi selio ei lle ar fap chwaraeon y byd, dim mwy o'n stereoteipio fel gwlad o lowyr sy’n chwarae rygbi’n ddidrugaredd, ond gwlad y gân yn wir a gwlad y bêl gron a gwlad a wnaeth gymaint i hybu brawdgarwch rhyngwladol ar lefel na welwyd erioed mewn cyd-destun tebyg o’r blaen.

Enillodd Cymru galonnau cymaint ar y cae, ac yn bendant oddi ar y cae wrth i'r miloedd a heidiodd draw i Ffrainc ddangos beth ydi cefnogaeth gynnes a chalonogol - Calon Lân (neu Coleman Lân) dros y lle a'r anthem yn cael ei chanu ar bob stryd a rownd pob cornel o ddinasoedd la belle France!

Cofiwn am byth y canu, y cymanfaoedd stryd, y clodfori yn y stadia, yr emynau ar y bysus a’r tramiau, a’r fath hwb a gafodd y Gymraeg, nid yn unig yng nghanol y dinasoedd ond hefyd yng nghynadleddau’r wasg gan aelodau o’r Gymdeithas ac Osian Roberts yn benodol.

Pwy all anghofio'r croeso Llydaweg, y gostyngeiddrwydd ymysg y chwaraewyr a fu mor barod i rannu eu hamser gyda’n cefndryd Celtaidd wrth gicio pêl ar lan y môr, neu sgwrsio’n hamddenol wrth grwydro tref Dinard?

Dyma sut i ennill calonnau, dyma sut i hybu ein cenedl, dyma sut i ennill ffrindiau a pharch, a dyma oedd llysgenhadaeth ryngwladol ar ei gorau.
Be’ nesaf? Coron a chadair eisteddfod i bob aelod o'r garfan? Ond, ymlaen i'r hydref â ni.

A fydd y freuddwyd yn parhau yn Vienna? Dinas fy mreuddwydion, ac mae’r disgwyliad rhamantaidd newydd yn barod yn fy ysgwyd. Mae Cwpan y Byd, a'r teithiau tramor yn cychwyn yn Awstria. Felly, Wiener schnitzel a sacher tort amdani.

A do, dwi ‘di bwcio'r awyren i Vienna'n barod.

“Merci et au revoir la belle France”, “Wilkommen Osterreich.”

“Auf gehts” Cymru!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 3ydd - 8fed